Llyfryn Incwm Ffermydd Cymru yn rhoi gwybodaeth newydd am berfformiad ariannol busnesau fferm yng Nghymru

24 Tachwedd 2014

Mae’r Llyfryn Incwm Ffermydd Cymru diweddaraf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn rhoi canlyniadau newydd o Arolwg Busnes Fferm 2013-14.   Dengys y data'r amrywiaeth rhwng y perfformiad ar gyfartaledd a’r rhai wnaeth berfformio orau ac mae’n dangos bod lle i newid.

Cyhoeddwyd y llyfryn gan Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Brifysgol Aberystwyth a’i noddi gan Cyswllt Ffermio, a bydd yn cael ei rannu i bron i 38,000 o ffermwyr yng Nghymru gyda’r rhifyn diweddaraf o Gwlad, cylchgrawn materion gwledig deufisol Llywodraeth Cymru.

Dywed Tony O’Regan, Cyfarwyddwr yr Uned Arolwg Busnes Fferm ym Mhrifysgol Aberystwyth bod llawer o ddarllenwyr Gwlad yn rhoi data ar gyfer yr Arolwg Busnes Fferm.

“Bydd ffermwyr o bob rhan o Gymru yn gwerthfawrogi ei fod yn cynnwys gwybodaeth gywir a dibynadwy gyda samplau o faint da ar gyfer pob math o fferm. Mae’r llyfryn hwn yn offeryn defnyddiol fydd yn helpu ffermwyr i feincnodi eu perfformiad ac ymdrin â chostau cynhyrchu.

 “Yr elfen gyson yn flynyddol yw’r ystod o broffidioldeb yn y ffermydd yn y sampl, er enghraifft fe wnaeth y traean uchaf o ffermwyr defaid a gwartheg gadw 32% o’r allbwn fel elw, mewn cymhariaeth â’r cyfartaledd o 19%. Yn yr un modd, fe lwyddodd traean uchaf yr unedau llaeth i gael 32% o’r allbwn fel elw mewn cymhariaeth â’r cyfartaledd o 22%,” dywedodd Mr O’Regan.

Yn ôl yr ymgynghorydd busnes a mentor Cyswllt Ffermio David Thomas o Andersons, gall cymharu â data’r Arolwg helpu i ddynodi blaenoriaethau.

“Pan fyddaf yn cyfarfod ffermwyr am y tro cyntaf, dwi’n aml yn gofyn iddyn nhw ystyried pam eu bod yn gweithio ar y fferm mewn gwirionedd. Mae’r traean uchaf a’r rhai mwyaf parod i ddatblygu ohonynt yn gyson yn pwysleisio’r angen i wneud elw a chynyddu’r twf mewn cyfalaf. Er bod y ddau draean arall, yn amlwg, yn ymdrechu i wneud elw, maen nhw’n aml yn cyfeirio yn gyntaf at ddisgwyliadau’r teulu a materion emosiynol eraill. Dwi’n annog y ffermwyr i gyd i ganolbwyntio ar gynnydd ariannol a’u helw. Rhaid i bob busnes wneud digon o elw i fod yn hyfyw yn y tymor hir a thrwy hynny gynnal ffordd o fyw ac amcanion personol.

“Dylai pob busnes ateb rhai cwestiynau sylfaenol ond allweddol ar ddiwedd pob

blwyddyn. Er enghraifft, a oedd eich elw yn ddigon i’r busnes dyfu; pa ganran

o’r allbwn wnaethoch chi ei gadw fel elw ac yn olaf, a wnaeth y busnes gynyddu ei werth cyfalaf neu a wnaeth hyn ostwng ac os felly o faint?

“Rhaid i ffermwyr hefyd ymdrin â’u harferion a’u systemau ar y fferm. A oes angen gwelliannau technegol, a oes gennych y system, y bridiau a’r eneteg gywir i gyflawni gwell canlyniadau neu a oes angen rhoi sylw i reoli gorbenion?” gofynnodd Mr Thomas.

Dywed Mr Thomas bod dadansoddi cyfrifon treth a’u trosi i ffurf sy’n cymharu â’r Arolwg Busnes Fferm yn offeryn cyflym a grymus y gellir ei ddefnyddio i ddynodi problemau allweddol ac i ystyried, er enghraifft, sut y mae’r allbwn yn cymharu, a yw costau amrywiol yn uchel neu isel ac a yw rhai gorbenion yn wahanol iawn i ffermydd tebyg.

Bydd Cyswllt Ffermio yn defnyddio’r llyfryn data Arolwg Busnes Fferm mewn nifer o ddigwyddiadau dros y misoedd nesaf pan fydd ffermwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio’r data i’w helpu i osod amcanion a sicrhau bod eu busnesau yn cyrraedd eu potensial. Am ragor o wybodaeth neu ddyddiadau a lleoliadau naill ai cysylltwch â’ch hwylusydd lleol neu ewch i'n gwefan.