Prifysgol Aberystwyth ac Age Cymru Ceredigion yn cynnig ‘MOT’ ffitrwydd am ddim i’r rheiny dros 60
Mynychwyr yn y digwyddiad yn 2015
14 Ebrill 2016
Ar Ddydd Mercher 20 Ebrill 2016 cynhelir 'gweithdy ffitrwydd gweithredol' di-dâl wedi ei anelu at bobl dros 60 oed yn y sir, gan wyddonwyr chwaraeon o Brifysgol Aberystwyth ynghyd â Age Cymru Ceredigion, er mwyn asesu eu gallu i gyflawni tasgau cyffredin.
Dyma’r trydydd tro i'r digwyddiad blynyddol gael ei gynnig, i’w gynnal rhwng 10:00-4:00 yn Adeilad Carwyn James ar gampws Penglais y Brifysgol.
Dywedodd, Dr Marco Arkesteijn, Darlithydd mewn Biomecaneg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn IBERS, "O dan oruchwyliaeth staff, ein myfyrwyr fydd yn rhedeg y gweithgareddau ar y diwrnod, gan ganolbwyntio ar gyfres o brofion i asesu statws ffitrwydd presennol unigolion.
Nid oes gofyn am ymrwymiad i unrhyw beth yn dilyn yr asesiad, ond bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn derbyn gwybodaeth llawn am eu lefel ffitrwydd presennol, i’w galluogi i fynd i'r afael ag unrhyw faterion all godi yn eu hamser eu hunain, ar gyflymder eu hunain."
Nod y gweithdy yw asesu ffitrwydd yr unigolyn ynghyd â’r gallu i gyflawni tasgau dyddiol amrywiol, trwy 'asesiadau gweithredol'.
Fydd dim angen i fynychwyr gwblhau'r holl elfennau, ond bydd cwblhau cynifer â phosibl yn cyflwyno darlun cyffredinol clir o statws iechyd a ffitrwydd gweithredol yr unigolyn.
Bydd asesiadau yn cynnwys; hyblygrwydd coesau a breichiau a phwysedd gwaed. Yn dilyn yr asesiadau, bydd y cynadleddwyr yn derbyn trosolwg o'u cryfderau a'u gwendidau yn y gwahanol elfennau o ffitrwydd a bydd canllawiau yn cael ei darparu ar gynnal ffordd o fyw yn iach, gyda'r nod o wella ansawdd bywyd.
Dywedodd Simon Wright o Age Cymru Ceredigion "Yma yn Age Cymru Ceredigion rydym yn falch iawn o fod yn gweithio eto gyda'r gwyddonwyr chwaraeon yn IBERS. Wrth i ni fynd yn hŷn, mae deall a chynnal ein ffitrwydd yn dod yn hynod o bwysig i aros yn annibynnol ac yn weithgar. Mae'r digwyddiad hwn yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw.
Rydym hefyd yn cydnabod Clwb Llewod Aberystwyth – Aberystwyth Lions Club am eu cyfraniad hael tuag at y digwyddiad hwn. "
Mae'r gweithdy yn agored i bawb ac yn addas i bobl o bob gallu, a bydd yn cynnwys asesiadau golwg a chlyw, a gofal iechyd traed.
Mae'n hanfodol archebu lle o flaen llaw trwy gysylltu â Age Cymru Ceredigion ar 01970 615151 / ab@agecymruceredigion.org.uk