Beth am helpu i wella cwrw?

18 Mawrth 2016

Mae dros 20 miliwn peint o gwrw yn cael eu hyfed bob dydd yn y DU ac mae llawer o'r rhain wedi eu cynhrychu gyda chymorth ymchwil gan wyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Gall y celloedd burum sy'n cael eu defnyddio yn ystod y broses fragu gael eu niweidio oherwydd crynodiad uchel o siwgwr ac alcohol neu dymheredd sy'n newid ac mae'r niwed yma yn peri blas cas i'r cwrw. Mae deall paham mae rhai o'r celloedd burum yn goroesi ac eraill yn marw yn allweddol i wella bragu ac mae cydgysylltydd y cynllun Microbioleg, Dr Hazel Davey, wedi bod yn ymchwilio i'r straen ar gelloedd burum gyda chymorth israddedigion ac uwchraddedigion. Mae monitro cwblhau'r bragu yn well gan ddefnyddio'r dulliau sydd wedi'u datblygu yn caniatau i'r cwrw gael ei brosesu'n gynt sydd o fudd i'r bragwr oherwydd costau is ac ansawdd mwy cyson i'r cynnyrch. Yn ei dro, mae'r cwsmer yntau yn mwynhau gwell peint.

Dilynwch y ddolen gyswllt hon i wylio fideo am y gwaith hwn:  https://m.youtube.com/watch?v=KusEH5ltetM