Myfyrwyr o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu gyda gwaith i wella llwybrau

Myfyrwyr IBERS yn helpu gyda gwaith llwybr Llangeitho

Myfyrwyr IBERS yn helpu gyda gwaith llwybr Llangeitho

27 Ebrill 2016

Mae’r rhan terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) ar gyfer 2015/16 wedi cael ei gwblhau yn Llangeitho, gyda help myfyrwyr o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu arian fel rhan o’r CGHT dros nifer o flynyddoedd, sydd er budd defnyddwyr Hawliau Tramwy, gyda’r nôd o wella mynediad dros Gymru.

Cafodd y gwaith ei wneud gan Gyngor Sir Ceredigion a myfyrwyr o gwrs Rheoli Cefn Gwlad Prifysgol Aberystwyth. Gwnaeth 25 myfyrwyr elwa o brofiad gwaith gwerthfawr dros pedwar diwrnod, a cafodd y myfyrwyr eu goruchwylio gan Geoff Oldrid a Ben Harper o’r Brifysgol.

Dywedodd Russell Hughes-Pickering, Pennaeth yr Economi a Pherfformiad gyda Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r gwaith yma yn dilyn ymlaen o’r gwaith gwella llwybrau sydd eisoes wedi ei gwblhau gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2015; mae dau bont newydd wedi eu creu a gatiau wedi ei adeiladu lle oedd camfâu, sydd yn gwneud y llwybr yn fwy hygyrch i gerddwyr o bob oedran a medr.”

Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn ddiolchgar i’r tirfeddianwyr Mr. Harold Morris, Meidrym a Mr. Phil Fernandez, Glynissa am eu cydweithrediad i sicrhau fod y gwaith yma yn mynd ymlaen ar amser, er gwaethaf amodau tir gwael ar y pryd.”

Mae na ddewis o deithiau cylchol ar gael o gwmpas y pentref, gan gynnwys llwybr dau milltir a naw milltir sydd yn cynnwys y llwybr newydd. Gobeithir y bydd y gwelliannau yma yn denu mwy o gerddwyr ac ymwelwyr i’r ardal a hefyd y gymuned lleol.

Mae Llangeithio yn un o’r pentrefi diwethaf yng Ngheredigion sydd a siop, caffi a tafarn yn y pentref o hyd, ac yn eistedd ar lannau’r Afon Aeron. Mae’r pentref yn adnabyddus am ei gyswllt gyda’r pregethwr Methodist adnabyddus Daniel Rowland, a gafodd ei eni yn Nantcwnllw yn 1713. Mae’r pentref wedi bod yn dyst i nifer o ddiwygiadau crefyddol, gyda’r un mwyaf pwerus yn 1762.