Newid hinsawdd – y bygythiad i foroedd Cymru

Dr Pippa Moore

Dr Pippa Moore

04 Tachwedd 2011

Mae ymchwil gan wyddonydd o Brifysgol Aberystwyth yn dangos y bydd rhaid i fywyd gwyllt ym moroedd Cymru ymateb yr un mor gyflym i effeithiau newid hinsawdd â bywyd gwyllt ar y tir.

Mae hefyd yn dangos bod anifeiliaid a phlanhigion ar hyd y glannau eisoes wedi dechrau symud.

Mae’r ymchwil yn herio’r farn hyd yn hyn y bydd rhaid i fywyd yn y môr ymateb yn arafach nag ar dir oherwydd bod y cefnforoedd yn cynhesu’n arafach.

Yn ôl yr ymchwil newydd, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn, Science, fe fydd rhaid i fywyd y môr mewn rhai mannau symud yn gynt na rhywogaethau’r tir a chyflymu amseriad rhai o brif ddigwyddiadau eu bywydau.

Cyd-awdur y papur yw Dr Pippa Moore sy’n ddarlithydd ym Mywydeg y Dŵr yn IBERS, y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Mae dadansoddiadau o dymheredd y ddaear yn dangos bod y cyflymder y bydd rhaid i fywyd gwyllt symud yn y môr yr un mor gyflym ac, mewn rhai llefydd, yn gynt nag i rywogaethau’r tir.” Meddai. “Mae hyn er bod y cefnfor yn cynhesu dair gwaith yn arafach na’r tir.”

Mae ei hymchwil hi yng Nghymru yn dangos bod cynhesu’r hinsawdd eisoes yn cael effaith o gylch y glannau a bod anifeiliaid a phlanhigion eisoes yn symud.

"Mae tymheredd y gwanwyn wedi bod yn cyrraedd tua phum niwrnod ynghynt ym mis Ebrill o gylch glannau Cymru ac mae’r tymheredd cyfartalog wedi bod yn symud tua’r gogledd ar gyflymder o rhwng 5 a 10 kilometr bob degawd,” meddai.

“Mae anifeiliaid a phlanhigion hyd lannau môr Cymru’n dilyn y newidiadau hyn gyda rhywogaethau’n symud mwy tua’r pegynau ac yn dechrau bridio ynghynt.”

Cocos Pigog (Acanthocardia aculeata)

Ymhellach a mwy cymhleth

Yn ôl y prif awdur, Dr. Mike Burrows o Gymdeithas Albanaidd Gwyddoniaeth y Môr, mae angen i fywyd gwyllt y môr symud ynghynt oherwydd y gallai fod angen teithio ymhellach i ddod o hyd i amodau tymheredd delfrydol.

“Ar y tir, mae’n rhaid i anifeiliaid a phlanhigion symud ymhell os ydyn nhw ar dir gwastad, fel diffeithiwch, er mwyn dod o hyd i newid mewn tymheredd, ond dim ond pellteroedd bach i fyny mynydd. Yn yr un modd, bydd rhaid i blanhigion ac anifeiliaid symud ymhell mewn rhai rhannau o’r cefnforoedd lle nad oes fawr o newid mewn tymheredd.”

Mae’r astudiaeth hefyd yn nodi nad yw patrymau newid hinsawdd yn gyson gyda rhai ardaloedd yn cynhesu ar raddfa wahanol a rhai hyd yn oed yn oeri.

Meddai Dr Moore, “Gyda newid hinsawdd byddwn yn aml yn cymryd yn ganiataol mai’r cyfan sy’n rhaid i rywogaethau ei wneud yw symud tua’r pegynau i osgoi’r cynhesu, ond mae ein hastudiaeth ni’n dangos bod pethau’n fwy cymhleth yn y môr.

“Er enghraifft, bydd rhaid i beth bywyd gwyllt yn y môr symud tua’r dwyrain hyd arfordir y Deyrnas Unedig er mwy aros yn eu hoff amgylchedd.”

Ychwanegodd Dr Burrows, “Mae rhai o’r ardaloedd ble bydd rhaid i greaduriaid symud gyflyma’ ymhlith yr ardaloedd pwysica’ o ran bioamrywiaeth, megis y triongl cwrel yn ne-ddwyrain Asia.”

Cafodd yr astudiaeth ei gwneud a’i chefnogi’’n rhannol gan y National Center for Ecological Analysis and Synthesis yn Santa Barbara yn yr Unol Daleithiau, sy’n cael cefnogaeth gan yr NSF.

Mae Dr. Pippa Moore yn ecolegydd newid hinsawdd morol a darlithydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym, Mhrifysgol Aberystwyth.

Gwybodaeth Bellach:
Dr. Pippa Moore, IBERS  pim2@aber.ac.uk 01970 622293 / 07531839000
Dawn Havard IBERS dbh@aber.ac.uk 01970 628440 / 07779 645598
Arthur Dafis Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus PA aid@aber.ac.uk 01970 621763