Myfyriwr Ewropeaidd y flwyddyn

Eleanor Paish, a raddiodd mewn sŵoleg

Eleanor Paish, a raddiodd mewn sŵoleg

12 Medi 2013

Mae Eleanor Paish, sydd wedi graddio mewn Sŵoleg o Aberystwyth, wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn yng Ngwobrau Ewropeaidd Gwyddoniaeth Peirianneg a Thechnoleg 2013 (SET).

Enwebwyd mwy na 500 o fyfyrwyr o bob cwr o Ewrop ar gyfer y wobr ond dim ond tri sydd wedi eu dewis ar gyfer y rownd derfynol.

Mae gwobrau SET yn cynnig llwyfan arddangos ar gyfer rhagoriaeth addysgiadol trwy gydnabod cyflawniadau eithriadol myfyrwyr a phrifysgolion. Cant eu cyflwyno mewn seremoni ysblennydd o flaen cynulleidfa o gannoedd o fyfyrwyr technoleg ac academyddion, yn ogystal ag unigolion blaenllaw o ddiwydiant, llywodraeth, gwyddoniaeth a'r cyfryngau.

Bu Eleanor, a raddiodd ar frig ei dosbarth mewn Sŵoleg yr haf yma, yn ymchwilio i sut mae grwpiau o anifeiliaid yn gwneud penderfyniadau : " doethineb torfeydd ".

Gan ddefnyddio pysgod trofannol , gofynnodd sut mae un pysgodyn yn trosglwyddo gwybodaeth i un arall - a sut y mae grŵp o bysgod yn penderfynu beth i'w wneud. Mae hi nawr yn bwriadu cyhoeddi ei chanfyddiadau.

"Mae Eleanor yn llysgennad gwych i'r biowyddorau ac mae wedi gwneud yn hynod o dda i gyrraedd y rownd derfynol - rwyf wrth fy modd gyda’i llwyddiant" meddai Dr Rupert Marshall, Darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid yn IBERS, a oruchwyliodd prosiect Eleanor a’i henwebu ar gyfer y wobr.

"Mae camp Eleanor yn adlewyrchu ansawdd yr addysgu a arweinir gan ymchwil mewn sŵoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth - pob lwc iddi yn y rownd derfynol."

Mae Sŵoleg yn un o'r cynlluniau gradd mwyaf poblogaidd yn IBERS – Athrofa y Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth. Mae pob myfyriwr yn IBERS yn cael cyfle i gynnal prosiect ymchwil yn ei flwyddyn olaf.

Gellir gweld fideo byr o Eleanor yn cyflwyno ei hymchwil ar YouTube ac mae eisoes wedi denu dros 100 o wylwyr - oeddech chi'n gwybod y gall pysgod gael personoliaethau? Gwyliwch y fideo yma: http://www.youtube.com/watch?v=8GT4ECJOGkw&feature=youtu.be.

Mae Eleanor bellach yn wynebu cyfweliad gan banel o arbenigwyr yn Llundain ar ddiwedd mis Medi, a chyhoeddir yr enillydd mewn cinio gwobrwyo mawreddog.

Mae acwariwm Prifysgol Aberystwyth yn un o'r cyfleusterau a fydd ar gael i ymwelwyr yn y Diwrnodau Agored sydd ar y gweill ar ddydd Sadwrn 14 Medi, 19 a 26 Hydref.

IBERS
Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn dilyn yr uno rhwng y Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER), oedd gynt yn rhan o’r Cyngor Ymchwil i Fiodechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn parhau i dderbyn buddsoddiad strategol oddi wrth y BBSRC, a chaiff hefyd gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae oddeutu 350 aelod o staff ymchwil, dysgu, a chefnogol yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategaethol a chymhwysol mewn bioleg o’r lefel enynnol a molecylau eraill i effaith newid hinsawdd a bio-egni ar amaeth gynaliadwy a defnydd tir.

AU33813