Graddedigion sŵoleg IBERS yn dechrau ar yrfaoedd ymchwil

Ar y chwith: Emma Ackerley yn gweithio fel cynorthwyydd maes yn Ne Affrica.                        Ar y dde: Rachel Chance yn cyflwyno ei hymchwil yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Ewropeaidd Patholegwyr Pysgod yn Las Palmas, Gran Canaria.

Ar y chwith: Emma Ackerley yn gweithio fel cynorthwyydd maes yn Ne Affrica. Ar y dde: Rachel Chance yn cyflwyno ei hymchwil yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Ewropeaidd Patholegwyr Pysgod yn Las Palmas, Gran Canaria.

02 Chwefror 2016

Mae dwy o raddedigion sŵoleg 2014, sef Rachel Chance ac Emma Ackerley, yn adeiladu ar eu graddau IBERS ac wedi dechrau ar yrfaoedd ymchwil.

Ar hyn o bryd mae Rachel yn gwneud ysgoloriaeth ymchwil Ph.D, wedi’i hariannu gan NC3R, yng Nghanolfan Ymchwil Imiwnoleg Pysgod yr Alban, Prifysgol Aberdeen, mewn cydweithrediad â Gwyddor Forol yr Alban, gan weithio gyda gwyddonwyr enwog sydd ar frig eu maes. Fel y dywed Rachel, “Roedd yr amser a dreuliais yn astudio sŵoleg yn IBERS wedi rhoi’r sylfaen sgiliau a gwybodaeth fiolegol i mi fedru mynd ymlaen yn syth i wneud ymchwil Ph.D ar ôl graddio. Mae uchafbwyntiau fy ngyrfa israddedig yn Aberystwyth yn cynnwys y lleoliad godidog, yr ymdeimlad o gymuned rhwng staff a myfyrwyr, ac amrywiaeth eang y modiwlau sy’n cael eu cynnig.”

Mae Emma ar fin dechrau gradd Meistr, yn astudio cadwraeth bywyd gwyllt gyda phwyslais ar y rhyngweithio rhwng pobl a babŵns yn Tanzania ar gyfer ei phrosiect ymchwil, gan ei bod eisoes wedi gweithio fel cynorthwyydd maes ar y prosiect Dwarf Mongoose yn Ne Affrica. “Astudio sŵoleg yn Aberystwyth oedd un o’r pethau gorau y gallwn erioed wedi’i wneud erioed a hynny yn un o’r llefydd gorau i wneud hynny,” meddai Emma. “Roedd byw mewn amgylchedd mor naturiol o hardd bob amser wedi fy ysbrydoli i gwblhau fy mhrosiectau i gael mynd allan i’r awyr agored at fyd natur.”