Ymchwil
Mae ein hymchwil yn arloesol ac o safon fyd-eang.
Rydym yn arwain ac yn cyfrannu at brosiectau a chyhoeddiadau ymchwil uchel eu bri, a llawer ohonynt yn bellgyrhaeddol y tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth a'r cyffuniau - drwy gyfrwng y teledu, radio a thrwy gyhoeddusrwydd gan amgueddfeydd, ymhlith eraill.
Mae pob aelod o'r staff dysgu yn ymchwilwyr gweithgar ar flaen y gad ym maes hanes, gan weithio ar lefel ryngwladol. Mae'r rhain yn bobl sy'n cael dylanwad ac sy'n gwneud gwahaniaeth, wrth siapio syniadau ac agweddau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae ymchwil ein staff yn bwydo i mewn i'r hyn y maent yn ei ddysgu i'r genhedlaeth nesaf o haneswyr.
Mae ein gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar bedwar cyfnod cronolegol – Oesoedd Canol, Modern Cynnar, Prydain ac Ewrop Fodern a Chymru Fodern – er ein bod yn gwneud ymchwil ar Asia hefyd. Rydym yn gweithio ar draws amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys rhai o'r ffyrdd y mae haneswyr heddiw yn ymchwilio ac yn ysgrifennu am y gorffennol. Ceir cryfderau amlwg, yn ei holl ehangder, ym maes hanes gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a chrefyddol.
Mae nifer o themâu yn sefyll allan: sut y mae pobl wedi deall ac ysgrifennu am hanes mewn cymdeithasau yn y gorffennol; hanes meddyginiaeth, gwyddoniaeth a thechnoleg; a hanes y cyfryngau.
Mae ein hymchwil yn arloesol ac o safon fyd-eang. Mae esiamplau'n cynnwys ein hymchwil ar seliau'r Oesoedd Canol, natur ysgrifennu hanesyddol dros amser, sut mae gwyddoniaeth fodern wedi datblygu, a sut mae profiadau hanesyddol argyfyngau megis newyn wedi newid.
Cewch ganfod mwy am ddiddordebau ymchwil a chyhoeddiadau ein staff ar dudalen Porth Ymchwil Aberystwyth.
Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy am ein prosiectau a seminarau ymchwil.