Myfyrwyr PhD IBERS yn creu argraff ar y Bwrdd Ymgynghorol Allanol

Dyma dri enillydd y Cyflwyniadau Poster Gorau: Magda Dudek a gyflwynodd ei gwaith ar feicrobau ac ensymau ar gyfer bioburo o facro-algâu a phlanhigion; Laura Lyons a gyflwynodd ei gwaith hi ar fiochwilio am feicro-organebau a gweithgarwch ensymau ac Eleri Price a gyflwynodd ei gwaith ar gymharu nodweddion celanedd ac ansawdd cig mewn ŵyn croesfrid a genhedlwyd gan hyrddod a ddewiswyd am ddwysedd uchel neu isel eu cyhyrau.

11 Medi 2013

Mae’r llun yn dangos enillwyr y Cyflwyniadau Poster Gorau (Magda Dudek, Laura Lyons ac Eleri Price) gyda’r Athro Paul Shaw ac aelodau o’r Bwrdd Ymgynghorol Allanol: o’r chwith i’r dde, Mr Timothy Brain, yr Athro J Steve Jones FRS, y Dr Jim Peacock FAAS FRS FAATSE COA, Mr Steve Visscher CBE, Mr John Lloyd Jones, yr Athro FRS a’r Dr Barbara Mazur.

Rhoddwyd cyflwyniadau poster yn ddiweddar gan fyfyrwyr PhD yn eu hail a’u trydedd flwyddyn ar gyfer ymweliad blynyddol y Bwrdd Ymgynghorol Allanol. Yn ystod y sesiwn a barodd 2 awr ar 4ydd Medi, dangosodd y myfyrwyr hyd a lled y gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud gan uwchraddedigion yn yr Athrofa, a chyflwynodd y Cyngor Ymgynghorol Allanol dair gwobr am ragoriaeth.

Ar ôl y cyflwyniad, dywedodd pob un aelod o’r Bwrdd gymaint roeddynt wedi mwynhau trafod gwyddoniaeth â’n myfyrwyr PhD, a sut roedd safon uchel y posteri a gallu’r myfyrwyr i drafod eu gwaith wedi creu cryn argraff arnynt.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, yr Athro Richard Flavell, fod y perfformiad “yn dangos ansawdd gyson gan bob un o’r myfyrwyr wrth iddynt gyflwyno eu posteri, yn enwedig o ran eglurdeb eu hesboniadau ac yn eu dealltwriaeth o bwysigrwydd eu hymchwil”.

Hoffai IBERS ddiolch i’r myfyrwyr PhD am gyfleu safonau uchel ac ymdriniaeth broffesiynol gwaith ymchwil IBERS i grŵp o ymwelwyr mor brofiadol a phwysig.