Twyllo pryfaid drwy eu dallu â phatrymau
Ffotograff gan fyfyriwr ôl-raddedig IBERS Lisa Clancy.
10 Rhagfyr 2013
Roedd ‘cuddliw dallu’ (neu‘razzle dazzle’ fel y câi ei alw) yn dacteg a ddyfeisiwyd gan yr artist morol o Brydain Norman Wilkinson yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i atal llongau tanfor o’r Almaen rhag suddo cymaint o longau Prydeinig. Ym 1917 addurnodd longau gyda phatrymau geometrig amlwg, â’r bwriad nid o guddio’r llong ond drysu llygad y sawl oedd yn ei gwylio a’i wneud yn anoddach iddo farnu ei chyflymder a’i chyfeiriad.
Mae’n bosibl fod cuddliw dallu wedi’i ysbrydoli gan natur, oherwydd ceir awgrym fod streipiau cyferbyniol sebras a rhai nadroedd yn cael yr un effaith. Serch hynny, boed ar nadroedd neu ar longau, tameidiog fu unrhyw dystiolaeth fod patrymau dallu’n amharu mewn gwirionedd ar ganfyddiad y llygaid.
Esbonia Dr Santer, sy’n aelod o Grŵp Ymchwil Bioleg Ddyfrol, Ymddygiadol ac Esblygiadol IBERS (ABEB), “er bod astudiaethau ar bobl wedi cynnig ambell gipolwg difyr ar effaith y cuddliw dallu, ychydig o gonsensws sydd o ran canlyniadau ar draws yr astudiaethau. Yr astudiaeth hon yw’r gyntaf i ddangos yr effaith mewn anifail sy’n ysglyfaeth, ac ar lefel fecanistig”.
Roedd astudiaeth Dr Santer (a gyhoeddwyd yr wythnos hon yng nghyfnodolyn Y Gymdeithas Frenhinol, Biology Letters) yn defnyddio locustiaid, sydd â niwronau gweledol arbenigol sy’n ymateb pan fydd gwrthrychau sy’n ymddangos fel ysglyfaethwyr yn agosáu, gan sbarduno’r locust i ddianc. Cafodd gweithgaredd y niwronau hyn ei fonitro gydag electrodau, tra bod y locustiaid yn edrych ar sgrin lle byddai sgwariau â phatrymau gwahanol wedi’u hanimeiddio yn agosáu atyn nhw o bryd i’w gilydd.
Roedd ymchwiliad cynharach wedi canfod bod ysgogiadau gweledol llachar a thywyll yn cael effaith elyniaethus ar ymatebion y niwronau yn y locust oedd yn canfod ysglyfaethwyr. Mae astudiaeth Dr Santer yn dangos, o ganlyniad i’r effaith hon, fod sgwariau gyda phatrymau llachar a thywyll yn achosi i niwronau gweledol y locust ymateb yn wannach, ac yn hwyrach … gan olygu y byddai ymosodwr gyda marciau cyferbyniol iawn yn anoddach i’r locust ei ganfod a’i osgoi nag ysglyfaethwr â phatrwm mwy plaen.
Cred Dr Santer fod pryfaid yn wrthrychau rhagorol ar gyfer ymchwilio i guddliw dallineb. “Y peth gwych am bryfaid yw eu bod yn hawdd eu hastudio yn y labordy,” dywed, “mae dau o’n myfyrwyr sŵoleg israddedig yn ymchwilio i guddliw dallu yn fy labordy i nawr, ac mae’n wych eu bod yn gallu astudio pwnc mor gyffrous.”
Ac yn ôl Dr Santer mae digon ar ôl i’w wneud. “Y cam nesaf yw canfod a yw ysglyfaethwyr wedi esblygu marciau sy’n gwneud defnydd penodol o’r effaith dallu”, meddai.
Santer RD (2013). Motion dazzle: a locust’s eye view. Biology Letters 9(6): 20130811.