Darlith gyhoeddus gan arbenigwr GM
Yr Athro Huw Jones
13 Hydref 2017
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth yn trefnu darlith gyhoeddus i drafod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ar gnydau GM.
Teitl y ddarlith yw ‘The Inconvenient Truth about Genetic Modification… it’s perfectly safe’ ac fe gaiff ei thraddodi gan yr Athro Huw Jones o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystywth.
Cynhelir y digwyddiad ym mhrif neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais am 6.30yh nos Iau 19 Hydref 2017. Mae mynediad am ddim ond mae angen cadw tocyn drwy wefan Eventbrite.
Mae gan yr Athro Jones enw da yn fyd-eang ym maes datblygu systemau trawsnewid grawn a chymhwyso dulliau biotechnegol i astudio swyddogaeth genynnau a bridio planhigion.
Mae’n ymchwilio i olygu genomau a genomeg ymarferol ond mae hefyd yn gweithio ym maes asesu risg GMO a pholisi rheoleiddio biotechnoleg.
“Mae gan yr UE y safonau uchaf o asesu risg a diogelwch ar gyfer GMOs drwy’r byd. Fodd bynnag mae gwleidyddion yn dal i ddefnyddio ‘diogelwch’ fel rheswm i atal y defnydd o gnydau GM sydd wedi’u cymeradwyo, sydd, yn eironig, yn erydu ymddiriedaeth yn yr union system sy’n bodoli i gynnal ei ddiogelwch,” meddai’r Athro Jones.
“Yn fy narlith, fe fyddai’n disgrifio gwyddoniaeth a chymwysiadau GM ac yn gosod y rhain mewn cyd-destun ehangach, yn nhermau cynhyrchu meddyginiaethau ac ychwanegion, yn nhermau bridio planhigion modern a’r tirwedd reoleiddiol byd-eang. Byddaf hefyd yn amlygu’r datblygiadau gwyddonol mewn technolegau mwy newydd megis golygu genynnau a’r perygl gwirioneddol y gallai’r UE golli’r buddion y gallai ddod yn ei sgil.”
Yn ogystal â bod yn ddeilydd Cadair mewn Genomeg Trawsfudol ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gan yr Athro Jones Gadair er Anrhydedd yng nghanolfan ymchwil Rothamsted ac yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Nottingham.
Mae’n Is-Gadeirydd panel GMO Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac mae wedi cyhoeddi dros gant o bapurau ymchwil, llyfrau ac erthyglau eraill.