Addasu biotechnolegau arloesol i fynd i’r afael â llyngyr parasitig

Yr Athro Karl Hoffman

Yr Athro Karl Hoffman

10 Hydref 2014

Heddiw, dydd Gwener 10 Hydref, cyhoeddir persbectif ar ddatblygu dulliau blaengar ac arloesol o ymdrin â llyngyr parasitig, i ddatblygu brechlynnau a chyffuriau i’w rheoli, yn y cylchgrawn Science, cyfnodolyn yr AAAS, the American Association for the Advancement of Science.

Y parasitolegydd o Brifysgol Aberystwyth, yr Athro Karl Hoffman, yw prif awdyr yr erthygl Halting harmful helminths; Vaccines and new drugs are needed to combat parasitic worm infections teitl.

Mae’r Athro Karl Hoffmann yn gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol George Washington yn Washington D.C. a Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome yng Nghaergrawnt.

Mae dros 300 miliwn o bobl yn cael eu heintio bob blwyddyn gan lyngyr lledog parasitig (helminthau). Mae’r heintiau a achosir gan y pathogenau hyn yn gronig fel rheol, ond maent yn aml yn angheuol.

Maent ymhlith 17 o glefydau trofannol a ddynodir gan Sefydliad Iechyd y Byd y Cenhedloedd Unedig yn glefydau trofannol a esgeuluswyd, ac mae’r heintiadau a achosir gan y llyngyr lledog hyn yn gyfrifol am golli dros 4 miliwn o flynyddoedd bywydau pobl yn sgil salwch bob blwyddyn, er fod hyn yn llawer llai na’r effaith y gall afiechydon hirdymor a chronig or fath eu cael mewn gwirionedd.

Yn hanesyddol, ystyriwyd bod y cynefinoedd sy’n addas i drosglwyddo’r parasitiaid hyn wedi’u cyfyngu i’r trofannau a’r is-drofannau, ond maent bellach yn ymledu i Ewrop ac mae’r amodau’n iawn ar gyfer ymlediadau cyffelyb i gyfarndiroedd eraill.

Dywedodd yr Athro Hoffmann; “Mae’r diffyg brechlynnau yn golygu ein bod yn dal i or-ddibynnu ar gemotherapïau un-cyffur. Nid yw hyn yn gynaliadwy ac fe allai arwain at sefyllfa drychinebus oni bai ein bod yn dod o hyd i atebion newydd.

I ddarganfod brechlynnau a chyffuriau newydd yn gynt ac i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am y ffordd y mae’r parasitiaid hyn yn datblygu, mae gwaith cynyddol yn cael ei wneud i addasu technolegau arloesol i ymchwilio i lyngyr parasitig.”

Yn achos mamaliaid, gwnaed cynnydd mawr yn y maes hwn drwy harneisio technolegau a strategaethau newydd i chwyldroi’r ffordd y cynhelir astudiaethau gwyddonol. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchu anifeiliaid trawsenynnol, golygu genomau cellol (amnewid, dileu neu ychwnanegu dilyniannau DNA) ac ymdrin â bôn-gelloedd. Mae’r technegau hyn wedi gwella’n dealltwriaeth o swyddogaethau’r genynnau, sydd yn ei dro wedi arwain at ddarganfyddiadau biomeddygol pwysig o safbwynt sawl cyflwr iechyd dynol.

Mewn cyferbyniad â hynny, mae ymchwil cyffleyb ar lyngyr ymhell ar ei hôl hi.

Mae’r anhawster i gynnal llyngyr parasitig yn y labordy, oherwydd eu cylchoedd bywyd cymhleth (sy’n golygu bod angen dau organedd letyol yn aml), yn arafu’r gwaith o addasu’r technolegau arloesol hyn yn sylweddol.

Er gwaethaf hyn, llwyddwyd yn ddiweddar i ddatblygu systemau sylfaenol i ymdrin â swyddogaethau genynnau a meithrin bôn-gelloedd y llyngyr lledog. Bydd defnyddio methodolegau uwch i wneud addasiadau genomaidd mwy dethol a chynyddu cwmpas y gwaith ar fôn-gelloedd yn arwain at ddarganfyddiadau newydd a fydd yn sbarduno ymchwil manylach i fioleg a phathogenigrwydd llyngyr lledog.

Am y tro cyntaf, bydd adnoddau arloesol yn galluogi parasitolegwyr i fynd i’r afael â chwestiynau esblygiadol, biomeddygol ac imiwnolegol sylfaenol sydd wedi llesteirio ymdrechion i ddatblygu triniaethau newydd.

Gallai’r atebion i’r cwestiynau hyn agor posibiliadau newydd a chyffrous o ran yr opsiynau trosiadol sydd eu hangen i reoli’r difrod a achosir gan y pathogenau hyn, sy’n gyfrifol am ddioddefaint dynol sylweddol.

IBERS

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.  

Mae IBERS yn derbyn £10.5m o gyllid ymchwil gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU43414