Myfyrwraig raddedig Sŵoleg IBERS yn dilyn gyrfa ei breuddwydion
Kathryn Beddie
26 Ionawr 2018
Mae Abertystwyth yn lle anhygoel i astudio; yn llawn wynebau cyfeillgar - myfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd - mae'n gartref i ffwrdd o gartref! ", esboniodd Kathryn Beddie, a raddiodd mewn Sŵoleg o IBERS yn 2017.
Cyn ymuno â IBERS, roedd Kathryn wedi sefyll ein arholiadau ysgoloriaeth mynediad a fe ddyfarnwyd Ysgoloriaeth Evan Morgan iddi i gefnogi ei hastudiaethau. Ynghyd â modiwlau mewn Moeseg, Cadwraeth Bywyd Gwyllt a Gwyddor Sŵ, manteisiodd Kathryn ar bopeth sydd gan Aberystwyth i'w gynnig trwy fynychu sgyrsiau ymchwil diddorol ac ymuno â Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth. Diolch i'r cyfoeth o brofiad a gafodd trwy hyn, fe sicrhaodd Kathryn swydd wirfoddol ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor Wildlife yn Sir Benfro, a roddodd syniad gwych iddi am ei phrosiect ymchwil blwyddyn olaf.
"Dewisais astudio effeithiau cyfoethogi ar lefelau gweithgarwch Lemurs caeth, gan fwynhau bob munud o’r profiad.!" meddai.
Bu i waith caled ac ymroddiad Kathryn dalu ar ei ganfed a fe raddiodd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Sŵoleg, â’i phenodi'n geidwad sŵ llawn amser ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor Wildlife yn Ne Cymru. Dywedodd "Aberystwyth yw'r lle mwyaf gwych i astudio a mi fydda i yn fythol falch fy mod wedi dewis y dref fach wych hon a'r Brifysgol i astudio fy ngradd!"
Dywedodd Dr Roger Santer, Darlithydd mewn Sŵoleg yn IBERS "Mae‘n myfyrwyr ni yn cael mynediad at amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol i wella eu hastudiaethau a datblygu sgiliau cyflogadwyedd cryf, a mae manteisio'n llawn ar y rhain yn sicr wedi talu ffordd i Kathryn.
Mae ein Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr sydd ar fin cychwyn yn gyfle gwych i weld beth sydd gan IBERS, Prifysgol Aberystwyth i'w gynnig ... a fe all fod y cam cyntaf ar y daith i yrfa eich breuddwydion!