Cod Genetig y pryfyn tsetse wedi’i gwblhau

Dr Martin Swain

Dr Martin Swain

23 Ebrill 2014

Dr Martin Swain o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS), yw un o awduron papur a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn uchel ei barch Science ar gwblhau cod genetig y pryfyn Tsetse.

Mae’r papur, “Genome Sequence of the Tsetse Fly (Glossina morsitans): Vector of African Trypanosomiasis”, ar gael arlein http://www.sciencemag.org/content/344/6182/380.

Pryfaid Tsetse yw’r pryfaid sy’n cludo trypanosomau - parasitiaid - Affricanaidd i bobl ac anifeiliaid yn Affrica Is-Sahara. Mae trypanosomiasis Affricanaidd, neu’r clefyd cysgu, yn glefyd trofannol eang a all fod yn angheuol os na chaiff ei drin. Caiff ei ledaenu gan frathiad tsetse sydd wedi’i heintio â pharasit bach ac mae’n achosi haint difrifol i’r ymennydd a’r meninges (gorchudd yr ymennydd a madruddyn y cefn).

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod y clefyd yn bygwth 70 miliwn o bobl yng ngwledydd tlotaf a lleiaf datblygedig y byd. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae tlodi cynyddol a nifer llai o raglenni gwyliadwriaeth wedi arwain at ganlyniadau annymunol, gydag epidemigau mewn ardaloedd endemig gwybyddus a hefyd mewn ardaloedd lle’r oedd pawb yn credu bod y pryfyn a’r parasit wedi’u dileu.

Dywedodd Dr Martin Swain; “Mae’r wybodaeth yn y genom yn cynnig adnodd sylfaenol a fydd yn hynod o werthfawr i’r cymunedau bioleg tsetse a fector (cludwr) pryfaid. Bydd yr wybodaeth hon yn cyflymu’r ymchwil ar fioleg sylfaenol y tsetse. Yna bydd modd cymhwyso canlyniadau’r ymchwil i wella dulliau cyfredol o reoli’r tsetse a datblygu strategaethau newydd gyda phwyslais ar wella effeithiolrwydd a lleihau costau.”

Mae canfod a thrin trypanosomiasis yn ddrud, yn anodd ac yn beryglus. Nid yw atal y clefyd drwy ddatblygu brechlyn yn ymddangos yn bosibl oherwydd y gallu sydd gan drypanosomau i osgoi system imiwnedd mamaliaid. Ar hyn o bryd caiff trypanosomiasis Affricanaidd ei reoli’n bennaf drwy reoli’r fector (y pryfyn tsetse) gyda  thechnegau fel trapio, triniaethau plaladdwyr a strategaethau rhyddhau gwrywod anffrwythlon.

Ar wahân i reoli clefyd, mae’r genom yn adnodd pwysig ar gyfer bioleg esblygol. Mae pryfaid tsetse yn unigryw ymhlith y mwyafrif o bryfaid eraill mewn nifer o agweddau o’u bioleg.

Mae Dr Swain yn un o dros 140 o wyddonwyr sy’n arbenigo mewn amrywiaeth eang o bynciau sy’n cyfrannu at ddealltwriaeth o fioleg y pryfyn tsetse a ddaeth at ei gilydd i ymchwilio i arogl, blas, golwg, atgenhedlu, treulio, bwydo gwaed, imiwnedd, metabolaeth, adwaith tyndra, perthynas symbiotig rhwng y tsetse a’i endidau microbaidd cysylltiedig, a rheoli genynnau a swyddogaethau ffisiolegol gyda hormonau.

Defnyddiwyd y dadansoddiadau a berfformiwyd gan y grwpiau ymchwil hyn i ddiweddaru’r rhagfynegon wedi’u hawtomeiddio ac ychwanegu gwybodaeth at y rhagfynegon genynnol yn y gronfa ddata. Mae’r broses anodi yn parhau a bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at yr adnodd dros amser.

Mae’r rhain yn cynnig enghreifftiau o addasiadau ffisiolegol dramatig a gellir edrych ar esblygiad yr addasiadau rhyfeddol hyn nawr ar lefel genomaidd mewn perthynas â phryfaid eraill (fel y pryfyn ffrwythau Drosophila), y mae gwybodaeth genomaidd ar gael ar eu cyfer hefyd. Dywedodd Dr. Swain

“Mae’r hyn rydym ni’n gallu ei ddysgu drwy gymariaethau fel hyn yn caniatáu i ni ddeall sut mae newidiadau mor ddramatig yn datblygu ar y lefel genetig mewn organebau cysylltiedig.”

Gan fod y prosiect wedi dechrau ar gyllideb fach, roedd cadw’r consortiwm gyda’i gilydd a chodi cyllid ar gyfer y prosiect a’r digwyddiadau cysylltiedig yn her. Roedd yr hen ddulliau’n llawer drutach na’r dulliau newydd sy’n cael eu defnyddio bellach. Mae technolegau newydd wedi hwyluso’r gwaith o gwblhau’r genom.