2015 Adroddiad y Farchnad Organig yn dangos tŵf cryf a dyfodol disglair
03 Mawrth 2015
Cyhoeddwyd Adroddiad Marchnad Organig 2015 gan Gymdeithas y Pridd wythnos ddiwethaf, ac mae'n cadarnhau’t tŵf a welwyd yn yn y farchnad yn 2014.
Mae'r farchnad organig yng Nghymru a'r Gorllewin* yn dilyn y duedd, gyda'r farchnad organig wedi tyfu 1.4% i £ 96.3m. Mae gwerthiant yn y DU o gynnyrch organig yn 2014 i fyny 4% i £1.86 billion o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sydd yn ryfeddol wrth ystyried bod y farchnad bwyd a diod wedi gweld gostyngiad 1.1% .
Mae wyau organig a dofednod yn mwynhau adfywiad arbennig o gryf gyda chynnydd o 15.8% a 8.2% ar draws y DU a 18.8% a 7.7% yng Nghymru. Gwelwyd cynydd o 6.2% yng Nghymru a'r gorllewin o'i gymharu â 6.5% yn y DU, ac mae hyn yn erbyn gostyngiad o 3% yn y farchnad gonfensiynol. Mae tŵf y farchnad ar gyfer ffrwythau organig yng Nghymru wedi tyfu'n gynt na'r DU, 7.5% o'i gymharu â 6.4%, ond gwelwyd gostyngiad mewn llysiau a saladau ar drwy’r DU.
Dywedodd Tony Little, Swyddog Prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig
"Yn bendant mae'r adferiad ôl-dirwasgiad a’r cymhellion dros brynu bwyd organig yn gyrru y ffigyrau yma. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae pryderon ynghylch pla-laddwyr a bwyd GM; manteision amgylcheddol ffermio organig; iechyd a lles anifeiliaid I gyd yn ffactorau sydd yn peri bobl I ddewis cynnyrch organig.
“Gwelwyd cynnydd sylweddol o 13.6% yn y farchnad yn y flwyddyn ddiwethaf ar gefn llwyddiant Nôd Arlwyo Cymdeithas y Pridd sydd wedi'i wreiddio mewn awydd i wella ansawdd a chynaliadwyedd bwyd mewn sefydliadau cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
“Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi ennill safon efydd gan ei fod yn elwa ar y fferm a’r tai gwydr sydd ar y safle, ac yn gwarantu cadwyn gyflenwi byr a milltiroedd bwyd isel.
“Yn y sector manwerthu cwmnïau annibynnol a marchnatwyr uniongyrchol sydd yn gweld y tŵf gorau; 8.7% a 11.7% ar gyfer siopau manwerthu annibynnol (siopau, siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr) a chynlluniau blychau / manwerthwyr ar-lein, o gymharu â dim ond 2.2% ar gyfer yr archfarchnadoedd. "
Fodd bynnag, mae'r sector cig coch yn parhau i ostwng yn y DU, i lawr 9.2% ar gyfer cig oen a 3.6% ar gyfer cig eidion, gyda Chymru a'r gorllewin yn gweld crebachu o 15.6% a 8.5% yn y farchnad. Yn ystod y cyfnod hwn mae ffermwyr wedi derbyn premiwm ar gyfer eu cig eidion a chig oen ac mae'r gostyngiad yn y defnydd a’r premiwm a dalwyd yn debygol o fod yn ganlyniad i brinder cig coch organig. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y trafodaethau pan ddaeth busnesau organig allweddol ynghyd yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis i drafod cyfeiriad strategol ar gyfer bwyd a ffermio organig yng Nghymru.
Mae’r farchnad cig coch dal yn heriol yn y DU, a busnesau yn ymateb drwy arallgyfeirio marchnadoedd o ran daearyddiaeth a llwybrau i'r farchnad. Mae'r farchnad allforio yn gynyddol bwysig ar gyfer cig oen a chig eidion Cymreig c mae mwy o fusnesau yn dechrau canolbwyntio ar y sector hwn. Mae tŵf y farchnad arlwyo, gwerthiannau uniongyrchol / marchnata cyfleoedd annibynnol ac ar-lein yn cynnig cyfleoedd da. O safbwynt galw a chyflenwad, bydd y sefyllfa yn cael ei lliniaru gan ostyngiad o 18% a 24% mewn cig eidion a chig oen, sy’n dangos y duedd I leihau arwynebedd y tir organig yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae tecstilau hefyd yn haeddu sylw ac yn enwedig gwlan Cymreig. Gostyngodd cynnyrch gwlân 17%, sydd yn adlewyrchiad o grebachiad mewn cynhyrchiant ond am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, derbyniodd cynhyrchwyr o'r graddau manach o wlân premiwm organig o 15c y kilo.
Ychwanegodd Tony Little "Ar y cyfan mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau bod y sector organig ar seiliau cadarn ar ôl rhai blynyddoedd anodd. Mae gwerthiant i fyny yn sylweddol mewn sectorau lle gwelwyd gostyngiadau yn y marchnadoedd bwyd cyffredinol. Mae cyfleoedd pwysig yn dod i'r amlwg gartref a thramor, er bod ‘na rwystrau, ond mae'r adroddiad hwn yn dangos bod y dyfodol yn ddisglair ar gyfer y mudiad organig. "
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn oddi yma.