Hir oes i adar gyda DNA ychwanegol

Ilze Skujina wrth ei gwaith yn y labordy

Ilze Skujina wrth ei gwaith yn y labordy

27 Medi 2016

Mae myfyrwraig  PhD yn Aberystwyth wedi darganfod y gall adar sydd â DNA ychwanegol fyw yn hirach.

Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn 'Aging', bu Ilze Skujina sydd yn fyfyrwraig PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), wrthi yn sgrinio cannoedd o ddilyniannau DNA mitocondraidd am bresenoldeb dyblygu, a dangos eu bod yn ymddangos yn llawer amlach mewn rhywogaethau adar sydd yn byw yn hirach. http://www.aging-us.com/article/ggTZQvxjJXncACAsf/text

Dywedodd Ilze "Mae deall sut mae heneiddio yn digwydd mewn gwahanol grwpiau o rywogaethau fel adar yn cynnig cipolwg ar heneiddio mewn pobl."

Mae’r broses o hedfan yn defnyddio llawer iawn o ynni ac yn creu tymheredd uwch yn y corff ond er gwaethaf hyn, mae adar yn byw yn hirach na mamaliaid o faint corfforol cyfartal.

Mitocondria yw'r 'batris' mewn celloedd a maent yn gyfrifol am gynhyrchu egni cemegol y gall pob cell yn y corff ei ddefnyddio. Mae mitocondria yn chwarae rôl ddeuol hanfodol wrth gynnal tymheredd y corff , ynogystal â chynhyrchu ynni, sydd yn ddoleni i hyd bywyd disgwyliedig.

Dywedodd Dr Rob Mc Mahon, goruchwyliwr PhD Ilze "Un ddamcaniaeth o heneiddio yw bod y mitocondria yn cronni difrod DNA dros gyfnod o amser. Yn wahanol i famaliaid, mae rhai rhywogaethau o adar yn cael copi dyblyg o'r rhan o'r DNA mitocondraidd sy'n rheoli ei swyddogaeth.

Ni wyddom eto os ydy presenoldeb y dyblygu hwn yn hwyluso hyd oes hirach neu yn ganlyniad i ryw ffactor arall sy'n gysylltiedig â hyd oes, ond mae PhD Ilze yn anelu i ymchwilio ymhellach i hyn. "

Mae gwaith diweddar ar heneiddio mewn mamaliaid wedi dangos bod nifer copi mitochondrial a dirywiad swyddogaeth gydag oedran mewn llawer o rywogaethau gan gynnwys bodau dynol.

Dywedodd Ilze "Er mwyn ymchwilio i weld os y gallai presenoldeb y dyblygu hwn chwarae rôl debyg mewn hirhoedledd i rif copi mitocondraidd mewn mamaliaid, roeddwn yn edrych ar y gydberthynas rhwng màs y corff a hirhoedledd mewn 92 o deuluoedd adar ac yn dangos cysylltiad arwyddocaol.

Mae angen ymchwil bellach, ond mae'r canfyddiadau hyn yn rhoi awgrym diddorol o sut y gall dilyniannau mitocondraidd fod yn gysylltiedig â hyd oes estynedig. "

Ariennir yr ymchwil hwn yn rhannol trwy ddyfarniad ysgoloriaeth PhD Dr Owen Price i Ilze, Fujitsu a HPC Cymru i Dr. Vasileios Panagiotis Lenis (a gynorthwyodd gyda'r dadansoddiad cyfrifiadurol) a Ariannu Dewisol Sefydliad BBSRC i DrRob McMahon a Dr Matt Hegarty (goruchwylwyr Ilze).