Bridio mathau newydd o bys a ffa

‘Ffa gaeaf yn eu llawn flodau’

‘Ffa gaeaf yn eu llawn flodau’

05 Tachwedd 2013

Mae IBERS Prifysgol Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth dechnegol newydd gyda chwmni Wherry & Sons Ltd., cynhyrchwyr arbenigol codlysiau at ddefnydd bwyd o gwmpas y byd.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar i sefydlu Campws Arloesi a Lledaenu Aberystwyth yng Ngogerddan, lle bydd isadeiledd a chyfleusterau newydd yn cael eu datblygu i ddenu cwmnïau ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn creu cynhyrchion newydd masnachol ymarferol, wedi eu seilio ar ddulliau modern o fridio planhigion.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS; “Mae'r bartneriaeth dechnegol gyda Wherry & Sons Ltd yn enghraifft wych o sut y gall gwyddoniaeth a busnes yn y Deyrnas Gyfunol chwarae rôl hanfodol wrth fynd i'r afael â heriau bwyd byd-eang tymor hir, a hefyd alluogi mynediad at farchnadoedd amaethyddol newydd deinamig yn y trydydd byd.

Rydym yn edrych ymlaen at bartneriaeth hirdymor lwyddiannus wrth ddatblygu'r rhaglen bridio codlysiau, a'r cyfle mae'n rhoi i ni i ddefnyddio ein harbenigedd a’r  technolegau geneteg a genomeg a ddefnyddiwn yma yn IBERS.”

Rhagwelir y bydd y galw am brotein yn cynyddu ledled y byd ac fe all codlysiau - pys a ffa, chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â'r angen cynyddol hwnnw.

Dywedodd Dr Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion Er Lles y Cyhoedd yn IBERS; “Mae tîm bridio planhigion er lles y cyhoedd IBERS wedi ennill nifer o  wobrau a chanddo flynyddoedd lawer o brofiad. Yn ogystal â mynd i'r afael â'r angen i dyfu mwy o brotein ar gyfer marchnadoedd y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop, mae IBERS hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu perthynas â gwledydd eraill. Mae'r tîm yn falch iawn bod y trefniant newydd yma yn cynnig cyfle newydd i ddatblygu partneriaethau yn Affrica , Asia a Tsieina ymhellach.”

Dywedodd Dan Wherry , Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Wherry & Sons; “Rydym yn amlwg wrth ein bodd gyda'r bartneriaeth hon ac i fod yn gweithio gydag IBERS Prifysgol Aberystwyth ar ddatblygu a gwella codlysiau. Mae'r galw am brotein yn mynd i gynyddu'n sylweddol ac mae hyn yn her ac yn gyfle i gyflenwi protein o gnydau brodorol a dyfir yn y Deyrnas Gyfunol.”

“Mae hyn yn golygu bod rhaid inni fanteisio ar, a defnyddio technolegau bridio newydd ac mae derbyn y sgiliau, y galluoedd a’r adnoddau sydd yn IBERS yn cynnig y cyfle hwnnw i ni fel cwmni.

“Mae'r Deyrnas Gyfunol yn allforwyr mawr o godlysiau, ac mae’n hanfodol i feithrin gwelliant genetig o ran perfformiad ac ansawdd yn y meysydd os ydym am gynnal y rôl hon mewn marchnad sy'n fwyfwy cystadleuol.”

Wherry & Sons Ltd
Sefydlwyd WHERRY & Sons Ltd ym 1806 - mae’n gwmni preifat sy'n arbenigo yn y fasnach ryngwladol o ffa a phys, ac yn rhedeg y rhaglen ffa gaeaf mwyaf ar draws y byd. Mae gwahanol fathau o ffa gaeaf o'r rhaglen yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r ardal a dyfir yn y Deyrnas Gyfunol ar hyn o bryd ac mae cryn alw am gynhyrchu ar draws marchnad ffa faba Gogledd Affrica.

Mae'r cwmni yn un o brif gynhyrchwyr pys sych marrowfat yn y Deyrnas Gyfunol, ac yn allforio i lawer o wledydd ledled y byd, gan arbenigo yn y farchnad bwyd byrbryd yn Asia.

Mae WHERRY & Sons Ltd wedi mabwysiadu ymagwedd flaengar at y rhaglen fridio yn ystod y 2 flynedd diwethaf ac mae'n ymwneud yn helaeth fel partner arweiniol diwydiant mewn nifer o brosiectau ymchwil a datblygu y Technology Strategy Board sydd wedi eu cyllido ar y cyd.

Mae technolegau bridio newydd megis technegau dethol trwy gymorth marcwyr wedi cael eu defnyddio'n helaeth mewn rhaglenni bridio had olew a grawnfwyd, a  bydd yr estyniad pellach ar y rhaglen hon yn hwyluso cyflymu’r gwaith o hyrwyddo gwelliannau genetig mewn ffa a phys gan ddefnyddio’r wybodaeth honno.