Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Effaith RCUK/PraxisUnico 2015
Dr John Clifton-Brown o flaen planhigion Miscanthus
10 Medi 2015
Mae Prifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Effaith RCUK/PraxisUnico 2015 i bobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio sy’n cael eu cynnal yn Llundain ddydd Mawrth 15 Medi.
Mae Aberystwyth yn un o dri yn rownd derfynol gwobr Cyfraniad at Gymdeithas, ac yn cael ei chydnabod am ei "defnydd teg a chyfiawn o adnoddau genetig Miscanthus (hesg eliffant) yn y sector ynni drwy gytundeb a dylanwad rhyngwladol ar lunio polisïau yn y Deyrnas Gyfunol a’r Undeb Ewropeaidd.”
Y ddau sefydliad arall sydd wedi cyrraedd rownd derfynol categori Cyfraniad at Gymdeithas yw Iechyd Cyhoeddus Lloegr am “Cyfnewid gwybodaeth ar y rheng flaen: ymateb i argyfwng Ebola” a Phrifysgol Strathclyde am “Cyfarpar Symudol Archwilio’r Llygad (PEEK).”
Mae’r Gwobrau Effaith yn cydnabod gwaith pobl broffesiynol ym maes cyfnewid gwybodaeth, trosglwyddo technoleg a masnacheiddio sydd wedi rhagori o ran galluogi a hwyluso cyflawni effaith yn sgìl gwaith ymchwil.
Mae Miscanthus yn cael ei gydnabod fel cnwd ynni sy'n tyfu ar dir nad yw'n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd, ac yn ffynhonnell werthfawr o bosibl o drydan carbon isel.
Dros gyfnod o fwy na 10 mlynedd, mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi adeiladu un o gasgliadau mwyaf y byd tu hwnt i Asia, o fathau genetig gwahanol o Miscanthus ac wedi’i ddefnyddio i adeiladu rhaglen gwella cnydau ar gyfer y DG ac Ewrop.
Mae'r enwebiad ar gyfer Gwobrau Effaith yn cydnabod gwaith gwyddonwyr IBERS a chydweithwyr yn nhîm Ymchwil, Busnes ac Arloesi’r Brifysgol am eu gwaith i hyrwyddo cydweithio rhyngwladol gyda sefydliadau ymchwil yn Tsieina, Taiwan, De Corea a chwmnïau Ceres Inc a Terravesta Ltd.
Dywedodd Dr Rhian Hayward, Rheolwr Datblygu Busnes gydag Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth: “Rwy'n falch iawn fod Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei chydnabod am ei hymdrechion ym maes Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio. Mae'r gwaith ar Miscanthus yn enghraifft o nifer o raglenni bridio planhigion sy’n cael eu rhedeg o IBERS sydd ag elfennau cryf o drosglwyddo gwybodaeth ac ymgysylltu gyda diwydiant ers cryn amser. Mae gwobrau ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes cyfnewid gwybodaeth a masnacheiddio yn hanfodol er mwyn tynnu sylw at y gwaith pwysig sydd angen ei wneud er mwyn defnyddio gwybodaeth mewn prifysgolion ar gyfer ymateb i heriau byd-eang yr oes hon.”
Dywedodd Dr John Clifton-Brown, ymchwilydd IBERS ac yn aelod craidd o’r tîm Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio ar Miscanthus: “Er mwyn mynd i'r afael â heriau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd mae angen cydweithio rhwng partneriaid academaidd a diwydiannol, ac ar draws ffiniau rhyngwladol. Cawsom lawer iawn o gefnogaeth gan Defra a'r BBSRC yn y broses hon, a’r canlyniad yw cnwd biomas cynhyrchiol yr ydym yn gobeithio ei fasnacheiddio o fewn y 5 mlynedd nesaf, ar y cyd gyda’n partneriaid mewn diwydiant. Mae cyrraedd rhestr fer y wobr hon yn gydnabyddiaeth wych i bawb sydd wedi bod yn ymwneud ag adeiladu cydweithrediadau hyn a sicrhau eu bod yn gweithio.”
Sefydlwyd Gwobrau Effaith RCUK/PraxisUnico i dynnu sylw at waith gwerthfawr a chyfraniadau hanfodol timau cyfnewid gwybodaeth a masnacheiddio wrth droi ymchwil rhagorol yn gynnyrch sydd o fudd yn y byd go iawn. Mae'r Gwobrau’n cydnabod hyn mewn tri chategori; Cyfraniad at Fusnes, Cyfraniad at Gymdeithas a Menter Cyfnewid Gwybodaeth a Masnacheiddio Neilltuol. Bydd prif enillydd yn cael ei ddewis o blith enillwyr pob categori.