Derbyn £1.83m ar gyfer tanwydd a chemegolion mwy gwyrdd a rhatach
Y cnwd bioynni Miscanthus
20 Hydref 2016
Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth i dderbyn cyllid gan y fenter ariannu y DG-Brasil ar gyfer prosiect a arweinir gan Brifysgol Caerfaddon (DG) a Phrifysgol Estadual de Campinas (Brasil) i ddatblygu proses sydd yn fwy cost-effeithiol ar gyfer cynhyrchu biodanwydd a chemegau o ddeunydd planhigion.
Dyfarnwyd y prosiect pedair blynedd gan Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) a Sefydliad Ymchwil São Paulo (FAPESP).
Mae'r consortiwm yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerfaddon, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Campinas (Unicamp), Prifysgol São Paulo (USP) a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil mewn Ynni a Deunyddiau (CNPEM).
Dywedodd Dr Joe Gallagher, sy'n arwain y tîm yn IBERS "Mae hwn yn gyfle cyffrous sy'n dwyn ynghyd arbenigedd a chyfleusterau o'r DG a Brasil i fynd i'r afael â'r her fawr o liniaru newid yn yr hinsawdd trwy gynhyrchu biodanwydd a chemegau yn gynaliadwy o blanhigion nad ydynt yn borthiant.
Dywedodd Steve Visscher, dirprwy brif weithredwr- rhyngwladol BBSRC "Mae'r cyd alwad hon a arweinir gan FAPESP, yn dangos cryfder y berthynas BBSRC-FAPESP ac yn adeiladu ar gydweithio hirsefydlog rhwng gwyddonwyr Brasil â’r DG.
Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus BBSRC i Bioynni fel un o'n blaenoriaethau strategol, a manteision gweithio gyda phartneriaid byd-eang i fynd i'r afael â'i heriau. "
Dywedodd Brito Cruz, Cyfarwyddwr Gwyddonol, Sefydliad Ymchwil São Paulo fod y prosiect yn mynd i’r afael â "un o'r heriau pwysicaf mewn cynhyrchu bio-ynni heddiw, sef y defnydd o ddeunydd lignoseliwlosig i gynhyrchu cemegau a thanwydd hylifol