Gwobrwyo Enillwyr Gystadleuaeth Ffotograffiaeth IBERS

Enillydd 'Ar y Fferm' - Rowan Thomas

Enillydd 'Ar y Fferm' - Rowan Thomas

02 Mawrth 2016

Gwobrwywyd enillwyr Gystadleuaeth Ffotograffiaeth IBERS 2015 ar Ddydd Mercher 2ail Mawrth gan Gyfarwyddwr IBERS, Yr Athro Mike Gooding. Derbyniwyd 150 o gyflwyniadau wrth fyfyrwyr a staff IBERS mewn pum categori: ‘Fy IBERS’, ‘Ar y Fferm’, 'Tymhorau a Thirlun’, ‘Bywyd Myfyriwr’ a ‘Bywyd Gwyllt a’r Amgylchedd’.  Roedd y safon yn uchel iawn ac mae myfyrwyr a staff IBERS eto wedi dangos i fod yn dalentog tu ôl y camera gan dynnu lluniau syfrdanol. Mi wnaeth hyn wneud barnu’r enillwyr yn dasg anodd ond pleserus tu hwnt. Gall y ffotograffau llwyddiannus cael eu gweld ar wefan IBERS o dan y tab ‘digwyddiadau’ . Yn ystod y  gwobrwyo, siaradodd pob enillwr am eu ffotograff a sut wnaethant eu creu.

Wrth wobrwyo gwnaeth Mike Gooding longyfarch yr enillwyr ar eu ffotograffau arbennig a diolchwyd i bawb a wnaeth danfon eu llun i mewn i’r gystadleuaeth.

 

Am fwy o wybodaeth

Cysywlltwch â Ian Keirle ar 01970 621 636 neu ike@aber.ac.uk