Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ffermio’r DU (CEUKF)

08 Gorffennaf 2013

Mae Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ffermio’r DU (CEUKF), cynghrair o gadwyni cyflenwi bwyd-amaeth i helpu’r diwydiant ffermio yn y DU i ymateb i heriau cynhyrchu a chynaliadwyedd, wedi cyhoeddi bod 5 o brif sefydliadau ymchwil y DU bellach yn rhan o’r bartneriaeth a’i bod yn helpu i redeg nifer o brosiectau ymchwil a datblygu bwyd-amaeth ar y cyd.

Ers ei lansio yn 2011 â chyllid sbarduno gan y cwmni gwerthu bwyd Waitrose, mae’r ganolfan bellach yn cynnwys: Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth (IBERS); NIAB TAG; Sefydliad Bwyd-amaeth a Biowyddorau Gogledd Iwerddon (AFBI); Coleg Gwledig yr Alban (SRUC) a Phrifysgol Harper Adams. Mae CEUKF yn darparu gwybodaeth ac eitemau newyddion i’r partneriaid a’u prosiectau drwy ei gwefan Farming Futures (FF), dilynwyr Twitter a rhwydwaith ehangach y partneriaid.

Dywedodd Arglwydd Curry o Kirkharle, cadeirydd Bwrdd Llywio CEUKF o arweinwyr busnes ac academaidd, “Mae CEUKF yn helpu i atgyfnerthu cysylltiadau drwy feithrin ymddiriedaeth a hwyluso llinellau cyfathrebu yn ystod cyfnod cymhleth, cystadleuol a heriol i fyd amaeth, prosesu bwyd a manwerthu. Mae’r prosiectau ymchwil a’r cysylltiadau diwydiannol sy’n deillio o’r gynghrair hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amaethyddiaeth yn y DU; mae’n dod â gwybodaeth newydd i gadwyni cyflenwi bwyd-amaeth ac yn hybu dull newydd o gyfnewid gwybodaeth.”

Mae’r ganolfan yn gweithio ers y cychwyn cyntaf i gysylltu partneriaid ym maes ymchwil gymhwysol ac ym myd busnes, a’r rhai sy’n llunio polisïau a rhanddeiliaid, ac i ymwneud yn eang â hwy. Dywed Dr Tina Barsby o NIAB fod hybu arfer da o ran cynhyrchu’n effeithlon ac yn gynaliadwy ymhlith ffermwyr y DU yn un o swyddogaethau allweddol CEUKF: "Mae cysyniad 'dwysáu cynaliadwy' ym myd amaeth – cynhyrchu mwy fesul uned adnoddau ac effaith amgylcheddol – wedi hen ennill ei blwyf fel ymateb angenrheidiol i ‘storm berffaith’ Syr John Beddington o dwf y boblogaeth, newid yn yr hinsawdd ac adnoddau naturiol sy’n prinhau. Mae’n llai clir beth yn union y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol i wahanol sectorau cynnyrch a systemau ffermio, sut i fesur a meincnodi perfformiad ar hyn o bryd ac, yn allweddol, sut i sbarduno gwelliannau o ran cynhyrchu’n effeithlon ac yn gynaliadwy dros amser. Un o amcanion pwysicaf CEUKF yw dod o hyd i arfer da a’i hybu ymhlith ffermwyr y DU, drwy arloesi a thrwy drosglwyddo gwybodaeth mewn technoleg, systemau cynhyrchu a rheoli ar ffermydd."
Dywedodd yr Athro Seamus Kennedy, Prif Swyddog Gweithredol AFBI “Er mwyn datblygu’r diwydiant bwyd-amaeth mewn modd cynaliadwy mae’n rhaid wrth fwy o arloesi ar bob lefel yn y gadwyn fwyd a mwy o gydweithio rhwng sefydliadau ymchwil a diwydiant.”
Ychwanegodd Dr David Llewelyn, Is-Ganghellor Prifysgol Harper Adams, “Mae CEUKF yn dwyn ynghyd rwydwaith cenedlaethol o sefydliadau a chanddynt hanes o weithio gyda diwydiant ym meysydd y gwyddorau amaethyddol a thechnoleg.  Bydd cryfderau’r rhwydwaith, o ymchwil sylfaenol i ymchwil strategol a chymhwysol, ynghyd â chryfderau sefydliadau masnachol arloesol, o gymorth i’r DU wynebu her gwella perfformiad busnes, cynhyrchiant a chynaliadwyedd yn y sector bwyd-amaeth.”

Yn ôl yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn ymwybodol bod ffermio’n wynebu heriau mawr yn y dyfodol, a bod hynny’n wir yma yn y DU hefyd. “Mae’r DU wedi bod ar flaen y gad ym maes y gwyddorau amaethyddol ers tro byd, ac yma y mae peth o’r ffermio mwyaf cynhyrchiol yn y byd”, dywedodd. “Ond gallwn wneud mwy i roi’r wybodaeth honno ar waith, i ymateb i heriau diogelu cyflenwadau bwyd y byd ac i ymdrin â materion amgylcheddol megis newid yn yr hinsawdd a diogelu adnoddau. Mae CEUKF wedi ymrwymo i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau i dyfu bwyd diogel, naturiol, maethlon ar adeg pan fo’r hinsawdd yn newid.”
Mae’r Athro Bob Webb o SRUC yn cytuno bod rôl bwysig i’r bartneriaeth ym myd amaeth yn y DU: “Er mwyn darparu diwydiant amaeth gyda’r gorau yn y byd mae’n rhaid wrth gyflenwad o ymchwil sylfaenol a strategol sy’n llywio hyfforddiant ein myfyrwyr ac yn llywio ein gwasanaethau cynghori. Mae gan bartneriaid CEUKF yr ystod hon o ddarpariaeth ac arbenigedd integredig.’’

Wrth i’r Ganolfan ddatblygu, ei huchelgais yw meithrin ei galluoedd a dwyn ynghyd bartneriaeth ehangach o sefydliadau ffermio, ymchwil a’r gadwyn fwyd a chanddynt ymrwymiad cyffredin i gynhyrchu bwyd yn effeithlon ac yn gynaliadwy. I’r perwyl hwnnw, mae’n cynnal cynadleddau a phrosiectau ymchwil yn gyson ar feincnodi mesuriadau cynhyrchu’n effeithlon ac yn gynaliadwy drwy ei brosiectau Mynegai SEP a thrwy ddwyn ynghyd arbenigedd o Linking Environment and Farming (LEAF), y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB), Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) a nifer o gwmnïau byd-eang blaenllaw.