Llochesi artiffisial yn gymorth i goed oroesi newid yn yr hinsawdd
Catherine Duerden gyda lloches coed
20 Chwefror 2017
Mae llochesi plastig o amgylch glasbrennau coed ifanc er mwyn eu diogelu wrth iddynt dyfu yn olygfa gyffredin, ond mae ymchwil newydd yn awgrymu y gall hyn hefyd eu paratoi ar gyfer goroesi newid yn yr hinsawdd.
Mae un o raddedigion Prifysgol Aberystwyth, Catherine Duerden, wedi dod o hyd i’r gwir amdanynt wrth ysgrifennu ei thraethawd hir MSc a chyhoeddwyd ei chasgliadau yn y cyfnodolyn Quarterly Journal of Forestry.
Ynddo mae hi'n mynd ati i ystyried effeithiau tymor hir llochesi coed gaiff eu defnyddio ar gyfer diogelu coed ifanc yn erbyn yr amgylchedd a llysysyddion.
Wrth siarad am ei hymchwil dywedodd Catherine: "Roedd yn syndod ein bod wedi defnyddio cynifer o'r llochesi hyn heb wir wybod beth yw’r effaith tymor hir ar goed. Caiff sawl miliwn eu cynhyrchu a'u defnyddio yn y DU yn unig bob blwyddyn.
"Mae cymaint yn cael eu defnyddio fel y mae’n debygol y byddwch o fewn 1 cilomedr i loches coed lle bynnag yr ewch yn y byd datblygedig."
Fel rhan o'i thraethawd hir ceisiodd Catherine nodi safleoedd arbrofol o’r gorffennol lle profwyd llochesi coed. Ond profodd hyn yn her gan fod degawdau wedi mynd heibio, arbrofion heb eu cwblhau, cofnodion papur wedi eu colli a llawer o’r arbrofwyr wedi ymddeol.
Fodd bynnag, mewn cabinet ffeilio mewn hen gwpwrdd yn swyddfeydd y Comisiwn Coedwigaeth yn Llanymddyfri, daethpwyd o hyd i gofnodion manwl o astudiaeth gynhwysfawr o goed derw Cymreig a sefydlwyd yn 1994.
Dywedodd Catherine: "Es i yn ôl felly i’r safle, oedd wedi profi 20 math o loches coed, a gallwn edrych ar ddatblygiad y coed derw mes digoes ar ôl 20 mlynedd o dwf. Yr hyn wnes i ddarganfod oedd bod 17 o'r 20 math o loches yn hybu goroesiad, a bod 12 o'r mathau o loches wedi cynyddu sefydlogrwydd y coed yn sylweddol o’i gymharu â'r rhai a dyfwyd heb lochesi coed.
"Mae fy nghanfyddiadau'n awgrymu, unwaith iddynt dyfu allan o’u llochesau, a gyda'r sioc fod llai o amddiffyniad ganddynt, bod y coed wedi gorfod ymateb yn gyflym a chryfhau eu boncyffion er mwyn bod yn fwy gwrthsefyll yr elfennau."
Daeth llochesi coed yn ffenomen fyd-eang pan awgrymodd gwaith ymchwil cynnar y gallai’r ddyfais syml a hawdd i'w gosod chwyldroi coedwigaeth, gan gynyddu goroesiad glasbrennau a hyd yn oed arwain at goed talach. Serch hynny, gwnaethpwyd yr arbrofion i brofi'r cysgodfeydd am gyfnodau o lai na 10 mlynedd.
Awgrymodd rhai hefyd y gallai'r coed talach a theneuach fod yn llai sefydlog yn y dyfodol.
Yn annisgwyl felly, mae’r ymchwil newydd hwn yn awgrymu mai’r gwrthwyneb sy’n wir ar gyfer y mwyafrif o'r coed a astudiwyd, a’u bod yn llai tebygol o dorri mewn gwyntoedd uchel na'r coed fu heb lochesi.
Wrth ystyried yr hyn mae’r ymchwil diweddar yn ei olygu i faes coedwigaeth dywedodd goruchwyliwr Catherine ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Dylan Gwynn-Jones: " Mae angen mwy o ymchwil gan ddefnyddio mwy o safleoedd, ond mae’r astudiaeth gychwynnol hon yn dangos bod llochesi yn darparu buddiannau clir.”
"Mae hyn yn galonogol a falle hyd yn oed yn golygu ein bod wedi paratoi coed iau, yn anfwriadol, ar gyfer digwyddiadau eithafol ddaw yn sgil newid hinsawdd yn y dyfodol".
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Price Davies i Catherine astudio BSc Daearyddiaeth Ffisegol yn Aberystwyth yn 2010, a graddiodd gyda Dosbarth Cyntaf (Anrh) yn 2013.
Yna symudodd i adran IBERS i astudio ar gyfer MSc mewn Rheoli'r Amgylchedd, gan arbenigo mewn Adfer Cynefinoedd a Chadwraeth.
Ariannwyd hyn gan raglen Mynediad i Feistr y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a golygodd weithio mewn partneriaeth ag Ymchwil Fforest Cymru wrth baratoi ei thraethawd hir am effeithiau hirdymor llochesi coed.
Cyhoeddwyd casgliadau traethawd hir Catherine o dan y teitl Survival, height and tree stability responses of Quercus petraea, two decades after the introduction of different tree shelter types yn rhifyn mis Ionawr o’r Quarterly Journal of Forestry.
Dywedodd Catherine: “Mae fy astudiaethau yn Aber wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r wybodaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer y gwaith yr wyf yn ei wneud yn awr. Mae'r MSc yn enwedig hefyd wedi fy helpu i fod yn fwy hyderus a gwella fy sgiliau pobl, ac mae wedi fy nghynorthwyo i fynd am rôl gyhoeddus ynghlwm ag addysg amgylcheddol yr wyf yn wirioneddol fwynhau!”