Hanesydd o Aberystwyth yn helpu i ddatrys dirgelwch bag sidan o’r oesoedd canol
Dr Elizabeth New, Prifysgol Aberystwyth
17 Rhagfyr 2024
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o dîm rhyngwladol sydd wedi gwneud darganfyddiad cyffrous sy'n cysylltu bag sidan 800 oed yn Abaty Westminster gyda Charlemagne, yr Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd cyntaf.
Mae tîm y prosiect, sy'n cynnwys Dr Elizabeth New, Darllenydd yn hanes yr oesoedd canol yn Aberystwyth, wedi cynnal astudiaeth fanwl o fag sidan canoloesol sy'n gorchuddio sêl fawr Brenin Harri’r III ar ddogfen a gedwir yn Abaty Westminster.
Mae Dr New yn arbenigwr ar seliau cwyr, a oedd yn rhan gyffredin o fywyd bob dydd yn yr oesoedd canol, yn debyg iawn i fel y mae llofnodion a logos heddiw.
Ychydig iawn o'r gorchuddion sidan a lapiwyd o amgylch seliau cwyr sydd wedi goroesi, ac nid yw'r rhai sydd wedi goroesi wedi cael llawer o sylw gan ymchwilwyr hyd yn hyn.
Yn rhyfeddol, fodd bynnag, mae casgliad o dros drigain o fagiau o'r fath wedi'u cadw yng nghasgliadau Abaty Westminster, gan gynnig cyfle prin i astudio tecstilau o’r oesoedd canol.
Mae'r bag sidan a astudiwyd gan y tîm ymchwil yn cynnwys sêl y brenin a roddwyd ar restr eiddo a ysgrifennwyd ar femrwn, dyddiedig 1267.
Roedd saith mlynedd o ryfel a sawl prosiect adeiladu drud wedi dihysbyddu’r Trysorlys, ac roedd y rhestr eiddo yn cofnodi'r eitemau yr oedd y brenin yn eu tynnu o gysegrfa Sant Edward Gyffeswr yn Abaty Westminster - sef y safle lle’r oedd brenhinoedd a breninesau Lloegr yn cael eu claddu fel arfer - er mwyn eu hadneuo, gan addo eu dychwelyd o fewn 18 mis.
Rhestr eiddo Harri’r III o 1267 trwy ganiatâd caredig Deon a Chabidwl Westminster
Mae'r bag hynafol wedi'i wneud o ddau ddarn ar wahân o sidan drud, patrymog. Mae gan yr un mwyaf addurnedig o'r ddau, a oedd yn gorchuddio blaen y sêl, batrwm blodeuog ac mae'n dangos ysgyfarnog yn sefyll ar ei choesau ôl, o dan aderyn â chrafangau â'i adenydd ar led.
Darganfu'r ymchwilwyr fod y sidan hwn yn union yr un fath â phatrwm a strwythur gweuedig y sidan enwog a ddefnyddiwyd fel amdo claddu ar gyfer gweddillion yr Ymerawdwr Charlemagne pan gafodd ei ail-gladdu yn Eglwys Gadeiriol Aachen yn yr Almaen yn 1215.
Credir bod y sidan yn Eglwys Gadeiriol Aachen wedi’i wehyddu cyn 1215 yn Nwyrain y Canoldir neu Sbaen. Mae tîm y prosiect yn credu bod y sidan yn Abaty Westminster wedi'i wehyddu yn yr un gweithdy, o bosibl ar yr un ffrâm wehyddu a chan yr un gwehydd.
Dywedodd Dr Elizabeth New o Brifysgol Aberystwyth:
"Mae'r darganfyddiadau cyffrous rydyn ni wedi'u gwneud trwy astudiaeth fanwl o ddim ond un o tua 65 o fagiau sêl a gedwir yn Abaty Westminster, yn dangos yn glir y potensial ar gyfer ymchwil bellach ar decstilau, seliau a dogfennau hanesyddol o’r oesoedd canol.
"Mae pob un o'r bagiau hyn yn unigryw a bydd gan bob un ei stori unigryw ei hun. Mae rhai o'r tecstilau dros 1000 o flynyddoedd oed, ac mae eraill yn dyddio'n ôl i 600-700 mlynedd yn ôl. Mae rhai wedi dod yr holl ffordd ar hyd y Ffordd Sidan hynafol, gan groesi o'r byd Islamaidd i ogledd Ewrop. Gyda'i gilydd, maen nhw'n agor ffenestr newydd i haneswyr ar gysylltiadau masnach a diwylliannol yr Oesoedd Canol."
Mae'r bag sêl sidan canoloesol a astudiwyd gan dîm y prosiect bellach wedi cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn Orielau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yn Abaty Westminster, lle bydd yn cael ei arddangos tan y Pasg 2025.
Bag sidan Harri’r III a astudiwyd gan dîm y prosiect, gyda chaniatâd caredig Deon a Chabidwl Westminster
Mae aelodau eraill o'r tîm ymchwil rhyngwladol yn cynnwys yr Athro Corinne Mühlemann o'r Institut für Kunstgeschichte (Sefydliad Hanes Celf) ym Mhrifysgol Bern; Dr Matthew Payne, Ceidwad yr Archifau yn Abaty Westminster; Helen Wyld, Uwch Guradur Tecstilau Hanesyddol yn Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban.
Mae canfyddiadau academaidd tîm y prosiect wedi'u cyhoeddi yn rhifyn Rhagfyr 2024 o'r Burlington Magazine, cyfnodolyn blaenllaw ar gyfer hanes celf a beirniadaeth.