Bioblitz yn barod i chwalu record
Trefnwyr y bioblitz: Dr Pippa Moore, Dr John Warren and Charlie Long yn Nhŷ Trofannol y Brifysgol
23 Ebrill 2013
Ar 11 Mai 2013, bydd staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a thrigolion lleol yn ymgynnull ar gampws Penglais mewn ymgais marathon 24 awr i nodi cymaint o rywogaethau sy'n byw ar y safle ag y bo modd.
Mae'r tîm trefnu lleol yn hyderus y byddan nhw nid yn unig yn torri'r record am y nifer o rywogaethau a geir, ond yn ei chwalu hi. Nid oes cofnod swyddogol am y nifer mwyaf o rywogaethau a geir mewn Bioblitz, ond yn y DG mae’r cyfanswm oddeutu 1000 ac yn fyd-eang mae tua 3000. Mae tri rheswm pam bod y trefnwyr mor siŵr bod y record ar ei ffordd i Aberystwyth.
Dr John Warren trefnydd y Bioblitz a Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu yn IBERS sy’n esbonio "Yn gyntaf ac yn bwysicaf oll, Prifysgol Aberystwyth yw'r unig gampws yn y byd sydd wedi’i leoli o fewn gwarchodfa biosffer. Rydym i gyd yn gwybod ein bod yn ffodus i fyw a gweithio mewn lle mor arbennig a bioamrywiol.
"Yn ail, o hanner nos ar y 10fed tan hanner nos ar yr 11eg o Fai, mae rhaglen lawn o 30 o weithgareddau gwahanol yn rhan o Fioblitz Campws Penglais."
Ychwanegodd Dr Pippa Moore, un arall o’r trefnwyr "Byddwn ni ddim yn gadael yr un garreg, darn o bren pydredig na phwll heb eu troi wrth chwilio am yr holl organebau byw ar y campws. Felly, yn drydydd, byddwn yn defnyddio gwyddoniaeth foleciwlaidd arloesol i nodi micro-organebau - y miliynau o rywogaethau bychain sy'n hanfodol i fywyd ar ein Daear ni."
Mae Bioblitz Penglais yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan ac mae croeso i chi ymuno yn yr hwyl a bod yn rhan o dorri record. Bydd gweithgareddau o ddiddordebau i bawb yn ystod y diwrnod llawn hwyl, gan ddechrau gyda gwyfynod am hanner nos ac ystlumod cyn brecwast.
Bydd arbenigwyr yn arwain teithiau o amgylch y campws yn ystod y dydd gan nodi’r planhigion gwyllt a garddwriaethol hyfryd. Byddan nhw hefyd yn chwilio am y creaduriaid cropian cudd sy'n celu yn eu plith.
Gosodir trapiau camera i dynnu lluniau’r llwynogod, moch daear a draenogod sy’n crwydro’r campws yn y nos. ‘Does dim angen i chi fod yn naturiaethwr i gymryd rhan, oherwydd bydd llu o arbenigwyr wrth law ym Mhencadlys y Bioblitz i’ch helpu chi nodi unrhyw beth anarferol.
Ychwanegodd Charlie Long, myfyrwraig ôl-radd sy’n rhan o'r tîm trefnu "Bydd y rhan fwyaf o'r digwyddiadau yn ymgynnull yn y fynedfa i Adeilad Edward Llwyd ar Gampws Penglais lle bydd arbenigwyr brwdfrydig yn helpu i arwain y gweithgareddau amrywiol. Os ydych am gymryd rhan dim ond troi fyny sydd angen i chi wneud, ‘does dim angen unrhyw offer arbenigol arnoch, dim ond esgidiau a dillad call a chwilfrydedd brwdfrydig."
Mae'r rhaglen gyfan o ddigwyddiadau yn fenter gydweithredol enfawr sy’n dibynnu ar gyfraniad nifer o arbenigwyr a sefydliadau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau gwyfynod ac ystlumod lleol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Ceredigion, Cymdeithas Fotanegol Aberystwyth, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Ceir manylion llawn am y rhaglen ynghyd ag amser y gweithgareddau ar y wefan y Bioblitz.