Bwrdd Ymgynghorol Newydd Ffermydd IBERS
Yn dilyn uno IGER á Phrifysgol Aberystwyth i ffurfio IBERS, mae gweithgareddau ymchwil a masnachol ffermydd y Sefydliad hefyd wedi uno i weithredu fel un. Mae ffermydd newydd y Brifysgol yn cynnwys 6 uned ar wahán, dros 1100 hectar o dir ac yn cwmpasu ystod eang o fentrau cnydau a da byw.
Dywedodd Yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS
“Ein her yw datblygu strategaeth ffermydd newydd sydd yn diogelu darpariaeth adnoddau ymchwil o’r radd flaenaf, tra’n gwella perfformiad masnachol. Un enghraifft o hyn ydy buddsoddi mewn adnoddau newydd yn Nhrawscoed, gan atgyfnerthu ymrwymiad IBERS i weithio gyda ac i gefnogi’r sector amaethyddol.”
Mae Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd newydd wedi ei sefydlu, yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gyfrannu i ddatblygiad strategol Ffermydd Prifysgol Aberystwyth; gan sicrhau fod y gweithgareddau yn cwrdd ag anghenion ymchwil, ond yn unioni á anghenion cynhyrchwyr, proseswyr a mán werthwyr yn y sector fwyd ym Mhrydain.
“Mae IBERS yn hynod falch i dderbyn ymrwymiad yr aelodaeth o galibr uchel i’r Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd; sydd yn cynrychioli amrywiol agweddau o fewn y diwydiant” medd Yr Athro Powell
Dr. Huw Mc Conochie, Rheolwr Ffermydd IBERS
Aelodau Bwrdd Ymgynghorol Ffermydd IBERS, Prifysgol Aberystwyth:
- Mr Gareth Davies
Pennaeth Amaeth
Wynnstay Group Plc
-
Mr David Edwards
Ymgyngoriaeth DWE cyf.
-
Mr Gareth Evans
Ysgrifennydd y Cwmni
Celtic Pride Cyf.
-
Mr Huw Gwillim
Rheolwr Rhanbarthol Bwyd-Amaeth, DBPF
Llywodraeth Cynulliad Cymru
-
Mr David Wynne Finch
Ffermydd Wynne Finch
- Mr Anthony O’Regan
Cyfarwyddwr Arolwg Busnes Fferm
IBERS
- Mr Duncan Sinclair
Rheolwr Amaeth DU
Waitrose Cyf.
- Mr John Lloyd Jones
Cadeirydd
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
- Yr Athro Martin Jones
Dirprwy Is- Ganghellor
Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear
- Dr. Huw Mc Conochie
Rheolwr Ffermydd IBERS
- Mrs Rachel Rowlands MBE
- Dr. Sinclair Mayne
Cynghorydd Gwyddonol Adrannol
Adran Amaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon