Mae’r gwasanaeth gwybodaeth organig yn ôl mewn busnes
17 Gorffennaf 2013
Bydd presenoldeb mwy fyth gan bartneriaeth Canolfan Organig Cymru (COC) o Ganolfan Ymchwil Organig (CYO), ADAS a Phrifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru eleni ar ôl eu cais llwyddiannus i ddarparu cyngor polisi organig a gwasanaethau eraill i Lywodraeth Cymru o 2013 hyd 2015.
Wedi’u lleoli yn eu safle blynyddol yn yr ardal Gofal Cefn Gwlad (Stondin CCA793), bydd COC yn cyflawni elfennau o’r cytundeb ymgynghori newydd, yn ogystal â chynnal arddangosiadau ar brosiectau y gadwyn gyflenwi, a bydd cyrff ardystio organig yn ymuno â nhw. Yn ychwanegol, bydd COC yn cynnal arddangosiadau coginio fel rhan o brosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (GCBO), yn yr adeilad ‘Bwyd a Diod’ newydd (Stondin E395).
Datblygu Cynllun Ffermio Organig Cymru newydd fydd prif ganolbwynt y gwasanaeth. Mae aelodau staff ar draws y bartneriaeth wedi dechrau siarad eisoes efo rhanddeiliaid organig allweddol a rhanddeiliaid eraill er mwyn derbyn eu hatborth ar y mecanweithiau cefnogi presennol; gan nodi’r llwyddiannau a’r materion posibl sydd angen eu hystyried mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Nic Lampkin, Cyfarwyddwr CYO, “Rydym wrth ein bodd i fod yn darparu’r gwasanaeth hwn er mwyn cefnogi datblygu ffermio organig yng Nghymru. Wrth weithio efo busnesau organig bob dydd, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’r angen am gynlluniau newydd yn dilyn y gwersi a ddysgwyd yn uniongyrchol gan y ffermwr; er mwyn cefnogi cynhyrchwyr organig sy’n gweithio’n galed a rhoi mwy o sicrwydd iddyn nhw yn y dyfodol.”
Bydd trafodaethau gyda Rhanddeiliaid yn ddiweddar ar bolisïau organig Cymru yn y dyfodol yn cael eu hadolygu yn ystod seminar COC yn Sioe Frenhinol Cymru, 22ain - 25ain Gorffennaf yn Llanfair ym Muallt. Mae’r digwyddiad ‘Adeiladu dyfodol i ffermio organig yng Nghymru’ yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth am 2:30pm, wedi’i arwain gan yr Athro Nic Lampkin o Ganolfan Ymchwil Cymru.
Drwy gydol y Sioe, bydd trafodaethau efo cynhyrchwyr am faterion technegol, materion y farchnad a materion polisi yn parhau fel y mae COC yn dychwelyd i’r ardal Gofal Cefn Gwlad ar y maes gan lywyddu eu fforwm newydd ‘Sgwrs y Gymru Organig’ Yn ogystal, bydd y trafodaethau hyn yn mewnbynnu i gynigion ar gyfer y cynllun organig newydd, a fydd yn cael ei ryddhau ar gyfer ymgynghori gan Lywodraeth Cymru yn ystod hydref 2013.
Dywedodd Neil Pearson, Rheolwr COC, “Mae ein trafodaethau yn y Sioe Frenhinol yn cynnig i gynhyrchwyr organig gwir gyfle i ddweud eu dweud ar gynlluniau a fydd ar gael iddyn nhw’n y dyfodol. Bydd staff wrth law yn ystod y pedwar diwrnod ac rydym yn gobeithio y bydd cynhyrchwyr yn cymryd y cyfle hwn.”
Bydd gweithgarwch pellach o dan y gwasanaeth ymgynghorol yn digwydd drwy gydol 2013 a gellir dod o hyd i fwy o fanylion yn y cylchgrawn ‘Cymru Organig’ sydd wedi cael ei ail-lansio. Bydd copïau ohono ar gael ym mhabell COC yn yr ardal Gofal Cefn Gwlad.