Argyfwng bwyd

Awdur Yr Athro Emeritws Howard Thomas, Dr Jayne Archer and Yr Athro Richard Marggraf Turley

Awdur Yr Athro Emeritws Howard Thomas, Dr Jayne Archer and Yr Athro Richard Marggraf Turley

19 Tachwedd 2014

Cyhoeddir Food and the Literary Imagination, cyfrol ryngddisgyblaethol gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth sy'n gwneud sylw crafog ar wleidyddiaeth bwyd gyfoes, ar ddydd Mercher 19 Tachwedd.

Yn sgil eu gwaith dadleuol ar Shakespeare a Keats, a ddenodd sylw rhyngwladol yn y wasg yn 2012 a 2013, mae’r Athro Richard Marggraf Turley o Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, yr Athro Emeritws Howard Thomas o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a Dr Jane Archer, cyn-ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, wedi cwblhau ymchwil sydd yr un modd arloesol ar Chaucer, George Eliot ac argyfwng bwyd yr unfed ganrif ar hugain.

Yn y llyfr, maent yn dangos bod Terfysgoedd Llundain 2012 wedi dechrau, nid fel lladrad nwyddau a trainers wedi’u brandio, ond fel terfysg bwyd traddodiadol.

Mae’r gyfrol newydd hon yn cyfuno’r ymchwil hwn.

Ddechreuodd y cydweithio rhyngddynt chwe blynedd yn ôl yn dilyn cyfarfod siawns rhwng Howard a Richard ar sioe radio am gerddoriaeth.

Fel rhan o'u hymchwil i King Lear Shakespeare yn 2013, cawsant sylw rhyngwladol am eu gwaith ar honiadau bod Shakespeare yn cronni grawn ac yn osgoi talu treth - yn Chwefror 1598 cafodd y Bardd ei erlyn am guddio grawn yn ystod argyfwng bwyd.

Ysgrifennodd Shakespeare y ddrama Coriolanus am newyn a grëwyd gan fasnachwyr cyfoethog a gwleidyddion er mwyn elwa ar bris bwyd. Gellir dehongli’r ddrama mewn ffordd wahanol yn sgil ymchwil y tri.

Mae'r gyfrol newydd hefyd yn trafod y bardd Rhamantaidd John Keats. Maent yn datgelu bod y cae o y'd a ysbrydolodd ei awdl enwog 'To Autumn' bellach o dan faes parcio St Giles’s Hill, yn groes i gredoau traddodiadol ei fod wedi ei leoli ar hyd llifddolydd hardd winc hester (sydd yn dal i gael eu cynnwys yn y daith am John Keats o amgylch y ddinas).

Rhoddir sylw hefyd i’r melinau dwr sydd yng nghlasur Geoffrey Chaucer Canterbury Tales a The Mill on the Floss gan George Eliot. Mae'r ymchwilwyr yn datgelu mewn ffyrdd hollol newydd bwysigrwydd bwyd mewn llenyddiaeth, a sut y mae ein syniadau am fwyd a’r modd y mae’n cael ei ddosbarthu yn cael eu llywodraethu gan gynrychiolaeth lenyddol.

Dywedodd Richard; “Mae’r bartneriaeth hon wedi bod yn un drawsnewidiol, yn ogystal â bod yn un o gydweithio adeiladol. Cafodd y ffyrdd yr ydym yn edrych ar ddiogelwch bwyd eu newid a’u trawsnewid oherwydd ein cyfuniad annhebygol o arbenigedd. Efallai na fydd wedi taro pobl, ond mae gan lenyddiaeth Saesneg a’r celfyddydau ran bwysig i'w chwarae o ran deall ac ymateb i faterion yn ymwneud â gwerthoedd, cyflenwad, tarddiad a dosbarthiad teg bwyd yn y Deyrnas Gyfunol.”

"Yr hyn mae ein llyfr yn dangos yw bod angen inni ailgalibreiddio yn radical ein syniadau o'r cae a bwyd, bod angen i ni ailgalibreiddio ein synnwyr o natur yr argyfwng bwyd presennol, a sut y gallem lunio a chydlynu ein hymatebion iddo, drwy edrych ar ymdrechion hanesyddol i brosesu argyfyngau tebyg o gynhaliaeth trwy lenyddiaeth. Nid ydym yn wynebu'r argyfwng presennol am y tro cyntaf, nac ar ein pennau ein hunain - mae rhai o'n prif lenorion eisoes wedi ystyried y broblem yn eu gweithiau gorau”.

Dywedodd Howard Thomas; “Mae ein llyfr newydd yn dangos y tir fel ffynhonnell bwyd ac fel ffynhonnell stori. Gallwn edrych ar y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i weld lle'r ydym yn awr, yn ogystal â phwysigrwydd bwyd mewn diwylliant a hanes, ac yn gymdeithasol ac yn economaidd, fel rhan o ddeall effeithiau tarfu ar y gadwyn fwyd - yn enwedig gydag argyfwng bwyd y gorwel ".

Cyhoeddir Food and the Literary Imagination gan Palgrave Macmillan.