Cefnogaeth Ymgeisydd - Cwestiynau cyffredin

Ble gallaf weld rhestr o’r swyddi sydd ar gael i mi ymgeisio amdanynt?

Gallwch bori drwy’r holl swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd, neu hidlo swyddi yn ôl swyddi Academaidd NEU swyddi Rheoli, Gweinyddol a Thechnegol.

Er mwyn gweld rhestr o’r holl swyddi sydd i’w cael ar hyn o bryd, ewch i’n tudalen swyddi gwag.   

Sut ydw i’n gwneud cais am y swyddi sy’n cael eu hysbysebu?

Er mwyn gwneud cais am swydd ym Mhrifysgol Aber, rhaid cyflwyno eich cais ar-lein. Gallwch weld yr holl gyfleoedd sydd gennym ar hyn o bryd ar-lein ar ein tudalen swyddi gwag.    

Dydw i ddim yn siŵr am fy ngallu yn y Gymraeg. Sut ydw i’n ei asesu?

Mae pob swydd wag yn nodi lefel y Gymraeg sy’n hanfodol neu’n ddymunol. 

Lefelau Iaith Cymraeg

Lefel  Siarad (rhyngweithio a chynyrchu) Ysgrifennu
AO Nid wyf yn medru siarad Cymraeg o gwbl. Nid wyf yn medru ysgrifennu Cymraeg o gwbl.
A1

Rwy’n gallu :

  • rhyngweithio mewn ffordd syml ar yr amod bod y person arall yn barod i siarad yn araf, ailadrodd neu aralleirio pethau, ynghyd â bod yn barod i’m helpu.
  • defnyddio ymadroddion a brawddegau syml e.e. cyflwyno fy hunan neu berson arall,
  • gofyn ac ateb cwestiynau cyfarwydd e.e. ‘Ble dych chi’n byw?’

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu neges fer syml ar ffurf e‑bost neu nodyn, gan gynnwys yr amser, y dyddiad a’r lleoliad.
  • llenwi ffurflenni â’m manylion personol, e.e. enw, cyfeiriad a rhif ffôn.
A2

Rwy’n gallu:

  • siarad mewn iaith syml ar bynciau cyfarwydd.
  • cymryd rhan mewn sgyrsiau cymdeithasol byr iawn, hyd yn oed er nad ydwyf fi, fel arfer, yn gallu cadw’r sgwrs i fynd ohoni’i hunan.
  • defnyddio cyfres o ymadroddion i ddisgrifio ac ateb cwestiynau am fy nheulu a phobl eraill, y tywydd.
  • trosglwyddo cyfarwyddiadau neu negeseuon ffôn syml.

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu nodiadau syml byr,gan gysylltu brawddegau syml â chysyllteiriau syml fel ‘a’, ‘ond’ ac ‘oherwydd’.
  • ysgrifennu llythyr neu e-bost syml iawn, e.e. yn diolch i rywun am wneud rhywbeth.
B1

Rwy’n gallu:

  • manteisio ar ystod eang o iaith syml i ddelio â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy’n debygol o godi yn fy ngwaith.
  • deall ystyr gyffredinol e‑byst a llythyrau yn ymwneud â’m maes diddordeb, ynghyd â llythyrau damcaniaethol o fewn cwmpas fy ngwaith.
  • dechrau sgwrsio’n fyrfyfyr ar bynciau sy’n gyfarwydd imi, e.e. teulu, diddordebau, gwaith, teithio a digwyddiadau cyfredol.
  • cynnig cyngor ar faterion syml, i gleientiaid o fewn cwmpas fy ngwaith.
  • disgrifio profiadau a digwyddiadau,  gobeithion ac uchelgeisiau.
  • rhoi rhesymau ac esboniadau am fy marnau a’m cynlluniau, yn gwta. 

Rwy’n gallu:

  • cymryd nodiadau gweddol gywir mewn cyfarfodydd neu seminarau lle mae’r pwnc yn un cyfarwydd ac yn rhagweladwy.
  •  ysgrifennu llythyrau neu e‑byst yn disgrifio digwyddiadau, profiadau ac argraffiadau
  • ysgrifennu memoranda neu e-byst anffurfiol i gyflwyno gwybodaeth.
B2

Rwy’n gallu :

  • gwrando ar, deall a chyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd a seminarau.
  • cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau o fewn cyd‑destunau cyfarwydd.
  • mynegi barn yn glir.
  • cyflwyno disgrifiadau manwl a chlir ar ystod eang o bynciau yn ymwneud â’m gwaith ,
  • ehangu a chefnogi syniadau â phwyntiau atodol ac enghreifftiau perthnasol.
  • egluro safbwynt ar bwnc cyfoes gan roi manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau.
  • rhoi cyflwyniad clir ar bynciau cyfarwydd.

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu darnau byr o ohebiaeth fusnes, ar ffurf llythyr neu e‑bost, ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’m gwaith neu fy maes diddordeb, a hynny mewn Cymraeg safonol heb ddefnyddio templed (ond gan ddefnyddio gwirydd sillafu, geiriadur, adnoddau technegol a.y.b. pan fo angen).
  • cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan drosglwyddo gwybodaeth neu roi rhesymau o blaid neu yn erbyn safbwynt arbennig.
C1

Rwy’n gallu:

  • mynegi fy hunan yn rhugl ac yn ddigymell.
  •  defnyddio iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol, gan gyfrannu’n hyderus at gyfarfodydd a chyflwyniadau ar lafar.
  • ffurfio syniadau a barnau, gan sicrhau bod fy nghyfraniadau’n berthnasol i siaradwyr eraill.
  • ymateb yn briodol i sefyllfaoedd diwylliannol a chymdeithasol gwahanol.
  • cyflwyno disgrifiadau clir a manwl o bynciau cymhleth gan gyflwyno is-themâu, gan ddatblygu pwyntiau penodol, ynghyd â chloi’r cyflwyniad â chasgliad priodol.

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n glir, ynghyd â mynegi safbwyntiau am gyfnod hir.
  • ysgrifennu esboniadau manwl ar bynciau cymhleth ar ffurf e-bost, llythyr, traethawd neu adroddiad, gan danlinellu’r materion perthnasol.
  • ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy’n briodol i’r gynulleidfa sydd mewn golwg.
C2

Rwy’n gallu:

  • deall adroddiadau ac erthyglau yr wyf yn dod ar eu traws yn fy ngwaith, gan gynnwys syniadau cymhleth wedi’u mynegi mewn iaith gymhleth. 
  • cymryd rhan yn ddiymdrech mewn trafodaeth. 
  • mynegi fy hunan yn rhugl a chyfleu arlliwiau ystyr yn gywir.
  • addasu ac ailstrwythuro fy nghyfraniad wrth imi gwrdd ag unrhyw anhawster a wynebir, mor esmwyth fel braidd nad yw pobl eraill yn ymwybodol ohono.
  • cynghori ar faterion cymhleth, anodd a chynhennus megis materion cyfreithiol neu ariannol, i’r graddau y mae fy ngwybodaeth arbenigol yn ymestyn.
  • cyflwyno disgrifiadau neu ddadleuon yn dda, yn llyfn ac yn glir, yn y cywair sy’n briodol i’r cyd-destun, ac sydd â strwythur rhesymegol ac effeithiol sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n gwrando ar y pwyntiau arwyddocaol.

Rwy’n gallu:

  • cymryd nodiadau llawn a chywir a pharhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a seminarau.
  • ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n dda ac yn llyfn ac yn y cywair priodol.
  • ysgrifennu adroddiadau neu erthyglau technegol gymhleth strwythuredig sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n darllen, at y pwyntiau arwyddocaol.
  • ysgrifennu adolygiadau o weithiau proffesiynol a/neu rai llenyddol.

Mae’r lefelau a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yn cyfateb i’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR) ac fe’i defnyddir yn eang yn Ewrop a hefyd ar gyfandiroedd eraill, ac mae ar gael mewn dros 40 o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.   Mapiwyd cymwysterau Cymraeg i Oedolion i’r Fframwaith yn 2014.

Mae CEFR yn disgrifio hyfedredd iaith ar chwe lefel: A1 ac A2, B1 a B2, C1 ac C2.  Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ychwanegu seithfed lefel: A0 i ddynodi’r gofyniad ‘y gallu i ddeall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd mewn lle i gefnogi gweithio yn ddwyieithog’.

A oes angen cymwysterau addysgol penodol i wneud cais?

Mae gennym swyddi academaidd a rhai sydd ddim yn academaidd ym Mhrifysgol Aber. Mae pob disgrifiad swydd yn nodi’r cymhwyster addysgol neu gymhwyster cyfatebol sydd ei angen. 

A oes gennych gynllun graddedigion neu gyfleoedd interniaeth?

Nid oes gennym gynllun i raddedigion na chyfleoedd interniaeth ar hyn o bryd ond rydym wrthi’n eu datblygu. Serch hynny, mae gennym Gynllun Blwyddyn mewn Gwaith a chynllun lleoliadau AberYmlaen sy’n cynorthwyo â phrofiad gwaith ymarferol. 

A oes angen fisa arnaf i weithio yn y Deyrnas Unedig os ydw i’n dod o’r UE neu’r AEE neu’n ddinesydd o’r Swistir?

Gadawodd y DU yr UE a daeth cyfraith symud rhydd i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Roedd cyfnod gras o 6 mis i ganiatáu i ddinasyddion yr UE, yr AEE, y Swistir ac aelodau eu teulu sy'n preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 wneud cais i Gynllun Setliad yr UE (EUSS). Daeth y cyfnod gras hwn i ben ar 30 Mehefin 2021. Os ydych chi'n ddinesydd o'r UE, yr AEE neu'r Swistir sy'n dechrau gweithio yn y DU o'r 1 Gorffennaf 2021, bydd angen rhyw fath o ganiatâd arnoch i weithio p'un ai trwy gynllun Setliad yr UE neu fel fisa o dan system fewnfudo ar sail pwyntiau'r DU.

Sylwch fod dinasyddion Iwerddon yn parhau i fod â mynediad anghyfyngedig at waith yn y DU ac nid oes angen caniatâd arnynt i weithio yma.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe Llywodraeth y DU ar y system ar sail pwyntiau.

Pa fisa sydd ei angen arnaf fel aelod rhyngwladol o’r staff?

Pan fyddwch yn gwneud cais drwy ein system ar-lein, gofynnir i chi a ydych yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Os ydych chi'n destun rheolaeth fewnfudo, bydd cyfres o gwestiynau ychwanegol yn ymddangos mewn perthynas â’ch cymhwysedd i weithio yn y DU.

Mae rhagor o wybodaeth ar dystysgrifau nawdd, cyfrifoldebau deiliaid trwydded ac addasrwydd swydd ar gael ar wefan Fisâu a Mewnfudo y DU. Gallwch weld gwybodaeth ddefnyddiol ar fyw a gweithio yn y DU ar wefan Euraxess y Cyngor Prydeinig.

Fisâu

Os nad ydych chi’n ddinesydd o’r Deyrnas Unedig neu Iwerddon, efallai y bydd angen i chi wneud cais a fisa cyn y byddwch yn cael dechrau gwaith yn gyfreithiol yn y DU.

Os ydych chi’n ansicr p’un a oes angen fisa arnoch ai peidio, ewch i wefan Fisâu a Mewnfudo y DU.

Gall gwneud cais am fisa gymryd amser, felly mae’n bwysig gwneud cais mewn da bryd cyn rydych chi’n bwriadu teithio. Rhagor o wybodaeth am amseroedd prosesau fisa yn eich gwlad.

Prawf o'ch hawl i weithio

Unwaith y bydd gennych fisa i ddod i mewn i’r DU, maen rhaid i chi roi prawf o’ch hawl i weithio yn y DU i ni a’ch pasbort/cerdyn biometrig cyn i chi ddechrau gweithio. Os na fyddwch chi’n rhoi’r rhain i ni cyn eich diwrnod cyntaf, ni fyddwch yn gallu dechrau gweithio ar y dyddiad a nodwyd yn eich cytundeb.

Cyn neu ar eich diwrnod cyntaf, bydd angen i chi roi gwybod i ni:

  • beth yw eich cyfeiriad preswyl cyfredol yn y DU
  • beth yw eich rhif ffôn (llinell dir neu symudol).

Os ydych chi’n cael eich noddi gan y Brifysgol o dan y System Seiliedig ar Bwyntiau, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni bob tro y bydd eich cyfeiriad neu rif ffôn yn newid.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif ATAS gan Ganolfan Gwrth-Amlhau a Rheoli Arfau y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO) cyn i chi wneud eich cais am fisa.

Mae tystysgrif ATAS yn rhad ac am ddim.

Nid oes angen tystysgrif ATAS arnoch os ydych yn ddinesydd o:

  • wlad yn yr UE
  • yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
  • Awstralia
  • Canada
  • Japan
  • Seland Newydd
  • Singapôr
  • De Corea
  • Y Swistir
  • Unol Daleithiau America

Bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif ATAS:

  • Nid ydych yn ddinesydd o un o'r gwledydd uchod AC;
  • Rydych chi'n gweithio mewn rôl gyda chod galwedigaeth perthnasol A;
  • Mae eich rôl yn cynnwys ymchwil ar lefel ôl-raddedig ac uwch mewn rhai pynciau sensitif lle y gellid defnyddio gwybodaeth i ddatblygu, gwella neu gefnogi Technoleg Filwrol Gonfensiynol Uwch ac Arfau Dinistrio Torfol, neu eu dull o gyflawni.

Os ydych chi'n ddarostyngedig i'r gofyniad ATAS, bydd eich llythyr contract a chynnig (ar gyfer staff newydd) neu'ch llythyr ymestyn contract (ar gyfer staff presennol) yn eich hysbysu ac yn cynnwys manylion am sut i wneud cais am dystysgrif.

Rhaid i chi gael tystysgrif ATAS cyn i chi wneud eich cais am fisa, fel arall bydd y cais am fisa yn cael ei wrthod. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am eich tystysgrif ATAS cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi o ran eich dyddiad cychwyn gyda ni. Gall y FCDO gymryd o leiaf 4 wythnos i brosesu cais ATAS (yn hirach rhwng Ebrill a Medi), felly dylech gofio hyn wrth drefnu eich dyddiad cychwyn gyda'ch rheolwr llinell.

Darganfyddwch fwy am ATAS ar wefan Llywodraeth y DU
Gwneud cais am dystysgrif ATAS gan yr FCDO
Gwiriwch a oes angen tystysgrif ATAS arnoch

Estyniad i aros yn y DU

Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi gennym ni a’ch bod wedi cael estyniad aros yn y DU bydd angen i ni weld eich cerdyn biometrig newydd pan fyddwch chi’n ei gael.

Byddwn yn cynnal gwiriadau dilynol ar eich pasbort neu gerdyn biometrig ac yn cysylltu â chi pan fydd angen gwiriad.

Gwybodaeth ddefnyddio

Y drefn ymgeisio 

Pa ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer y cais?

Rhaid i chi gyflwyno eich cais ar-lein trwy’r porth swyddi. Nid oes angen unrhyw ddogfennau gorfodol ychwanegol. Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais am swydd ar Radd 6 neu uwch, gallwch ategu CV, papurau cyhoeddedig ac ati at eich cais.  

Ydw i angen llythyr cyflwyno/atodol?

Nid ydym yn derbyn llythyrau atodol, fodd bynnag, rhaid i chi ddangos eich yn bodloni’r meini prawf hanfodol a dymunol a nodir yn y disgrifiad swydd. Mae croeso i chi ddarparu’r wybodaeth hon mewn dogfen Word neu pdf a’i llwytho i fyny i’r ffurflen gais.   

Ydw i’n gallu anfon fy CV yn hytrach na llenwi ffurflen gais?

Nac ydych. Mae’r ffurflen gais a manyleb y person yn elfennau allweddol yn ein proses o lunio rhestr fer a phenodi. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn bodloni’r meini prawf trwy ddefnyddio’r dudalen Gwybodaeth Ategol ar y ffurflen gais. 

Sut ydw i’n ysgrifennu gwybodaeth ychwanegol?

Gallwch ddefnyddio’r adran gwybodaeth ychwanegol i ddangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol a dymunol o’r fanyleb bersonol a geir yn y disgrifiad swydd. Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ynghylch bodloni’r meini prawf yn yr adran hon, efallai na fydd gennym ddigon o wybodaeth i symud eich cais yn ei flaen.  

A yw’r drefn benodi yr un fath i ymgeiswyr mewnol ac allanol?

Ydi – mae ymgeiswyr mewnol yn mynd trwy’r un drefn i gael eu cyflogi ag ymgeiswyr allanol – o’r cam gwneud cais i lunio’r rhestr fer a chael cyfweliad. Fodd bynnag, mae ymgeiswyr mewnol yn gallu gweld a gwneud cais am swyddi gwag wythnos cyn i’r swydd wag agor i ymgeiswyr allanol. Mae hyn yn unol â’r hyn y cytunwyd  iddo â’r Undebau Llafur.

Does gen i ddim cyfrifiadur na ffôn glyfar; ydw i’n dal yn gallu gwneud cais am swydd?

Gall ymgeiswyr fynd i’r Swyddfa Adnoddau Dynol i lenwi ffurflen gais ar bapur a’i chyflwyno’n bersonol. Sylwer – mae’r drefn wedi hynny (rhestr fer a chyfweliad) yn parhau yr un fath.  

A gynigir unrhyw gymorth hygyrchedd ar gyfer cyfweliadau ar-lein neu wyneb yn wyneb?

Gofynnir i’r ymgeisydd e-bostio i roi gwybod am unrhyw ofynion arbennig wrth ymateb i’r e-bost “Gwahoddiad i Gyfweliad”.

Beth mae Hyderus o ran Anabledd yn ei olygu?

Mae Hyderus o ran Anabledd yn gynllun gan y llywodraeth sydd wedi’i gynllunio i annog cyflogwyr i benodi a chadw pobl anabl a rhai sydd â chyflyrau iechyd. Mae wedi disodli’r cynllun blaenorol ‘Dau Dic: yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl’. Mae’r cynllun yn wirfoddol ac wedi’i ddatblygu gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl.

A oes unrhyw drefn ar waith i ymgeiswyr mewnol sydd mewn perygl o golli eu swydd / ystyriaeth ymlaen llaw?

Bydd ymgeiswyr sy’n cael ystyriaeth ymlaen llaw yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn cael eu cyfweld cyn unrhyw ymgeiswyr eraill. Bydd ymgeiswyr mewnol yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn cael eu cyfweld cyn rhai allanol.

A yw cyfweliadau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu ar-lein?

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb neu ar-lein yn dibynnu ar ofynion y tîm yn ogystal â hwylustod yr ymgeiswyr a’r panel cyfweld.   

Sut ydw i’n aildrefnu cyfweliad?

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod ar gael ar gyfer eich cyfweliad ar y dyddiad a’r amser y cewch eich gwahodd. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau arbennig, rydym yn fodlon adolygu eich cais ac aildrefnu eich cyfweliad. Cysylltwch â ad@aber.ac.uk  

Sut gallaf i gael adborth?

Dydyn ni ddim yn gallu rhoi adborth ar y cam gwneud cais, ond os yw ymgeiswyr wedi cael cyfweliad a fu’n aflwyddiannus mae croeso iddynt ofyn am adborth trwy e-bostio ad@aber.ac.uk  

Y system recriwtio

Sut ydw i’n creu cyfrif i wneud cais am swydd?

Bydd angen i chi greu cyfrif gyda chyfeiriad e-bost personol i wneud cais am unrhyw swyddi ar y wefan. 

Ydw i’n gallu ymgeisio am swydd heb greu cyfrif?

Nac ydych, mae’n rhaid i chi greu cyfrif er mwyn gallu ymgeisio am swydd. 

Rwyf wedi anghofio manylion fy nghyfrif, sut mae ailosod fy enw defnyddiwr a’r cyfrinair?

Dydyn ni ddim yn gallu ailosod eich cyfrif dros y ffôn neu trwy e-bost. Gofynnwn i chi fynd i jobs.aber.ac.uk  a dewis ‘mewngofnodi’, ac ar y dudalen hon bydd angen i chi wasgu ‘wedi anghofio manylion mewngofnodi’ a bydd y system yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost. Byddwch yn cael e-bost a fydd yn rhoi modd i chi ailosod eich gwybodaeth mewngofnodi.   

A oes angen i mi lenwi’r ffurflen gais i gyd yn un sesiwn?

Nac oes – bydd pob adran yn cael ei chadw bob yn dipyn wrth i chi lenwi a chadw darnau o’r ffurflen gais. 

Ydw i’n gallu gwneud cais am sawl swydd wahanol o’r un porth?

Ydych – gallwch ymgeisio am fwy nag un swydd ar yr un pryd.

Ydw i’n gallu gwneud cais o fy nyfais symudol?

Ar hyn o bryd, dim ond trwy fwrdd gwaith y gellir cyflwyno ceisiadau ond rydym wrthi’n gweithio ar gydnawsedd â dyfeisiau symudol. Mae angen llenwi pob maes gofynnol er mwyn cyflwyno cais. Rydym yn gweithio gyda datblygwyr i roi modd cyflwyno cais trwy gymwysiadau symudol a llechen. 

Sut ydw i’n gallu dilyn hynt fy nghais ar y porth?

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, gallwch fewngofnodi i’r porth swyddi a gweld statws eich cais. Rydym hefyd yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ar ba gam y mae eich cais.  

Sut fydda i’n gwybod bod cofnodion fy nghais wedi cael eu cadw?

Er mwyn adolygu eich cais ar unrhyw adeg, cliciwch ar y rhan o’r cais yr hoffech ei weld ac fe welwch y wybodaeth a roddwyd gennych.  

Sut fydda i’n gwybod bod fy nghais wedi’i gyflwyno?

Ar ôl ei gyflwyno, byddwch yn cael cydnabyddiaeth yn awtomatig yn dweud bod y cais wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus.  

Os na fyddwch yn cael y cadarnhad hwn, edrychwch yn eich post sothach a gwnewch yn sicr bod y cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych yn gywir. Os yw’r e-bost wedi’i anfon i’r blwch sothach, rydym yn argymell eich bod yn gosod ein cyfeiriad e-bost yn un nad yw’n sothach, er mwyn sicrhau na fydd unrhyw negeseuon e-bost eraill a anfonir atoch yn mynd i’ch blwch post sothach

Neu gallwch ddefnyddio’r ddolen “Fy Ngheisiadau” ar y Porth recriwtio a sicrhau bod y cais wedi’i restru. Os yw eich cais wedi’i restru o dan yr adran ‘Ceisiadau ar y gweill’, cliciwch ar ‘Diweddaru’ ac edrychwch i wneud yn siŵr fod pob adran o’r ffurflen gais wedi’i chwblhau, yna cliciwch ar “Gwneud Cais”.

Sut ydw i’n gallu diwygio fy nghais ar ôl ei gyflwyno?

Nid oes modd gwneud unrhyw newidiadau i’r cais ar ôl ei gyflwyno. Fodd bynnag, gall yr ymgeisydd dynnu’r cais yn ôl ac ailymgeisio. Sylwch mai dim ond cyn y dyddiad cau y dylid gwneud hyn.  

Sut fydda i’n gwybod os byddaf wedi fy rhoi ar y rhestr fer i gael cyfweliad?

Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau eich bod wedi cael eich rhoi ar y rhestr fer am gyfweliad.  

Pan nad ydw i’n gallu cyflwyno fy ffurflen gais?

Rydym wrthi’n gweithio ar fedru cyflwyno ceisiadau ar declyn symudol, ond ar hyn o bryd dim ond trwy fwrdd gwaith y gellir gwneud hyn. Mae angen llenwi pob maes gofynnol er mwyn cyflwyno cais. 

Pam nad yw’r botwm gwneud cais ar gael i glicio arno?

Rydym wrthi’n gweithio ar fedru cyflwyno ceisiadau ar declyn symudol, ond ar hyn o bryd dim ond trwy fwrdd gwaith y gellir gwneud hyn. Mae angen llenwi pob maes gofynnol er mwyn cyflwyno cais. 

Sut allaf i newid fy nghyfeiriad e-bost/manylion cysylltu?

Gall ymgeiswyr newid manylion personol ar-lein unwaith y bydd y cyfrif wedi’i greu. 

Ydych chi’n cadw fy manylion hyd yn oed os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Caiff data manylion ymgeiswyr ar gyfer defnyddwyr anweithredol eu cadw am 395 diwrnod (13 mis) ar y system. Wedi hynny, mae’r data yn cael ei wneud yn ddienw a’r holl ddogfennau yn cael eu dileu. Cofiwch, fodd bynnag, fod defnyddwyr gweithredol yn aros ar y system am gyfnod amhenodol.  

Ar ôl gwneud cais / Cynefino  

Pryd fydda i’n cael gwybod am ganlyniad fy nghais?

Fel arfer byddwn yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i’r dyddiad cau. 

Pa mor hir yw’r broses?

Rydym yn penodi fel arfer rhwng 4 ac 8 wythnos ar ôl y dyddiad cau. 

Pa ddogfennau sydd eu hangen i brofi bod gennych hawl i weithio?

Mae gwybodaeth am y broses hawl i weithio ar gael ar y ddolen isod:

https://www.gov.uk/prove-right-to-work