Croeso Cymru yn dyfarnu 5 Seren i Fferm Penglais
Fferm Penglais
29 Tachwedd 2016
Mae neuaddau preswyl mwyaf newydd Prifysgol Aberystwyth wedi cael gradd llety pump seren gan Croeso Cymru.
Fferm Penglais yw'r llety myfyrwr cyntaf yng Nghymru i gael y radd uchaf posibl yn y categori Llety Campws.
Mae'r dyfarniad yn cydnabod ansawdd ac ystod y cyfleusterau a’r gwasanaethau, a’r ffocws arbennig ar awyrgylch, naws, gofal am westeion a sylw i fanylion.
Sgoriodd Fferm Penglais dros 90% ym mhob un o'r saith o feysydd asesu ansawdd, gan sgorio 100% ar gyfer glendid a diwyg allanol.
Yn ei asesiad o Fferm Penglais, dywedodd Visit Wales: "Mae'r cynllun yn wych ac mae’n cynnig llety en-suite mewn fflatiau a stiwdios hardd eu dyluniad i bob ymwelydd.
"Mae yma gyfleusterau o’r radd flaenaf megis y mannau storio a golchi beiciau, golchi dillad, ac ystafelloedd cyfarfod. Mae'r Hyb yn cynnig gofod eistedd gyfoes ac atyniadol i ymwelwyr a gwesteion. Mae'n cynnig yr ansawdd uchaf o ran safonau llety myfyrwyr a hyn o bryd."
Mae’r categori Llety Campws yng nghynllun asesu ansawdd Croeso Cymru yn cwmpasu prifysgolion a cholegau sy'n cynnig llety i ymwelwyr yn ystod cyfnodau gwyliau a hynny ar sail gwely a brecwast neu hunan-ddarpar.
Dywedodd Jim Wallace, Cyfarwyddwr Campws y Brifysgol a'r Gwasanaethau Masnachol: "Mae'r Brifysgol yn falch iawn o glywed y newyddion bod ein preswylfeydd blaenllaw newydd ar Fferm Penglais wedi cael eu dyfarnu 5* achrediad Campws gan Visit Wales. Ers agor yn 2015, mae Fferm Penglais yc cynnig llety myfyrwyr sydd ymhlith y gorau ym Mhrydain. Mae'n darparu amgylchedd gwych i fyw ac astudio gydag ystafelloedd gwely hael en-suite a fflatiau stiwdio manyleb uchel.
"Ar ben hynny fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad campws pump seren, rydym yn falch iawn i fod yn rhan o osod y bar yn uwch ar draws y sector yng Nghymru a gwella ymhellach yr enw da sydd gan brifysgolion Cymru o ran sicrhau safonau o ansawdd ar gyfer ein hymwelwyr."
Yn ychwanegol at yr achrediad pump seren, mae Croeso Cymru hefyd wedi dyfarnu Gwobr Croesawu Beicwyr a Cherddwyr i gydnabod ei fod yn cwrdd ag angheniona gofynioon penodol cerddwyr a beicwyr.
Tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yw Croeso Cymru ac mae’n gyfrifol am annog buddsoddi a gwella ansawdd profiad yr ymwelydd yng Nghymru.