Gwobr ryngwladol ar gyfer partner consortiwm bio a arweinir gan Aberystwyth

Chwith i Dde:Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies (Rheolwr Prosiect), David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella and David Walker.

Chwith i Dde:Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies (Rheolwr Prosiect), David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella and David Walker.

30 Mawrth 2016

Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm "ADMIT BioSuccInnovate", sef un o fentrau Climate-KIC a ariennir gan Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT), ar y cyd â Reverdia a phartneriaid eraill yn Ewrop.

Mae Reverdia- un o'r partneriaid arweiniol yng nghonsortiwm ADMIT Bio-SuccInnovate, wedi ennill 'Partneriaeth Cemegol Bio-Seiliedig y Flwyddyn'. Mae'r gwneuthurwr o asid bio-succinic wedi derbyn y Wobr Busnes Bio yn y ‘World Bio Markets 2016’ yn Amsterdam.

Mae Reverdia yn cyfrannu technoleg Biosuccinium gorau o’i fath ™ i helpu i ddatblygu  pecynnu bio sydd yn seiliedig ar blastig bioddiraddadwy trwy'r fenter Climate-KIC, trwy archwilio'r defnydd o borthiant lignogelliwlosig sydd ar gael yn lleol.Mae'r

Mae'r prosiect yn cael ei gymeradwyo a'i gefnogi gan manwerthwr y DG Waitrose a'r cynhyrchwyr padelli plastig, Sharpak.

Ar ôl casglu'r wobr, dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol Byd-eang  Reverdia  Jo Kockelkoren, "Mae'n anrhydedd i dderbyn y wobr hon ar gyfer ein partneriaeth ADMIT Bio-SuccInnovate. Fel partner yn y consortiwm a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth, mae Reverdia yn dangos sut mae ymagwedd cadwyn werth yn datgloi cynnyrch cyffyrddawy a mwy cynaliadwy ar gyfer y defnyddiwr. "

Dywedodd David Bryant, arweinydd y prosiect yn IBERS, ”Mae IBERS yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect drwy arwain ynghylch gwyddoniaeth y planhigion a chydlynu'r gwaith bioburo i gynhyrchu bioblastigau o'r asid sycsidig a geir o siwgrau lignogelliwlosig.

Rydym yn llongyfarch Reverdia ar eu gwobr -  fe wnaethom ddewis cydweithio â ‘r cwmni  gan eu bod yn gallu darparu a thrwyddedu Biosuccinium™ o ansawdd uchel, gyda thechnoleg gynaliadwy sydd o'r safon orau o'i bath ac sydd hefyd yn llwyddo i wneud yr arbedion gorau o ran nwyon tŷ gwydr.”