Parasitiaid: y da, y drwg a’r hyll
Tîm Parasitoleg cyfan IBERS ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth
08 Mawrth 2018
Bydd parasitolegwyr blaenllaw'r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Brydeinig Parasitoleg o 8 tan 11 Ebrill 2018.
Cynhelir y gynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf ers 1986. Dr Justin Pachebat, cynrychiolydd Cyngor BSP sydd yn trefnu; gyda chefnogaeth uwch barasitolegwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Yr Athro Karl Hoffmann yw pennaeth ymchwil Parasitoleg yn IBERS a dywedodd: “Rydym yn falch o fod yn cynnal y digwyddiad pwysig hwn, ac yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr ac arbenigwyr byd-enwog i gyflwyno eu hymchwil a'u darganfyddiadau yn Aberystwyth.”
“Mae hyn hefyd yn gyfle i arddangos ein cynnig ehangach mewn parasitoleg i fyfyrwyr yma yn ein prifysgol â’n tref wych, gan gynnwys y cwrs Ôl-radd MRes newydd mewn Rheoli Parasit a lansiwyd yn gynharach eleni.”
Mae'r Gynhadledd yn denu dros 300 o barasitolegwyr o bob cwr o'r byd i rannu gwybodaeth a thrafod yr ymchwil ddiweddaraf mewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys darganfod a gwrthsefyll cyffuriau, imiwnoleg a brechlynnau, rheolaeth fectorau pryfed, a pharasitoleg dŵr, ecolegol, milfeddygol, bywyd gwyllt a chlinigol. "
Bydd y Gynhadledd pedwar diwrnod yn cychwyn ddydd Sul 8 Ebrill gyda digwyddiad arbennig sy'n agored i bawb am 8pm yn yr Hen Goleg ar 'Dealltwriaeth Gyhoeddus o Wyddoniaeth' gyda'r Athro Peter Chiodini.
Mae'r Athro Chiodini yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yn sôn am barasitiaid y gall pobl eu dal tra ar wyliau. Ef hefyd arweiniodd y tîm oedd yn gyfrifol am wella Cheryl Cole, y bersonoliaeth cyfryngau boblogaidd, o falaria yn 2010.
Parasitolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty ar gyfer Clefydau Trofannol yw’r Athro Chiodini, ac mae'n Athro Er Anrhydedd yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Labordy Cyfeirio Malaria Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) a Labordy Cyfeirio Parasitoleg Cenedlaethol PHE.
Yn ystod y digwyddiad lansio, bydd Bwrsariaeth gyntaf Rhiannon Powell i fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chyflwyno.
Ar ddydd Llun, 9 Ebrill, cynhelir Caffi Gwyddoniaeth am 8pm yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar "Parasitiaid: y da, y drwg a'r hyll".
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb, ac mae'n cynnwys tri siaradwr uchel eu proffil - Yr Athro Rachel Chalmers, Yr Athro Peter Preiser a'r Athro Alex Loukas.
Yr Athro Rachel Chalmers yw Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Uned Gyfeirio Cryptosporidium GIG Cymru.
Daw'r Athro Peter Preiser o Nanyang Technological University (NTU) yn Singapore, lle mae'n arbenigo mewn astudio'r parasit malaria ac mae'n bennaeth y tîm yn NTU sydd wedi darganfod llwybr i frechlyn bosibl ar gyfer malaria.
Mae'r Athro Loukas yn dod o Brifysgol James Cook yn Awstralia ac mae'n ymchwilio i frechlynnau ar gyfer heintiau parasitiaid dynol a gwrthlidiol newydd, ar gyfer trin ystod o anhwylderau hunan-imiwnedd ac alergeddau mewn pobl, gan gynnwys salwch Crohn’s, Colitis a Syndrom Coluddyn Anniddig (IBS).