SilwairSMART – gwella effeithlonrwydd silwair yng Nghymru

24 Tachwedd 2017

Bydd consortiwm newydd sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd gwneud silwair yng Nghymru o 20% yn cael ei lansio yn Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd, ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2017.

Mae SilwairSMART yn cael ei arwain gan wyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a gallai arwain at arbedion blynyddol o fwy na £8m i ffermwyr Cymru.

Bydd y consortiwm yn gweld ymchwilwyr IBERS yn cydweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, Pöttinger, Genus ABS, a Volac.

Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Rhun Fychan, gwyddonydd ymchwil silwair yn IBERS: "Bob blwyddyn, mae tua 5.4 miliwn tunnell o laswellt ffres yn cael ei silweirio yng Nghymru ar ffermydd da byw, gydag amcangyfrif  o £162M.

“Mae cynhyrchu silwair yn sbardun allweddol ar gyfer proffidioldeb ffermydd da byw yng Nghymru, ond mae'r prosesau cywasgu presennol yn aneffeithlon, ac amcangyfrifir colledion o tua 25% mewn systemau silwair clampio.

“Bydd SMARTsilage yn dwyn ynghyd yr arbenigedd silwair i ddod o hyd i ateb trwy gydweithredu i fanteisio ar dechnolegau amaethyddol newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, wedi'u targedu yng nghyfnodau allweddol y broses silweirio, gyda’r nod yn y pen draw o leihau'r colledion cyffredinol mewn silweirio o'r 25% presennol i lawr i 20%.

“Felly, gallai cyflawni'r nod cyffredin hwn yn y pen draw roi budd economaidd i Gymru o £8.1 miliwn y flwyddyn. Ar raddfa fferm sydd yn silweirio 500 tunnell DM o laswellt golyga y bydd 25 tunnell DM ychwanegol ar gael i'w fwydo sy’n werth £3750.”

Mae cynhyrchu bwyd cartref i anifeiliaid yn llwyddiannus, sydd fel arfer yn cael ei gadw mewn silwair glaswellt fel prif borthiant ar gyfer systemau da byw cnoi cil, yn hanfodol i gynaliadwyedd diwydiant da byw Cymru a diogelwch bwyd.

Yn ogystal â chynyddu faint o silwair sydd ar gael i fwydo’r anifeiliaid, bydd lleihau colledion enfawr yn arwain at silwair o ansawdd uwch a pherfformiad gwell yn yr anifail.

Mae colledion silwair yn cynrychioli colled ariannol o ran porthiant, ond maent hefyd yn risg amgylcheddol gan eu bod yn cynnwys colledion maethol, nwyol a hylifol, ar ffurf cyfansoddion carbon anweddol (e.e carbon deuocsid) ac elifiant silwair, yn y drefn honno, gan leihau ansawdd yr aer, a llygru dŵr arwynebol a daear.

Drwy leihau colli silwair bwydo gwerthfawr, mae'n bosibl y bydd y prosiect hwn yn darparu budd economaidd ac amgylcheddol positif i ddiwydiant amaethyddol Cymru.

Amcanion tymor byr prosiect SilwairSMART yw datblygu ymagwedd gydweithredol newydd i fanteisio ar y technolegau amaethyddol diweddaraf, technoleg cynaeafu porthiant a brechlynnau silwair, pob un wedi'i dargedu yng nghyfnodau allweddol y broses silweirio, gyda'r nod cyffredinol o wella effeithlonrwydd cynhyrchu silwair o 20% yng Nghymru.

Yr amcan yn y tymor hir yw defnyddio canfyddiadau'r gwaith hwn a'r cyfleoedd y mae'n eu cyflwyno i ddatblygu nod cyffredin, i ddiffinio Cymru fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil cynhyrchu silwair i gwmnïau a ffermwyr sy'n chwilio am atebion amaethyddol byd-eang.