Datgelu hanes bridiau defaid cynhenid Cymreig

Sarah Beynon, myfyrwraig PhD IBERS gyda defaid Beulah

Sarah Beynon, myfyrwraig PhD IBERS gyda defaid Beulah

22 Mehefin 2015

Bydd cyfuno technegau gwyddonol cyfoes â uniondeb genetig bridiau defaid cynhenid Cymreig yn datblygu diadelloedd masnachol y dyfodol.

Mae ffermio defaid yn un o agweddau pwysicaf amaethyddiaeth yng Nghymru gan gyfrannu £230 miliwn i economi y DG yn gyffredinol yn flynyddol; a mae bridiau defaid cynhenid Cymreig yn adnodd genetig amhrisiadwy ac unigryw ar gyfer rhaglenni bridio a chadwraeth i’r dyfodol.

Dyma prif gasgliad papur a gyhoeddwyd gan BMC Genetics yr wythnos hon gan Sarah Beynon, myfyrwraig PhD yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth; Dr Gancho Slavov IBERS, a Dr Denis Larkin gynt yn IBERS sydd bellach yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Llundain (RVC).

Mae’r papur Population structure and history of the Welsh sheep breeds determined by whole genome genotyping ar gael yma http://www.biomedcentral.com/1471-2156/16/65.

Mae'r prosiect ymchwil tair blynedd, a noddwyd dan y rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) a Hybu Cig Cymru, wedi mapio hanes genetig 18 o’r bridiau cynhenid o ddefaid Cymreig yn nodi pedair is-boblogaeth enetig wahanol, gyda'r rhan fwyaf o fridiau mynydd yn ffurfio grŵp penodol, gymharol debyg.

 Dywedodd ymchwilydd PhD IBERS, Sarah Beynon, a wnaeth y gwaith ymchwil: "Mae'r canfyddiadau hyn yn darparu sail ar gyfer astudiaethau cysylltu ar draws y genom yn y dyfodol ac yn gam cyntaf tuag at ddatblygu strategaethau bridio sydd yn derbyn cymorth genomeg yn y DG."

Dywedodd Dr Denis Larkin, Darllenydd mewn Genomeg Gymharol yn yr RVC, a arweiniodd yr ymchwil "Mae uniondeb genetig y bridiau cynhenid hyn a'r technegau gwyddonol cyfoes o ddethol genetig yn cynnig cyfle i fridwyr yng Nghymru i ddatblygu'r diadelloedd masnachol fydd yn debyg i fridiau masnachol fel Texel ond sydd wedi addasu yn well i'r amgylchedd lleol.

Mae nifer o ffermwyr yn credu bod bridiau Cymreig yn frodorol a wedi addasu yn lleol. Mae ein data ni yn awgrymu tras gyffredin rhwng y bridiau Cymreig cynhenid a gwahanol fridiau Ewropeaidd, ond mae'r bridiau Cymreig hefyd yn amrywiol iawn o ystyried maint isel i gymedrol eu poblogaeth, gan ffurfio o leiaf pedwar grŵp genetig gwahanol."

Cafodd defaid eu dofi 10,000 o flynyddoedd yn ôl, ond ychydig oedd yn hysbys cyn hyn am hanes, amrywiaeth genetig a pherthynas rhwng bridiau Cymreig â rhai Ewropeaidd.  Mi fydd deall y berthynas rhwng bridiau o fewn Cymru, y DG a gweddill Ewrop yn cynorthwyo strategaethau bridio. Nod y strategaethau hyn yw gwella cynhyrchu drwy gostau is, gwell effeithlonrwydd, gwella iechyd anifeiliaid a monitro mewnfridio.

Bu’r tîm yn dadansoddi  data genoteip - y gwahaniaethau genetig rhwng y bridiau Cymreig – a chymharu hyn â data a gasglwyd o fridiau defaid ledled y byd gan brosiect Consortiwm Rhyngwladol Genom Defaid HapMap.

Defnyddiwyd 353 o anifeiliaid unigol o'r 18 o fridiau defaid cynhenid Cymreig. Dangosodd y canfyddiadau bod defaid Cymreig yn rhannu mwy o ddilyniannau DNA tebyg gyda nifer o fridiau eraill o bob rhan o Ewrop na gyda bridiau o Asia ac Affrica.

Mae rhai bridiau, megis y defaid Mynydd Cymreig Duon, a’u hanes genetig yn mapio yn ôl i Sgandinafia, sy'n golygu bod eu hanes genetig wedi ei ddylanwadu'n drwm gan ddefaid a ddaeth i Gymru gyda’r Llychlynwyr.  Mae bridiau eraill, megis yr Wyneb Gwyn Llanymddyfri, a’i gwreiddiau yn ymestyn yn ôl hyd yn oed ymhellach  i goloneiddio Prydain gan y Rhufeiniaid.

Mae'r astudiaeth hyd yn oed wedi darganfod fod un brîd penodol o ddefaid, yn unigryw i Ben Llŷn, yn gallu olrhain ei geneteg yn ôl i un ddiadell fechan o ddefaid yn Galway yn Yr Iwerddon o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae hyn yn dangos bod masnachwyr a ffermwyr o'r rhan honno o Iwerddon yn dod i Gymru at ddibenion amaethyddol fwy na 200 mlynedd yn ôl.

Dywedodd Dr Gancho Slavov, Darlithydd mewn Genomeg Ystadegol yn IBERS a cyd-oruchwyliwr PhD Ms Beynon: "Mae'r ymchwil hwn wedi darparu cipolwg cychwynnol i darddiad a mudiad bridiau defaid yng Nghymru sydd wedi goroesi. Yn bwysicach fyth, bydd y wybodaeth fanwl sy'n deillio am strwythur genetig bridiau defaid yng Nghymru yn anhepgorol ar gyfer gweithgareddau bridio a chadwraeth yn y dyfodol.”