Adnabod y paill sy’n cosi’r trwyn

Dr Gareth Griffith ac un o’r casglwyr paill gafodd eu defnyddio ar gyfer yr astudiaeth.

Dr Gareth Griffith ac un o’r casglwyr paill gafodd eu defnyddio ar gyfer yr astudiaeth.

10 Ebrill 2019

Gallai gwyddonwyr fod gam yn nes at ddarparu gwell rhagolygon paill i ddioddefwyr asthma neu dwymyn y gwair, cyflyrau sy’n effeithio ar un o bob pedwar o bobl y Deyrnas Unedig.

Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar brosiect mawr tair blynedd dan arweiniad Prifysgol Bangor i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer.

Mae’r tîm yn IBERS wedi bod yn dilyniannu DNA o samplau paill gan ddefnyddio techneg meta-godio bar, ac yna dadansoddi’r data er mwyn adnabod y gwahanol fathau o baill  a sut yr oeddent yn amrywio o ddydd i ddydd.

Buont hefyd yn defnyddio’r banc hadau yn IBERS sy’n dyddio yn ôl i’r 1920au, yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan brosiect Nodi Cod-bar Cymru yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, er mwyn enwi’r gwahanol rywogaethau o borfa gafodd eu hadnabod gan yr astudiaeth.

Mewn erthygl yn Nature Ecology & Evolution, mae’r ymchwilwyr yn dangos nad ‘llwyth’ y paill gwair yn yr aer un unig all fod yn gyfrifol am y ‘dyddiau drwg’ hynny i ddioddefwyr asthma a thwymyn y gwair.

Gallai’r dyddiau hynny, pan fo pobl yn dioddef mwy o byliau asthma neu dwymyn y gwair mwy dwys, fod yn gysylltiedig â rhyddhau paill o rywogaethau glaswellt penodol.

Ar hyn o bryd nid yw ‘cyfrifon’ a rhagolygon paill yn medru asesu’r cyfanswm rhywogaethau unigol yn yr aer, dim ond cyfanswm llwyth paill y gwair.

A thra bo gwyddonwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y paill a grëir gan rywogaethau unigol o goed neu chwyn, mae peilliau glaswellt fwy neu lai’r un peth yn weledol a does dim modd gwahaniaethu rhyngddynt.

Ond mae meta-godio bar, techneg sy’n galluogi gwyddonwyr i adnabod yn awtomatig unrhyw ddarn o ddefnydd a ddelir mewn sampl o aer, dŵr neu bridd, drwy adnabod a pharu ei ‘god bar’ DNA unigryw, wedi newid hynny.

Am y tro cyntaf, mae peilliau glaswellt a gasglwyd dros gyfnod un tymor alergedd wedi cael eu dadansoddi gan ddefnyddio’r dull arloesol hwn.

Mae hyn wedi galluogi’r tîm i ddechrau ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng rhai mathau o baill a’r dyddiau hynny pan fydd dioddefwyr alergedd i blanhigion a phobl gydag asthma yn dioddef fwyaf.

Yr Athro Simon Creer o Brifysgol Bangor sy’n arwain y gwaith ymchwil.

Dywedodd yr Athro Creer: “Fel un sy’n dioddef o dwymyn y gwair fy hun, rwy’n gwybod er bod y cyfrif paill yn uchel ar rai diwrnodau, fy mod yn profi llai o effeithiau nag ar ddyddiau eraill pan fo’r rhagolygon yn ymddangos yn is. Arweiniodd hyn i mi ac eraill ystyried ai’r llwyth uchel o baill yn yr aer yn unig sydd yn achosi’r broblem, neu a yw gwahanol beilliau glaswellt yn achosi gwahanol lefelau o ymateb.”

Dr Gareth Griffith, Darllenydd yn IBERS, sydd wedi bod yn arwain yr astudiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Griffith: “Mae rhagolygon paill yn adrodd bod cyfanswm y paill yn cyfrif ond nid pa fathau yn union o baill sydd yn yr awyr. Mae'r broblem hon yn codi oherwydd bod llawer o fathau o baill yn edrych yn debyg iawn o dan y microsgop, ond yn achosi effeithiau gwahanol iawn pan fyddwch yn eu hanadlu. Yn benodol, mae peilliau gwair yn edrych yn debyg iawn i’w gilydd ond, o’r dwsinau o rywogaethau glaswellt sydd yn tyfu yn y DU, ychydig iawn sydd yn effeithio ar bobl.”

“Roedd yn braf iawn gweld sut y llwyddodd y dull meta-godio DNA i ddweud wrthym pryd roedd y gwahanol beilliau glaswellt yn bresennol yn yr awyr ar draws y DU. Mae'r prosiect hefyd wedi elwa'n fawr o'r casgliad germplasm enfawr o weiriau a gasglwyd yn IBERS ers i ymchwil ar weiriau ddechrau yn Aberystwyth ganrif yn ôl.”

Mae'r gwaith bellach yn edrych ar o ble y daw'r paill, sut mae'n symud drwy'r aer a sut y gellir cysylltu gwahanol fathau o baill ag alergeddau.

Mae cysylltiadau hefyd yn cael eu hastudio rhwng derbyniadau i ysbytai a phresgripsiynau meddygon teulu ar gyfer rhai triniaethau fferyllol, i nodi cydberthnasau rhwng data gofal iechyd a chynnydd mewn paill glaswellt penodol, gyda'r bwriad o wella rhagolygon paill.

Arweiniwyd yr ymchwil gan dîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr o Brifysgol Bangor, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol New South Wales, Sydney, Prifysgol Queensland a Phrifysgol Caerwrangon mewn cydweithrediad â Swyddfa’r Met. Enw’r grŵp cyfun yw PollerGEN, ac mae wedi derbyn Grant Safonol NERC o £1.2m.

Yr ymchwilwyr fu’n gweithio ar yr astudiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Dr Caitlin Potter, Dr Natasha de Vere, Dr Matt Hegarty a Dr Gareth Griffith.