Dirprwyaeth o Tsiena

Mr Hao Peng, Pennaeth Adran Gweinyddiaeth y Wladwriaeth dros Faterion Arbenigwyr Tramor, yn cyflwyno rhodd ar ran y ddirprwyaeth i'r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

Mr Hao Peng, Pennaeth Adran Gweinyddiaeth y Wladwriaeth dros Faterion Arbenigwyr Tramor, yn cyflwyno rhodd ar ran y ddirprwyaeth i'r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

31 Gorffennaf 2013

Croesawodd Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth ddirprwyaeth o rai o'r sefydliadau ymchwil amaethyddol blaenllaw Tsiena ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf.

Arweiniwyd y ddirprwyaeth o 25 gan Mr Hao Peng, Pennaeth Adran Gweinyddiaeth y Wladwriaeth dros Faterion Arbenigwyr Tramor, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o ganolfannau ymchwil amaethyddol o bwys gan gynnwys y Canolfan Gwartheg Llaeth Beijing, Sefydliad Meddygaeth Hwsmonaeth Anifeiliaid Tianjin, Jiangsu Sefydliad Gwyddoniaeth Dofednod Jiangsu a Phrifysgol Amaethyddol Huazhong.

Yn ystod yr ymweliad undydd bu’r ddirprwyaeth yn ymweld â chyfleusterau ymchwil yn IBERS Gogerddan, gan gynnwys y ffermydd a’r Ganolfan Phenomeg Planhigion Genedlaethol gwerth £6.8m agorwyd yn ddiweddar.
Cafwyd cyflwyniadau gan staff IBERS dan arweiniad y Cyfarwyddwr yr Athro Wayne Powell, yr Athro Nigel Scollan, Dr Pippa Moo0re a Dr Mike Rose. Canolbwyntiodd y rhain ar ymchwil a dysgu ar dda byw, a bioleg dŵr, ymddygiadol ac esblygiadol.
Cafodd yr ymwelwyr wybod am gryfderau mawr Aberystwyth ym maes amaethyddiaeth porfeydd gydag arbenigedd sy’n arwain y byd mewn geneteg planhigion a bridio, amaethyddiaeth anifeiliaid sy’n cnoi cil a micro bioleg, ynghyd â gwaith pwysig mewn biotechnoleg ddiwydiannol.

Cyflwynwyd gwaith y Ganolfan Phenomeg Planhigion Genedlaethol a’r Labordy Genomeg Trosiadol gan yr Athro John Doonan, Mr Alan Gay a Dr Matt Hegarty. Dysgodd yr ymwelwyr sut y bydd buddsoddiad yn y cyfleusterau newydd yma yn Aberystwyth yn cynorthwyo i ddatblygu mathau gwell o borthiant a grawn ar gyfer y diwydiant.

Dywedodd yr Athro Nigel Scollan: "Roedd hwn yn gyfle gwych i wyddonwyr blaenllaw o Tsieina i ddysgu yn uniongyrchol am y gwaith ymchwil a dysgu rhagorol yma yn IBERS a'r datblygiadau cyffrous a gyhoeddwyd yn ddiweddar gyda datblygiad y campws Arloesi a Lledaenu newydd ar gyfer bwyd ac ynni adnewyddadwy yng Ngogerddan.

"Mae datblygu cysylltiadau ymchwil rhyngwladol cryf ym meysydd ymchwil a dysgu yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r heriau mawr yn y byd heddiw sy'n gysylltiedig â bwyd, ynni a dŵr yng nghyd-destun cynnydd mawr ym mhoblogaeth y byd a hinsawdd sy’n gynyddol ansefydlog. Rydym yn falch iawn o’r cyfle i groesawu dirprwyaethau rhyngwladol i Aberystwyth, gan fod hwn yn gyfle i adeiladu ar ein cysylltiadau presennol a sefydlu cyfleoedd newydd. "