Myfyriwr IBERS yn ennill Bwrsariaeth Undeb Amaethwyr Cymru

Llun: James Price a Kathryn Morris gyda beirniaid y bwrsari (o’r chwith) Dafydd Williams, cynrychiolydd Sir Benfro ar gyngor Undeb Amaethwyr Cymru,  Alun Edwards a Glyn Roberts, dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

Llun: James Price a Kathryn Morris gyda beirniaid y bwrsari (o’r chwith) Dafydd Williams, cynrychiolydd Sir Benfro ar gyngor Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Edwards a Glyn Roberts, dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

09 Rhagfyr 2013

Mynegwyd teimladau cryfion ynglŷn â dyfodol amaethyddiaeth pan aeth dau fyfyriwr amaeth ar eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ben ben â’i gilydd yn y cyfweliadau terfynol ar gyfer y prif ddyfarniadau yng nghynllun bwrsari addysg uwch Undeb Amaethwyr Cymru.

Cafodd Kathryn Morris, y Belan, Berriw, ger y Trallwng, a James Price, Ackhill Farm, Llanandras, y ddau yn bedair ar bymtheg oed, eu gosod ar y rhestr fer ar gyfer eu cyfweld gan banel o feirniaid yn ystod Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt.
 
Mae’r naill a’r llall yn byw ar ffermydd cig eidion a defaid a chyflwynodd y ddau draethawd mil o eiriau gyda’u ffurflen ymgeisio. Dewisodd Kathryn y pwnc: “Ai cenedl o geidwaid parciau neu gynhyrchwyr bwyd ydyn ni?” tra dewisodd James: “A ddylai ffermwyr fod yn gynhyrchwyr bwyd neu’n gynhyrchwyr tanwydd?” 
 
Dewiswyd James yn enillydd y bwrsari o £1,000 gan banel o dri beirniad a dyfarnwyd £500 i Kathryn am ddod yn ail..
 
Mae James yn treulio cymaint o amser ag y gall yn gweithio ar y fferm gartre ac i ffermwyr eraill yn yr ardal. "Rwy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â ffermio, yn arbennig ffermio da byw, a dyma’r unig yrfa rwyf wedi ei deisyfu erioed,” meddai.
 
Tra’n cynrychioli Clwb Ffermwyr Ifanc Llanandras mae wedi ennill cystadleuaeth stocmon ifanc y flwyddyn ffederasiwn y sir ac mae wedi gweithredu fel trysorydd y clwb.
 
Roedd ei draethawd yn egluro, tra mae newid hinsawdd yn uchel ar agenda llywodraethau ledled y byd,  mae biodanwydd yn dod yn ffynhonell gynyddol boblogaidd o ynni, ac yn aml yn cymryd lle cnydau bwyd neu’n defnyddio cynhyrchion a ddefnyddid gynt ar gyfer bwyd.
 
"Fodd bynnag, gyda phoblogaeth sydd yn cyson gynyddu mae’r galw am fwyd yn anorfod o gynyddu felly bydd gofyn i ffermwyr gynhyrchu rhagor o fwyd oddi ar lai o dir a hynny mewn modd sy’n amgylcheddol garedig.
 
"Mae indrawn a dyfir ar gyfer biodreulwyr yn bwnc tra dadleuol gan fod llawer o bobl o’r farn y byddai’n well bwydo’r indrawn i dda byw er mwyn cynhyrchu bwyd yn hytrach na’i roi i mewn i fiodreulwyr.
 
"Fodd bynnag, mae’r cymhorthdal am yr ynni a gynhyrchir o’r treulwyr mor hael fel bod yr indrawn yn werth llawer mwy o arian iddynt, fel cnwd ar gyfer ynni, nag y mae i ffermwyr da byw ar gyfer bwydo anifeiliaid. Mae hyn yn codi’r cwestiwn – a yw biodanwydd yn ddewis ymarferol heb y cymhorthdal a roir arno gan y llywodraeth?
 
"Yn gyffredinol rwy’n credu bod llawer o gyfleoedd yn cael eu cynnig i ffermwyr drwy fod yn gynhyrchwyr ynni a dylid eu hystyried a’u cadw mewn cof wrth wneud pob penderfyniad.
 
"Teimlaf, fodd bynnag, bod cynhyrchu bwyd yn bwysicach gan fod eisoes bobl yn y byd sy’n brin o fwyd a dim ond gwaethygu wna’r sefyllfa wrth i boblogaethau gynyddu.
 
"Mae biodanwyddau yn ychwanegiad buddiol i’r diwydiant amaeth ond ni ddylai ddod yn brif nod i ni.”
 
Bu Kathryn yn ffermwraig frwd ers yn ifanc – “roeddwn i’n helpu ar y fferm hyd yn oed cyn i mi ddysgu darllen”. Cyn cychwyn ar ei chwrs amaethyddiaeth a rheoli cefn gwlad yn Aberystwyth cymrodd flwyddyn i ffwrdd yn ennill profiad ymarferol o gymryd cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau rheoli ar fferm y teulu.
 
Mae ganddi hefyd ddiadell fechan o famogiaid Texel pedigri ac mae hi’n aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Berriw.
 
Yn ei thraethawd roedd hi’n annog y diwydiant amaeth i ystyried ei hun yn geidwaid parciau ac yn gynhyrchwyr bwyd. "Nid yw llygru’r union dir y maent yn dibynnu arno am eu bywoliaeth o unrhyw fudd i amaethwyr.
 
"Fodd bynnag, byddai’r diwydiant yn datblygu yn llawer cyflymach pe bai agweddau yn newid. Pe bai addysg a sgiliau marchnata yn cael eu darparu ar gyfer ffermwyr, byddent yn gallu gwerthu eu cynnyrch i bobl leol am brisiau teg a fforddiadwy.
 
"Gellid olrhain pob eitem o fwyd a byddai’r gadwyn yn llawer iawn byrrach.  Byddai’n creu rhagor o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth ond, yn bwysicach, byddai’n cwtogi allyriad carbon yn llym drwy leihau’r milltiroedd cario bwyd a’r problemau hinsoddol y mae hyn yn ei achosi i fywyd gwyllt Prydain.” 
 
Llongyfarchwyd y ddau gan Alun Edwards, cadeirydd pwyllgor addysg a hyfforddiant amaethyddol Undeb Amaethwyr Cymru ar eu cynigion sy’n ysgogi meddwl a dywedodd bod y beirniaid yn edrych ymlaen at ddilyn eu gyrfaoedd ym myd amaeth.
 
"Mae problem yn dal i fod yn ein hysgolion a’n colegau ynglŷn â’r ffordd y mae amaethyddiaeth yn cael ei chanfod, felly mae cyfrifoldeb anferth arnom ni i hyrwyddo’r diwydiant fel gyrfa. 
 
"Mae’r naill a’r llall wedi dangos bod gyrfa dda ddichonadwy mewn ffermio ac mae’n dda iawn gweld eu bod hefyd yn ymddiddori yn eu cymunedau lleol ac yn talu rhywbeth yn ôl.”
 
Yn ystod y Ffair Aeaf  lansiodd yr undeb ei chynllun bwrsari ar gyfer myfyrwyr addysg bellach a fydd hefyd yn cynnig gwobr o £1,000 i’r enillydd a £500 i’r ail.
 
Mae ffurflenni cais ar gael o Brif Swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru yn Llys Amaeth, Plas Gogerddan, Aberystwyth SY23 3BT (Ffôn: 01970 820820) neu o unrhyw un o swyddfeydd sir yr undeb.