IBERS yn ymuno â menter pecynnau cynaliadwy Ewropeaidd

Chwith i’r dde: Ymchwilwyr IBERS sy’n gweithio ar becynnu cynaliadwy; Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies, David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella and David Walker.

Chwith i’r dde: Ymchwilwyr IBERS sy’n gweithio ar becynnu cynaliadwy; Abhishek Somani, Ana Winters, Joe Gallager, Sian Davies, David Bryant, Stephen Taylor, Sreenivas Ravella and David Walker.

27 Gorffennaf 2015

Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm "ADMIT BioSuccInnovate", sef un o fentrau Climate-KIC a ariennir gan Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewrop (EIT), ar y cyd â Reverdia a phartneriaid eraill yn Ewrop.

Bydd y Consortiwm, gyda'r cwmni bioburo CIMV, yn ystyried sut y gellir defnyddio deunydd crai lignogelliwlosig sydd ar gael yn lleol, megis gwenith, gwellt neu'r gwair miscanthus, i gynhyrchu pecynnau plastig bioddiraddadwy i'r marchnadoedd prynwrol, a hynny gan gydweithredu â'r cwmni manwerthu, Waitrose, a'r cynhyrchwyr padelli plastig, Sharpak.

Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â strategaeth pecynnau cynaliadwy Waitrose, ac mae cwmni Reverdia yn cyfrannu ei dechnoleg asid bio-sycsinig, Biosuccinium™, i helpu i ddatblygu cadwyn werth i becynnau sy'n wirioneddol gynaliadwy.

Dywedodd David Bryant, arweinydd y prosiect yn IBERS, ”Mae IBERS yn chwarae rhan allweddol yn y prosiect drwy arwain ynghylch gwyddoniaeth y planhigion a chydlynu'r gwaith bioburo i gynhyrchu bioblastigau o'r asid sycsidig a geir o siwgrau lignogelliwlosig. Gwnaethom ddewis cydweithio â Reverdia gan eu bod yn gallu darparu a thrwyddedu Biosuccinium™ o ansawdd uchel, gyda thechnoleg gynaliadwy sydd o'r safon orau o'i bath ac sydd hefyd yn llwyddo i wneud yr arbedion gorau o ran nwyon tŷ gwydr.”

Dywedodd Jo Kockelkoren, Cyfarwyddwr Masnachol Byd-eang Reverdia, “Mae'r fenter hon yn adeiladu ar sail ein gwaith i ddatblygu'r farchnad a'n model o bartneriaeth sy'n rhychwantu'r gadwyn werth cyflawn, o'r bio-màs i'r cwsmer.”

A dywedodd Karen Graley, rheolwraig pecynnau a reprograffeg Waitrose, “Defnyddio deunydd crai lignogelliwlosig i gynhyrchu pecynnau plastig o BiosucciniumTM yw un ffordd o sicrhau ein bod yn troedio'n ysgafn ar yr amgylchedd. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at strategaeth pecynnau cynaliadwy Waitrose ar gyfer 2020 a'r tu hwnt, ac yn cefnogi gwaith cydweithredol y partneriaid wrth wneud pecynnau adnewyddadwy yn wirionedd masnachol."

Dywedodd Martin Taylor, Rheolwr-Gyfarwyddwr yn Sharpak, “Rydym yn falch o gael cydweithredu â Reverdia a'r partneriaid eraill yn y Consortiwm. Dim ond drwy gydweithio y gallwn greu cadwyn gyflenwi pecynnau cynaliadwy.”