Iechyd! Peidiwch ag ysgwyd llaw!
Dr Dave Whitworth Uwch Ddarlithydd BioCemeg yn IBERS a Sara Mela, myfyrwraig PhD
28 Gorffennaf 2014
Er mwyn glanweithdra, efallai y byddai'n well bod pobl yn cyfarch ei gilydd drwy daro dyrnau nag ysgwyd llaw, yn ôl arbrofion a wnaed ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ysgwyd llaw yn golygu bod germau'n gallu symud rhwng pobl, a gallai hynny helpu i ledaenu afiechydon heintus.
Drwy ddefnyddio menig rwber a haenen drwchus o E. coli, aeth gwyddonwyr ati i gyfarch ei gilydd drwy ysgwyd llaw, rhoi 'pump uchel' a tharo dyrnau - a dangoswyd mai yn ystod ysgwyd llaw y trosglwyddir y nifer mwyaf o facteria heintus.
Dr Dave Whitworth, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r fyfyrwraig PhD Sara Mela a wnaeth yr ymchwil, gan roi maneg i mewn i hylif lawn bacteria cyn mentro ati i estyn llaw.
Arbrofodd y ddau ar dri chyfarchiad gwahanol gan asesu faint o facteria a drosglwyddwyd ym mhob achos.
Canfuwyd bod llawer iawn o facteria wedi'u trosglwyddo wrth ysgwyd llaw.
Ond wrth daro llaw 'pump uchel' gwelwyd gostyngiad o dros hanner, a gostyngiad anferth o 90% wrth daro dyrnau.
Gellir esbonio hylendid taro dyrnau yn rhannol oherwydd ei fod yn gyflym (fel rheol yn llawer cyflymach nag ysgwyd llaw) ond hefyd oherwydd bod arwynebedd y cyswllt yn llai.
Mae angen cyswllt uniongyrchol er mwyn i'r rhan fwyaf o feicrobau allu symud, felly drwy leihau'r arwynebedd sy'n cyffwrdd â'i gilydd mae llai o gyfle y bydd y germau yn symud.
Yn ogystal ag ystyried taro dyrnau, edrychodd y gwyddonwyr ar rym y gafael wrth ysgwyd llaw, a daethant i'r casgliad bod gafael mwy cadarn wrth ysgwyd llaw yn cynyddu nifer y bacteria a rannwyd.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn American Journal of Infection Control, ac fe’i hysbrydolwyd gan y camau cynyddol i hybu hylendid yn y gweithle, gan gynnwys diheintyddion i lanhau dwylo a bysellfyrddau cyfrifiaduron ac ati.
Dywedodd Dr Whitworth, “Anaml y mae pobl yn meddwl am oblygiadau iechyd ysgwyd llaw. Pe bai modd annog y cyhoedd i daro dyrnau, byddai gennym gyfle gwirioneddol i rwystro afiechydon heintus rhag lledaenu.”