IBERS, Prifysgol Aberystwyth oedd y dewis naturiol i fyfyrwraig MBiol Bioleg y Môr a Dŵr Croyw

Sasha Bannister yn casglu plisgennau wyau morgwn ar Draeth Aberystwyth.

Sasha Bannister yn casglu plisgennau wyau morgwn ar Draeth Aberystwyth.

09 Ebrill 2018

Mae Sasha Bannister yn ei blwyddyn olaf o'i chwrs Meistr Integredig (MBiol) ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw, ac mae'n esbonio sut mai Aberystwyth yw'r lleoliad perffaith i'w hastudiaethau a'i gwaith ymchwil.

A hithau'n hanu o Bromsgrove yn Swydd Caerwrangon, daeth Sasha i Brifysgol Aberystwyth yn 2014 i astudio am radd BSc (Anrhydedd) ym Mioleg y Môr a Dŵr Croyw, ond newidiodd i gwrs Meistr Integredig, sy'n para 4 blynedd, (MBiol Bioleg y Môr a Dŵr Croyw) pan ddaeth yr opsiwn hwnnw i fod ar gael.

Dywedodd hi, “Mae gen i ddiddordeb mewn ymddygiad anifeiliaid ac ecoleg ers erioed. Daeth fy niddordeb ym mioleg y môr yn wreiddiol o'm harchwiliadau o byllau glân môr yn chwilio am grancod a physgod bychain fel llyfrothod. Rhan o'r rheswm pam roedd astudio yn Aberystwyth yn apelio oedd bod cynifer o byllau glan môr yn yr ardal.”

Am ei phrosiect ymchwil terfynol, ac er mwyn cwblhau'r rhan Meistr o'i chwrs, dewisodd Sasha fanteisio'n llawn ar leoliad Aberystwyth ger y lli drwy ymchwilio i weld a yw Bae Ceredigion yn gyrchfan fridio i'r Morgi Brych (y pysgodyn Scyliorhinus stellaris).

Mae'r prosiect yn golygu craffu ar y ffactorau sy'n gysylltiedig â bridfannau'r Morgi Brych, fel rhywogaethau penodol o wymon a cheisio esbonio pam mae gan rai cynefinoedd fwy o wyau'r Morgi Brych nag eraill. Dywedodd Sasha, “Mae gen i ddiddordeb mewn dwy elfen benodol, sef pam mae rhai rhywogaethau yn esblygu i ymaddasu eu hymddygiad - y cysylltiad rhwng dethol naturiol a dethol rhywiol - yn ogystal ag ecoleg cynefinoedd a biodaearyddiaeth rhywogaethau.”

Mae Sasha yn disgrifio sut mae wedi ymweld â thraethau yn Aberystwyth a'r fro, a gweithio gyda sefydliadau lleol megis Grŵp Bywyd Gwyllt Cymunedol Penparcau, sy'n cynnal helfa plisgennau wyau (pyrsau'r forforwyn) ar draeth Tan-y-bwlch bob ychydig o wythnosau. Bydd y profiad o gasglu data i'r prosiect hwn yn aros yn y cof; "gweld morloi bach yn Aberaeron ac yng Nghlarach oedd un o uchafbwyntiau y gwaith hel data”.

Dr Pippa Moore, Darllenydd a Darlithydd ym Mioleg y Môr yn IBERS, yw arolygydd gwaith Sasha ar brosiect y Morgi Brych. Dywedodd hi, “Gan fod Prifysgol Aberystwyth ar lan Bae Ceredigion, mae gan y myfyrwyr gyfle heb ei ail i archwilio amrywiaeth o gynefinoedd morol. Ar ben hynny mae ganddynt leoedd dysgu modern, adnoddau acwariwm ardderchog a dau gwch ymchwil y glannau. Aberystwyth yw'r brifysgol ddelfrydol i ymdrochi yn astudiaethau bioleg y môr a dŵr croyw.”

Yn y dyfodol mae Sasha yn awyddus i ddod o hyd i waith ym meysydd cadwraeth ac ecoleg, a bydd hi'n cadw llygad ar agor am unrhyw brosiectau PhD perthnasol sy'n ennyn ei diddordeb.

Dywedodd, “Mae'r cwrs MBiol yn gyfle gwych i mi, gan ei fod yn golygu fy mod i wedi gallu pontio'n rhwydd o'r naill brosiect annibynnol (sef fy nhraethawd hir) i'r llall (sef fy mhrosiect meistr cyfredol). Drwy hynny rwy wedi gallu dal ati â'r gwaith ymchwil, a chael profiad o wneud prosiect ymchwil annibynnol ar ymddygiad anifeiliaid, ac un arall mewn ecoleg, sy'n golygu imi allu dilyn fy niddordebau yn y ddau faes.”