Prifysgol Aberystwyth yn enwi Cymrodyr newydd

Alan Lovatt gyda Cyfarwyddwr IBERS, Yr Athro Mike Gooding

Alan Lovatt gyda Cyfarwyddwr IBERS, Yr Athro Mike Gooding

07 Gorffennaf 2017

Mae chwaraewraig rygbi ryngwladol, hanesydd, Prif Swyddog Gweithredol, ymgyrchydd iaith, a bridiwr glaswellt ymhlith y rhai gaiff eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau graddio eleni ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cynhelir Wythnos Raddio 2017 dros bedwar diwrnod, o ddydd Mawrth 18 tan ddydd Gwener 21 Gorffennaf, yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Caiff chwe Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Bydd dwy radd Baglor Er Anrhydedd yn y Gwyddorau yn cael eu cyflwyno hefyd. 

Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r seremonïau graddio’n achlysur lle gallwn ymfalchïo a dathlu llwyddiannau ein graddedigion a’u croesawu hwy a’u cefnogwyr i Aberystwyth.  Mae hefyd yn gyfle i anrhydeddu campau’r unigolion hynny sydd wedi rhagori yn eu maes, drwy gyflwyno Cymrodoriaethau Er Anrhydedd iddynt a braint fydd cael cyflwyno chwech o unigolion felly eleni.

“Yn ystod yr Wythnos Graddio yn Aberystwyth, byddwn hefyd yn dathlu cyfraniad gwerthfawr aelodau o'r gymuned leol. Eleni, bydd ein myfyrwyr a'n staff wrth eu bodd yn rhannu llwyfan gyda dau unigolyn sy’n derbyn Graddau Baglor Er Anrhydedd - un sydd wedi ymroi ei fywyd i fridio glaswellt arloesol er budd yr economi wledig; a’r llall er mwyn cydnabod ei waith yn y gymuned a’i ymdrechion diflino i hyrwyddo pêl-droed ar lefel leol a chenedlaethol."

Cymrodyr er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth 2017 yw (yn y drefn y’u cyflwynir):

Heini Gruffudd

Athro, awdur, ac ymgyrchydd iaith, Heini Gruffudd yw cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, y mudiad lobïo ar gyfer yr iaith Gymraeg, a chadeirydd Tŷ Tawe, Canolfan Ddiwylliannol Gymraeg Abertawe. Mae’n gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn awdur nifer o lyfrau i ddysgwyr yr iaith. Mae Heini yn ymgyrchu ers deugain mlynedd dros addysg Gymraeg. Arweiniodd sawl prosiect ymchwil ar y defnydd o’r Gymraeg mewn addysg ac ymhlith pobl ifanc, gan roi sylw i bwysigrwydd defnyddio’r iaith yn y cartref, yn y gymuned ac ymysg ffrindiau.  Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 am Yr Erlid, sy’n cyflwyno hanes ei deulu yng Nghymru a’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cyflwynir Heini Gruffudd yn ystod Seremoni 2 brynhawn dydd Mawrth, 18 Gorffennaf.

Dr Louise Rickard

Mae Louise Rickard wedi ennill dros gant o gapiau Rygbi Cymru ac yn gyn-fyfyrwraig o Aberystwyth (BSc Anrhydedd Swoleg, PhD Bioleg y Môr); mae hi bellach yn Bennaeth Bioleg yn Ysgol Woodbridge yn Suffolk.  Yn ystod ei chyfnod yn Aber chwaraeodd rygbi dros dimau Prifysgolion Cymru, Myfyrwyr Cymru a Phrifysgolion Prydain, a hi oedd capten Cymru wrth iddynt guro Lloegr am y tro cyntaf ar unrhyw lefel yn rygbi menywod. Aeth yn ei blaen i gynrychioli Cymru 112 o weithiau, gan chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd a sawl Pencampwriaeth Ewropeaidd a’r Chwe Gwlad. Ymhlith uchafbwyntiau ei gyrfa y mae bod yn aelod o’r tîm a enillodd y Goron Driphlyg yn 2009 ac yn aelod o’r unig dîm teithiol o Gymru i ennill cyfres o gemau prawf yn Ne Affrica yn 1994. Ar wahân i rygbi, bu’n aelod o garfannau cenedlaethol hoci, karate a bobsledio. Cafodd Louise ei henwebu ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Wales 2009. Cyrhaeddodd hefyd rownd derfynol cyfres y BBC, SAS: Are You Tough Enough? Mae Louise bellach wedi newid ei hochr, ac yn chwarae rygbi cyffwrdd i dîm W27 Lloegr. 

Cyflwynir Louise Rickard yn ystod Seremoni 4 brynhawn dydd Mercher, 19 Gorffennaf.

Gareth Howell

Mae Gareth Howell, a raddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth, wedi dangos arweinyddiaeth arloesol wrth ddyfeisio atebion ymarferol mewn gwledydd sy’n wynebu pontio eithafol yn eu bywyd cenedlaethol. Rhwng 1980 a 1995, bu’n helpu i wella safon addysg uwch a thechnegol yn Nepal a Phacistan drwy fenthyciadau Banc y Byd. Yn 1996 yn Bosnia-Herzegovina, yn ystod y cyfnod yn dilyn y rhyfel, arweiniodd dasglu Banc y Byd/Undeb Ewropeaidd i godi $130 miliwn i ailgyflogi’r rhai a fu’n ymladd. Ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd (1999-2002) gweithiodd gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i arwain ailadeiladu yn dilyn y rhyfel yn Kosovo a Dwyrain Timor, gan gynnwys lleihau’r arferion cyflogi gwael wrth gyflogi plant a mudwyr, a chamau i unioni’r llafur gorfodol honedig yn Burma a gwledydd eraill. Yn ddiweddarach, (2007-2010) cefnogodd ddatblygiad economaidd a chymdeithasol yn El Salvador, Georgia, Morocco, a Namibia yn cynorthwyo llywodraethau i wneud y gorau o effaith grantiau gan Gorfforaeth Her Mileniwm Gweinyddiaeth Dramor UDA. Roedd yn Ynad Heddwch yng Nghymru ac fe ddrafftiodd gynigion cynnar ar gyfer datblygiad cyfansoddiadol yng Nghymru, a ddeddfwyd yn y pen draw yn 1999.

Cyflwynir Gareth Howell yn ystod Seremoni 5 fore dydd Iau, 20 Gorffennaf.

Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi

Yn gyn-fyfyriwr o Aberystwyth, mae Sharil Tarmizi yn gyn-reoleiddiwr telegyfathrebu, cyfryngau a phost, ac mae ef bellach yn gweithio fel ymgynghorydd annibynnol. Rhwng 2011 a 2014 ef oedd Cadeirydd a Phrif Weithredwr Comisiwn Cyfathrebu ac Amlgyfrwng Malaysia (MCMC), corff rheoleiddio annibynnol a sefydlwyd trwy Ddeddf Seneddol i ddatblygu, goruchwylio a rheoleiddio’r sector cyfathrebu ac amlgyfrwng ym Malaysia.  Mae gwaith Comisiwn Cyfathrebu ac Amlgyfrwng Malaysia yn cwmpasu cynnyrch a gwasanaethau band eang, rhyngrwyd, telegyfathrebu, TGCh, yn ogystal â gwasanaethau post a chludo a gwasanaethau llofnod digidol.  Roedd hefyd yn Aelod o Fwrdd Corfforaeth y Rhyngrwyd ar gyfer Enwau a Rhifau Penodedig (ICANN) a Chadeirydd Corff Cynghori Llywodraethol ICANN rhwng 2004 a 2007. Enillodd Sharil radd LL.B (Anrhydedd) o Brifysgol Aberystwyth cyn ymgymhwyso yn Fargyfreithiwr Ysbyty Gray. Bu’n gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau rhyngwladol, a bu hefyd yn rhan o Fenter Datblygiad mPowering yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol ac yn Is-Gadeirydd menter Amddiffyn Plant Ar-lein yr Undeb.

Cyflwynir Sharil Tarmizi yn ystod Seremoni 5 fore dydd Iau, 20 Gorffennaf.

Lance Batchelor

Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, Lance Batchelor yw Prif Swyddog Gweithredol Saga ccc, sydd wedi ei restru ar y farchnad stoc. Ymunodd Lance â Saga yn 2014 gan helpu i restru’r cwmni ar y farchnad stoc. Roedd Lance yn Brif Swyddog Gweithredol Domino's Pizza ccc rhwng 2011 a 2014, yn Brif Swyddog Gweithredol Tesco Mobile rhwng 2008 a 2011, a bu hefyd yn Gyfarwyddwr Marchnata gyda Procter & Gamble, Amazon.com a Vodafone.  Treuliodd Lance flynyddoedd cynnar ei yrfa yn y Llynges Frenhinol, lle bu’n gwasanaethu am wyth mlynedd rhwng 1982 a 1991, gan gynnwys gwasanaeth ar longau crynhoi ffrwydron a llongau tanfor.  Mae gan Lance  BSc (Econ) o Brifysgol Aberystwyth (1985) ac MBA o Ysgol Fusnes Harvard (1993).  Mae e’n un o Ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni’r Oriel Genedlaethol. Mae ef hefyd yn Ymddiriedolwr Cymdeithas y Lluman Gwyn ac yn Is-Noddwr Elusen y Llynges Frenhinol a’r Morlu Brenhinol.

Cyflwynir Lance Batchelor yn ystod Seremoni 8 brynhawn dydd Gwener, 21 Gorffennaf.

Professor Martin Conway

Cafodd Martin Conway ei eni a’i fagu yn Aberystwyth, gan fynychu Ysgol Penglais. Astudiodd Hanes yng Ngholeg Wadham ym Mhrifysgol Rhydychen, a dyfarnwyd iddo ei ddoethuriaeth yn 1989. Ers 1990, bu’n Gymrawd a Thiwtor Hanes yng Ngholeg Balliol, yn ogystal ag Athro Hanes Ewropeaidd Cyfoes yn y Gyfadran Hanes. Bu’n un o olygyddion English Historical Review rhwng 2006 a 2016, ac ef yw Cadeirydd y Gyfadran Hanes ar hyn o bryd. Yn ei waith ymchwil, canolbwyntiodd ar nifer o themâu yn Hanes Ewropeaidd yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys ffasgiaeth, cydweithredu adeg rhyfel yn Ewrop ym meddiant y Natsïaid, Catholigiaeth wleidyddol ac, yn fwyaf diweddar, weddnewidiad democrataidd gorllewin Ewrop ar ôl 1945. Mae e’n awdur, neu’n gydawdur, saith o lyfrau. Mae ambell un o’r rhain yn Ewropeaidd o ran eu cwmpas, ac eraill yn canolbwyntio’n fwy penodol ar wlad Belg, gwlad y mae ganddo ddiddordeb mawr yn ei hanes ers iddo gael ei annog gan ei athrawon ym Mhenglais i dreulio blwyddyn yno cyn mynd i’r brifysgol.

Cyflwynir yr Athro Martin Conway yn ystod Seremoni 8 brynhawn dydd Gwener, 21 Gorffennaf.

Graddau Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau

Alan Lovatt

Alan Lovatt yw’r Uwch-Fridiwr Glaswellt yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n bridio glaswellt drwy gydol ei yrfa, yn gyntaf yng Ngorsaf Bridio Planhigion Cymru (a oedd yn perthyn bryd hynny i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth), yna yn Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), a bellach yn IBERS.   Dechreuodd weithio gyda rhygwellt Eidalaidd a chynhyrchu’r amrywiaethau Tribune, Trajan ac AberComo, cyn symud ymlaen yn ddiweddarach i fridio rhygwellt  lluosflwydd tetraploid a chynhyrchu amrywiaethau megis AberTorch, AberGlyn, AberBite ac AberGain. Bu’n gynullydd adran borthiant Cymdeithas Bridwyr Planhigion Cymru. Yn fwyaf nodedig, bu’n ymwneud â’r rhaglen bridio glaswellt uchel ei siwgr arobryn yn IGER/IBERS.

Cyflwynir Alan Lovatt yn ystod Seremoni 3 fore dydd Mercher, 19 Gorffennaf.

David (Dai) Alun Jones

Mae Dai Alun Jones yn Is-Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru, a Chadeirydd Cynghrair Pêl-droed Menywod Ceredigion.  Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid a Datblygiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru rhwng 1998 a 2001, a bu’n cynrychioli Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 5ed Gynhadledd Ieuenctid UEFA yn Saint Petersburg, Rwsia, yn 1999. Bu’n Gyfarwyddwr Cynghrair Cymru rhwng 1995 a 1998 a rhwng 2003 a 2004, a bu’n Gydlynydd Dyfarnwyr yng Nghystadleuaeth Bêl-droed Ryngwladol Cymru (Cystadleuaeth Ian Rush). Yn 2003, ymddeolodd Dai Alun o’i waith fel llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle bu’n gweithio am 37 mlynedd. Mae e’n flaenor ac yn ysgrifennydd yng Nghapel y Morfa, Aberystwyth, ac yn Gadeirydd Cymdeithas Gymunedol Waunfawr.

Cyflwynir Dai Alun Jones yn ystod Seremoni 4 brynhawn dydd Mercher, 19 Gorffennaf.