Myfyriwr Graddedig o Aberystwyth yn Agor Sŵ Newydd
12 Medi 2016
air blynedd ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth, mae Zac Hollinshead wedi gwireddu bywyd oes trwy agor ei sŵ ei hun.
Fe gwblhaodd Zac gwrs gradd mewn Sŵoleg yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn 2013 ac mae bellach wedi sefydlu’r WILD Zoological Park yn Swydd Amwythig.
Dywedodd Zac: “Mae’r fenter newydd hon yn gwireddu fy mreuddwyd oes i fod yn berchen ar fy sŵ fy hun. Roedd gen i gasgliad o anifeiliaid pan ddes i i astudio yn Aberystwyth, ac roeddwn yn ddigon ffodus i allu eu cadw yn yr Animalarium yn Borth, gan ddod yn Brif Ofalwr yno yn ddiweddarach. Wrth astudio am fy ngradd Sŵoleg, sefydlais gwmni allestyn o’r enw Zac’s Wild Encounters; ac mae popeth arall wedi deillio o hynny.”
Cafodd Zac ei fagu ar fferm y tu allan i Wolverhampton ac mae wedi ymddiddori mewn anifeiliaid erioed. Roedd ffrindiau i’w deulu yn rhedeg y ‘West Midlands Safari Park’ ac fe dreuliodd gryn dipyn o amser yno pan oedd yn blentyn.
Trip ysgol i brofi bywyd prifysgol oedd ei ymweliad cyntaf ag Aberystwyth.
“Bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth oedd amser gorau fy mywyd” meddai Zac. Byddwn yn cytuno â’r datganiad bod Aber yn lle eithriadol i ddysgu a byw ynddo, ac roedd cael byw mewn amgylchedd morol, ond mewn lleoliad gwledig, yn ardderchog o safbwynt y pwnc a ddewisais. Roedd fy nghwrs yn hynod ddiddorol ac roedd fy narlithwyr yn gefnogol iawn, ac erbyn i mi raddio roeddwn yn eu hystyried yn ffrindiau.”
Mae Zac a’i dîm wedi cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau Wythnos Wyddoniaeth flynyddol y Brifysgol gyda’i gaban bywyd gwyllt (Wild Encounters Shack), sy’n cynnwys ymlusgiaid, anifeiliaid ac adar; gan addysgu ac annog myfyrwyr sŵoleg y dyfodol.
Dywedodd Dr Ian Scott sy’n uwch-ddarlithydd yn IBERS: “Roedd Zac yn fyfyriwr ymroddedig a dawnus ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo gyda’i fenter newydd. Mae Sŵoleg wedi bod yn ddewis hynod boblogaidd i fyfyrwyr sy’n dod i Aberystwyth ers blynyddoedd lawer. Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2016 yn dangos bod ein cynllun gradd Sŵoleg wedi cael sgôr o 92% am foddhad myfyrwyr.”
Dywedodd Dr Rupert Marshall, Darllenydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid yn IBERS sy’n rhedeg modiwl yr adran ar Wyddor Sŵau, sydd wedi ennill gwobrau, "Mae rhedeg sŵ yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn dawel bach yn dychmygu ei wneud, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i Zac!"
Ychwanegodd Zac “Mae’r sŵ yn anelu at ddarparu profiad unwaith mewn bywyd, cofiadwy ac ymarferol i addysgu ymwelwyr ynglŷn ag anifeiliaid, a’n gweledigaeth yw dysgu ac addysgu pobl a diogelu bywyd gwyllt. Mae’r WILD Zoological Park yn deillio o ‘mreuddwyd i addysgu’r cyhoedd ynglŷn â gwahanol anifeiliaid, cywiro camdybiaethau cyffredin a chwalu’r stigmâu sy’n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid nad ydynt yn ddel ac yn fflwffog.’
Mae’r anifeiliaid a’r staff yn WILD Zoological Park yma i ddiogelu bywyd gwyllt ac i addysgu’r cyhoedd ynglŷn â bywyd gwyllt o bob math. Ein gobaith yw y byddwn, trwy addysgu a meithrin dealltwriaeth ddyfnach, yn ennyn cefnogaeth gryfach i’n helpu i ddiogelu bywyd gwyllt y Byd.”