Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill cystadleuaeth grawnfwydydd y DU

Aelodau tîm buddugol IBERS Cwpan Agronomeg NIAB 2017 James Bradley, Anna Crockford a David Casebow gyda Dr Iwan Owen a Dr Irene Griffiths, Darlithwyr Amaeth IBERS; ar lieiniau treialon gwenith a barlys y myfyrwyr yng Ngogerddan.

09 Mawrth 2018

Mae tîm o fyfyrwyr o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi curo 13 o dimau prifysgolion a cholegau eraill i godi Cwpan Agronomeg NIAB 2017. 

Mae'r gystadleuaeth, sydd wedi cael ei chynnal ers 2012, yn agored i fyfyrwyr amaethyddiaeth a gwyddor cnydau o brifysgolion a cholegau o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. 

Dyma'r tro cyntaf i'r gwpan gael ei hennill gan dîm o'r tu allan i Loegr. 

Aelodau’r tîm, sydd yn astudio am radd mewn amaethyddiaeth, yw James Bradley, David Casebow, Anna Crockford, Rosie Francis a Hannah Hinchliffe. 

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS: “Rwyf wrth fy modd bod tîm IBERS wedi ennill y cwpan nodedig hwn, gan dynnu sylw at yr arbenigedd y mae ein myfyrwyr yn ei ddatblygu mewn tyfu grawnfwydydd fel rhan o'r cyrsiau amaethyddol yma yn Aberystwyth.” 

Mae NIAB yng Nghaergrawnt yn rhedeg cystadleuaeth Cwpan Agronomeg NIAB i herio sgiliau tîm mewn agronomeg, rheoli fferm a gwneud penderfyniadau amaethyddol. 

Dywedodd Dr Irene Griffiths o IBERS: “Cafodd y timau eu briffio i wneud penderfyniadau mewnbynnu ar gyfer tyfu’r math o wenith gaeaf KWS Siskin yn effeithiol a chynhyrchiol.” 

“Mae'r myfyrwyr yn tyfu lleiniau treialon gwenith a haidd yn IBERS Gogerddan y tu allan i Aberystwyth fel rhan o'u cwrs gradd, ond roedd y gystadleuaeth yn golygu taith o 170 milltir i griw IBERS i leiniau cystadlu cerdded, ar safle treialon maes NIAB yng nghanolfan Callow, ger Henffordd. 

“Roedd hyn yn pwysleisio pwysigrwydd cynnig argymhellion yn seiliedig ar arsylwadau maes ac amodau lleol.” 

Cyflawnodd tîm IBERS yr elw gros uchaf o £1,402.55/ha yng nghystadleuaeth 2017, yn seiliedig ar gynnyrch o 11.15t/ha a chost mewnbwn o £80.40/ha. 

Dywedodd cydlynydd treialon cenedlaethol NIAB TAG, Ian Midgley: “Daeth Prifysgol Aberystwyth yn agos i ennill yn 2016, gan orffen yn ail oherwydd gwariant ffwngladdiad uwch, ac roeddent yn benderfynol o gymryd y tlws y tro yma.” 

“Roedd eu hymagwedd yn cynnwys paratoi'n drylwyr cyn gwneud yr argymhelliad terfynol - gan nodi'r holl wybodaeth am y safle a ddarparwyd gan staff NIAB, gwneud defnydd da o ymweliadau llain ar ein safle yn Henffordd, gan nodi'r clefydau sy'n bresennol a deall cryfderau a gwendidau'r math o wenith.” 

“Gofynnodd y tîm lawer o gwestiynau, gan ddeall y derminoleg a ddefnyddiwyd, a hanfodion agronomeg gwenith, ac yn anad dim, roeddent eisiau dysgu. Mae'n sicr wedi talu ffordd.” 

Disgrifiodd Capten y tîm David Casebow y rhesymeg y tu ôl i argymhellion technegol tîm IBERS a oedd yn cyd-fynd â chyfnodau tyfiant y cnwd: “Roedd Septoria yn bresennol yn y cnwd pan wnaethon ni ymweld â Henffordd ym mis Mawrth.” 

“Trwy gymhwyso Bravo 500 (ai clorothalonil) yn yr amserlen T0 a T1 yr oeddem am arafu lledaeniad y clefyd, ac roedd Ignite (ai epoxiconazole) yn T1 yn lleihau'r risg o’r rhwd melyn.” 

“Gyda sgôr ymwrthedd rhag cwympo KWS Siskin o 6, fe wnaethom ddefnyddio clormequat cyfradd lawn yn T1 ac, gan nad oeddem yn anelu at y premiwm malu, fe benderfynom yn erbyn nitrogen ychwanegol.” 

“Roedd y cnwd yn gymharol lân erbyn ymweliad mis Ebrill, er bod digon o rwd melyn a Septoria yn y lleiniau cyfagos, felly tynnodd y tîm gyfradd T2 Adexar (ai epoxiconazole + fluxapyroxad) i dri chwarter.” 

“Yna, fe wnaethom argymell ffwngladdiad T3 gan fod gan KWS Siskin rywfaint o dueddiad i ffiwsariwm a chlefydau clust eraill, ond dewis cyfradd tri chwarter Folicur (ai tebuconazole) i gadw'r costau i lawr,” meddai David.