Cynhadledd i Uwchraddedigion Ymchwil PA 2025
CYNALIADWYEDD
Pryd: Dydd Llun, 7 Ebrill 2025
Ble: Prif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Campws Penglais
Y Cysyniad: Mae'n bleser gennym gyhoeddi’r Gynhadledd i Uwchraddedigion Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2025, a gynhelir ar 7 Ebrill 2025. Bydd y gynhadledd eleni yn canolbwyntio ar thema ganolog 'Cynaliadwyedd', gan ddod â lleisiau newydd o bob disgyblaeth at ei gilydd i roi llwyfan i faterion pwysicaf ein hoes. Rydym yn gwahodd myfyrwyr o wahanol gyrsiau uwchraddedig ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa i gyfrannu eu syniadau a'u safbwyntiau.
Mae'r gynhadledd yn cynnig llwyfan i gyflwyno ymchwil wreiddiol, i gymryd rhan mewn trafodaethau rhyngddisgyblaethol, ac i rwydweithio â chyd-fyfyrwyr a staff academaidd. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn cyflwyniadau sy'n ymdrin â dimensiynau niferus cynaliadwyedd o fewn ac ar draws meysydd astudio amrywiol. Ymunwch â ni yng nghynhadledd 2025 i gyfrannu at drafodaethau ystyrlon a rhannu eich dealltwriaeth ar gynaliadwyedd.
Gall yr is-themâu gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Chadwraeth
- Technolegau Cynaliadwy ac Arloesi
- Safbwyntiau economaidd ar Gynaliadwyedd
- Polisi Deddfwriaeth, Gwleidyddiaeth a Chynaliadwyedd
- Dulliau rhyngddisgyblaethol o Gynaliadwyedd
- Mentrau cynaliadwy yng Nghymru
- Cynaliadwyedd ieithyddol
- Hanes o ddefnyddio technoleg at ddibenion cynaliadwy
- Cynnal a chadw diwylliant materol/eitemau a dogfennau diriaethol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
- Cynaliadwyedd llenyddol/perfformiad
- Creu celf gynaliadwy
- Cynaliadwyedd mewn Addysg/Ymchwil
- Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig
Dyddiadau Pwysig
Cyflwyno Crynodebau yn dechrau: 16 Rhagfyr 2024
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2025 12:00 Canol dydd
Cydnabyddeb: 3 Mawrth 2025
Canllawiau cyflwyno
Rydym yn gwahodd crynodebau ar gyfer cyflwyniadau llafar a phosteri sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r is-themâu uchod. Anogir cyflwyniadau gan bob disgyblaeth, ac rydym yn rhoi croeso arbennig i brosiectau rhyngddisgyblaethol sy'n meithrin dulliau newydd o gynaliadwyedd.
- Hyd Crynodeb: 250 o eiriau
- Dyddiad cau ar gyfer Cyflwyno: 12 Chwefror 2025 12:00 Canol dydd
Cyflwyno Crynodeb a Dolen Gofrestru: Cliciwch yma i gyflwyno
Gwobrau i’r Crynodeb Gorau
Bydd y crynodeb/au gorau a gyflwynir yn cael eu dewis gan aelodau'r pwyllgor rhaglen technegol ar ddiwrnod y gynhadledd a rhoddir talebau yn wobr.
Canllawiau Cynhadledd i Uwchraddedigion (Cliciwch yma)
Cysylltu â Ni
E-bost: Ysgol y Graddedigion grastaff@aber.ac.uk