Gwerslyfr bioleg newydd

Clawr The Molecular Life of Plants

Clawr The Molecular Life of Plants

13 Chwefror 2013

Ysgrifennwyd The Molecular Life of Plants, gwerslyfr arloesol newydd a gynlluniwyd i gyflwyno myfyrwyr israddedig i fioleg planhigion arbrofol cyfoes, gan Russell Jones, Dr Helen Ougham, Howard Thomas a Susan Waaland, gan awduron â’u  gwreiddiau’n gadarn yng Nghymru.

Mae Russell Jones, Dr Helen Ougham a Howard (Sid) Thomas yn raddedigion doethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth. Mae Helen a Sid wedi’u lleoli yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Athro yn Adran Bioleg Planhigion a Microbaidd yr Ysgol i Raddedigion ym Mhrifysgol California, Berkeley yw Russell, sy’n frodor o Ddyserth yn Sir Ddinbych, a than yn ddiweddar ef oedd Cadeirydd Bwrdd Cynghori Allanol IBERS.

Mae Russell a Helen yn siaradwyr Cymraeg a chynhaliwyd llawer o'r cynadleddau awdurol ar draws Môr yr Iwerydd yn iaith cyndadau Russell.

Mae'r llyfr yn parhau â thraddodiad hir ag Aberystwyth fel canolfan byd enwog ym maes gwaith ymchwil ac addysgu gwyddoniaeth planhigion. Cyhoeddiad ar y cyd gan Gymdeithas Americanaidd Biolegwyr Planhigion (y corff rhyngwladol sy'n cynrychioli gwyddonwyr planhigion ledled y byd) a John Wiley & Sons Ltd yw The Molecular Life of Plants.

Ymunodd yr academydd nodedig yr Athro Dr Susan Waaland o Brifysgol Washington gyda Russell, Helen a Sid i ysgrifennu’r llyfr. Nodwedd ragorol o'r llyfr yw ansawdd a chyfoeth y darluniau, sef gwaith yr artist Debbie Maizels.

Defnyddia The Molecular Life of Plants gylch bywyd planhigyn fel fframwaith i drafod agweddau allweddol o swyddogaeth planhigion o had i had ac mae’n adlewyrchu'r newidiadau dramatig sy’n bosibl mewn bioleg gan y chwyldro mewn geneteg foleciwlaidd. Mae'r llyfr wedi ei drefnu mewn chwe rhan.

Origins/Gwreiddiau yn cynnwys adran gychwynnol ar strwythur atgenhedlu planhigion ac yn cwmpasu hanfodion cemeg celloedd, genomau planhigion a strwythur y celloedd.

Germination/Egino yn disgrifio'r digwyddiadau yn y celloedd sy’n hanfodol ar gyfer egino, y cynnull o gronfeydd storio bwyd wrth gefn a sut mae’r cronfeydd wrth gefn yn cael eu metaboleiddio i ddarparu sgerbydau ynni a charbon ar gyfer datblygu’r planhigyn.

Emergence/Ymddangos yn ymdrin â rôl golau mewn twf a datblygiad eginblanhigion.

Growth/Twf yn cynnwys synthesis hormonau a gweithredu, cylch y gell a meristemau, hwyhau cell, embryogenesis, datblygiad llystyfol a chaffael maetholion.

Maturation/Aeddfedu sy’n trafod cludiant dros bellter hir a rhyngweithio planhigion-amgylchedd.

Renewal/Adnewyddu yn disgrifio datblygiad blodau, hadau, ffrwythau a strwythurau gorffwys, mecanweithiau cwsg, a dirywio, aeddfedu a marwolaeth yng nghamau terfynol bywyd planhigyn.

Yn ychwanegol ar y fersiwn brint o The Molecular Life of Plants ceir adnoddau ar-lein helaeth yma  www.wiley.com/go/jones/molecularlifeofplants. Mae'r wefan hon yn gymorth i fyfyrwyr ac yn cynnwys fersiynau electronig o'r darluniau a’r tablau sy yn y llyfr.

Croesawodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gyhoeddiad y gwerslyfr hwn. Dywedodd: "Yn yr 21ain Ganrif, mae'r byd yn wynebu galwadau na welwyd eu tebyg ar gyfer porthiant bwyd, ffibr a thanwydd, ac mae hyn yn gofyn am ddealltwriaeth sylfaenol ac ymarferol o fywydau a swyddogaeth y planhigion yr ydym ni gyd yn dibynnu arnynt. Mae The Molecular Life of Plants, sy’n cyflwyno barn o Aberystwyth a'r Unol Daleithiau, yn gyfraniad pwysig i ddiwallu'r anghenion hyn."

Cyhoeddwyd The Molecular Life of Plants (766 tud) yn Hydref 2012 ac mae ar gael ar ffurf cyfrol clawr caled (£95), clawr meddal, E-Destyn Wiley neu E-Lyfr.
Mae IBERS yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer astudio gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae'n sefydliad unigryw mewn Addysg Uwch yn y DG sy'n tynnu ar arbenigedd academaidd i gynnal ymchwil arloesol i wella arferion amaethyddol ac i lywio polisi. Mae'r ystod eang o waith a wneir yn cwmpasu addysgu, ymchwil, menter a throsglwyddo gwybodaeth sy'n galluogi IBERS i chwarae rhan werthfawr yn yr ymgyrch fyd-eang i fynd i'r afael â rhai o heriau mwyaf pwysig y byd.

Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uno'r Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol (IGER), gynt yn rhan o’r Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC), â Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn derbyn cyllid strategol ar gyfer ymchwil gan y BBSRC, ac yn elwa ar gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.