Cydnabod ymddygiad da

Dr Rupert Marshall

Dr Rupert Marshall

07 Chwefror 2013

Mae darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth, Dr Rupert Marshall, wedi ei ethol i Gyngor llywodraethu'r Gymdeithas ryngwladol ar gyfer Astudio Ymddygiad Anifeiliaid (Association for the Study of Animal Behaviour ASAB).

Mae Dr Marshall, darlithydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn adnabyddus am ei waith ar gân adar, yn gyfrannwr cyson ar y radio a theledu, gan gynnwys rhaglenni’r BBC, The One Show a Springwatch.

Yn fwyaf diweddar ymddangosodd ar yr Antiques Roadshow, lle bu’n arddangos George, y parot kakapo o amgueddfa sŵoleg y Brifysgol.

"Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd cael fy ethol i wasanaethu ar y corff nodedig hwn " meddai Dr Marshall. "Mae Aberystwyth yn lle gwych i wneud gwaith ymchwil ar ymddygiad anifeiliaid ac i’w addysgu  – mae ein myfyrwyr wrth eu bodd yn astudio yma ac yn aml yn helpu gyda’n prosiectau ymchwil".

Yn wir, yn ddiweddar cyhoeddwyd  prosiect Victoria Franks ar arweinyddiaeth yn Animal Behaviour, cyfnodolyn yr ASAB. Bu Victoria yn astudio gyda Dr Marshall.

ASAB yw'r gymdeithas ddysgedig ryngwladol fwyaf blaenllaw ar gyfer astudio ymddygiad anifeiliaid. Mae’r Llywodraeth a gwneuthurwyr rhaglenni teledu ar fyd natur yn ymgynghori’n helaeth ag aelodau’r gymdeithas. Mae gan y gymdeithas hefyd raglen addysg weithredol ac mae’n cymryd rôl ganolog mewn materion yn ymwneud â lles, gan gynnwys  safonau’r diwydiant ar y defnydd moesegol o anifeiliaid wrth gynnal ymchwil ymddygiadol.

"O gadwraeth a lles i rwydweithiau nerfol a roboteg, mae ymddygiad yn wyddoniaeth sylfaenol sy'n effeithio ar bob agwedd o'n bywydau" esbonia Dr Marshall: "Rheoli torf, datrys gwrthdaro, difa moch daear, hyd yn oed adar yn taro fewn i awyrennau: mae sylfaen gwyddonol  mewn ymddygiad anifeiliaid yn rhan o’r cyfan ".