Astudio dramor
Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa yn y dyfodol.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau.
Mae cael amrywiaeth o brofiadau'n werthfawr ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac fe gewch gyfleoedd gwych i astudio dramor yn ystod eich gradd. Mae gennym Gydlynydd Cyfnewid penodol sy'n gallu cynghori myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru sy'n awyddus i ganfod mwy am astudio dramor. Bydd Dr Sian Nicholas, ein Cydlynydd, yn eich cefnogi yn ystod y broses gwneud cais.
Mae gennym swyddfa Cyfleoedd Byd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd a fydd yno i'ch helpu i ganfod atebion i'ch cwestiynau cyn, yn ystod ac ar ôl eich taith.
Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru