Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd mewn dysgu

Chwith i’r dde: Dr Jarrett Blaustein (Y Gyfraith a Throseddeg), Mary Jacob (Trefnydd y Gwobrau Cwrs Nodedig), Dr Rosemary Cann (Addysg a Dysgu Gydol Oes), Dr Rupert Marshall (IBERS), Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor), Neil Taylor (Cyfrifiadureg), Yr Athro John Grattan (Dirprwy Is-Gangehllor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol) a Dr Adam Vellender (Mathemateg).

Chwith i’r dde: Dr Jarrett Blaustein (Y Gyfraith a Throseddeg), Mary Jacob (Trefnydd y Gwobrau Cwrs Nodedig), Dr Rosemary Cann (Addysg a Dysgu Gydol Oes), Dr Rupert Marshall (IBERS), Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor), Neil Taylor (Cyfrifiadureg), Yr Athro John Grattan (Dirprwy Is-Gangehllor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol) a Dr Adam Vellender (Mathemateg).

23 Mawrth 2015

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau Cwrs Nodedig Gwych Prifysgol Aberystwyth 2014/15.

Lansiwyd y Gwobrau gan Dîm E-ddysgu’r Brifysgol yn 2013 er mwyn cydnabod rhagoriaeth mewn addysgu, ac mae modiwlau Blackboard yn cael eu barnu ar bedwar maen prawf; dylunio cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chymorth i ddysgwyr.

Enillydd Gwobr Cwrs Nodedig 2014/15 yw Dr Rupert Marshall o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a, am ei fodiwl ‘Gwyddoniaeth Sw’.

Cafodd Dr Rosemary Cann o'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, a Dr Adam Vellender o'r Adran Fathemateg ganmoliaeth uchel am eu modiwlau, 'Seicoleg Dysgu a Meddwl', ac 'Hafaliadau Rhannol Differol'.

Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i Neil Taylor o'r Adran Gyfrifiadureg, am ei fodiwl ‘Methodolegau Hyblyg’, ac i Dr Jarrett Blaustein (gyda Kate Williams a Sarah Wydall) o Adran y Gyfraith a Throseddeg ar gyfer y modiwl 'Safbwyntiau Beirniadol ar Garcharu'.

Dywedodd Yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol; “Llongyfarchiadau mawr i enillwyr Gwobrau Cwrs Nodedig 2014/15 Prifysgol Aberystwyth ar eu gwaith rhagorol.

"Mae buddsoddi mewn isadeiledd addysgu a phortffolio cyrsiau’r Brifysgol er mwyn darparu addysg sy'n ysbrydoli yn amcanion strategol i’r Brifysgol. Mae rhaglen fuddsodd £8.1m dair 3 blynedd mewn gofod addysgu a thechnoleg ynghyd â sefydlu Academi Aber, sy'n darparu hyfforddiant i staff i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o addysgu, yn elfennau allweddol er mwyn cyflawni hyn ac rwyf wrth fy modd bod y Gwobrau Cwrs Nodedig yn cydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan gydweithwyr i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleusterau newydd wrth i ni ymdrechu i wella ar y profiad dysgu yma yn Aberystwyth.”

Dywedodd trefnydd y Gwobrau Cwrs Nodedig, Mary Jacob: “Rydym yn falch iawn o weld modiwlau deniadol ac amrywiol yn cael eu cyflwyno i’r gystadleuaeth Gwobrau Cwrs Nodedig eleni. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda gyda’n thema ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu sy'n cael ei chynnal eleni ar yr 8fed, 9fed a’r 10fed o Fedi 10, 2015, “Dathlu Amrywiaeth mewn Rhagoriaeth Addysgu”.

“Roeddem yn falch iawn o weld cymaint o enghreifftiau o ragoriaeth addysgu, ac yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli darlithwyr eraill i wella eu modiwlau a gwneud cais am y wobr yn 2015.

“Yr hyn sydd wedi fy nharo i am yr enillwyr yw’r cyfoeth a’r amrywiaeth o ddeunyddiau dysgu, gan gynnwys y cyfryngau, a ddefnyddir gan y modiwlau gorau. Yr wyf yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli staff addysgu eraill i wneud defnydd llawn o gyfryngau ar gyfer dysgu ac addysgu. Gall Academi Aber a Phorth Dysgu CADARN gynnig canllawiau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall mwy am hyn. Cysylltwch â acistaff@aber.ac.uk am fwy mwy o wybodaeth am yr Academi.”

Dywedodd yr enillydd Rupert Marshall: “Diolch i bawb ar dîm Blackboard am eu cymorth ac anogaeth. Ynghyd â fy myfyrwyr sy'n fy ysbrydoli ac sydd wedi darparu adborth sy’n gwneud popeth yn werth chweil, maent wedi fy nghynorthwyo i ddatblygu a gwella fy defnydd o Blackboard ers i mi ddechrau ei ddefnyddio. Rwy’n bwriadu gwneud gwelliannau pellach a chymryd i ystyriaeth adborth y panel.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Cwrs Nodedig, gan gynnwys adborth gan enillwyr eleni, ar gael ar-lein yma http://nexus.aber.ac.uk/xwiki/bin/view/Main/AU+Exemplary+Course+Award.

Cafodd yr enillwyr eu cyflwyno ar ddydd Mawrth 17 Mawrth, 2015.