Ymunwch â'ch Cymuned Ôl-raddedig

Beth mae'n ei olygu i fod mewn Cymuned?

Mae perthyn i gymuned yn rhan hanfodol o'ch taith wrth ichi astudio’n ôl-raddedig. Pan fyddwch mewn cysylltiad ag ôl-raddedigion eraill bydd gennych rwydwaith er mwyn eich cefnogi eich gilydd, yn llawn pobl eraill sy'n deall heriau penodol bywyd ôl-raddedigion. Mae hyn hefyd yn bwysig iawn er mwyn sicrhau na fyddwch yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun - rhywbeth sy'n gallu bod yn heriol i fyfyrwyr ymchwil, yn aml.

Gall cymunedau pynciol eu cefnogi ei gilydd ar faterion academaidd allweddol – fel sut i ymdopi â gweithio yn rhan o dîm mewn labordy neu drafod y datblygiadau diweddaraf mewn maes ymchwil penodol.

Gall cymunedau sy'n ymwneud â mathau penodol o brofiadau fod yn hanfodol wrth ddod o hyd i ôl-raddedigion eraill sy’n gallu eu cefnogi ei gilydd ar faterion mor amrywiol â chydbwyso ymchwil â bod yn rhiant, datblygu perthynas gadarnhaol ag arolygwyr, a rhannu diddordebau er mwyn hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

Mae'n bwysig bod ôl-raddedigion yn creu eu cymunedau eu hunain, gan fod anghenion yn gallu newid o flwyddyn i flwyddyn. Ond bydd Ysgol y Graddedigion yn eich cynorthwyo i roi pethau ar waith. Felly, os oes arnoch eisiau creu grŵp cymunedol ôl-raddedig, cysylltwch â Jan yn Ysgol y Graddedigion (jlb@aber.ac.uk) a siaradwch â ni i drafod sut y gallwn helpu i wireddu hynny.

Cystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig

Cyllid gan Ysgol y Graddedigion ar gyfer Mentrau a arweinir gan Fyfyrwyr: Cystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig

Mae Ysgol y Graddedigion yn gwahodd ceisiadau gan fyfyrwyr ymchwil am gyllid i gynorthwyo gweithgareddau a arweinir gan y myfyrwyr yn 2023-24. Gallai hyn gynnwys myfyrwyr (neu grwpiau o fyfyrwyr) yn trefnu gweithdai, cyrsiau, cynadleddau neu’n gwahodd siaradwyr i ddigwyddiadau.

Yn benodol, hoffem annog digwyddiadau arfaethedig a gynhelir yng Nghanolfan Uwchraddedigion Penglais.

Fel arfer rydym yn cynnal dwy gystadleuaeth: un ym mis Rhagfyr a’r llall ym mis Mawrth, gyda swm o hyd at £1,000 ar gael ar bob achlysur i gynorthwyo’r fenter lwyddiannus.

Nid oes rai i geisiadau’r myfyrwyr fod yn fwy nag un ochr o A4 a dylent gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Disgrifiad byr o natur y gweithgaredd;
  • Dyddiad a lleoliad gwirioneddol neu arfaethedig y gweithgaredd;
  • Costau’r gweithgaredd a’r cyfanswm y gofynnwyd amdano gan y Gystadleuaeth i’r Gymuned Uwchraddedig;
  • Y gynulleidfa/cyfranogwyr dan sylw – yn benodol a fyddai, neu a allai’r gweithgaredd fod yn agored i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig o adrannau eraill.

Cyflwynwch y ceisiadau i Dr Ian Archer, Swyddog Datblygu Sgiliau, Ysgol y Graddedigion, 2.05 Adeilad Cledwyn, e-bost: ina@aber.ac.uk erbyn un o’r dyddiadau cau canlynol:

26 Ionawr 2024

Gofynnir i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu adroddiad byr ar ôl cynnal y gweithgaredd.

Rhestr o Weithgareddau Blaenorol

Rhwydwaith Ôl-raddedig Undeb y Myfyrwyr

Penderfynodd UM greu rhwydwaith ôl-raddedig ar gyfer ôl-raddedigion i gwrdd â myfyrwyr sydd ar yr un lefel academaidd.

Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Nod y Rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa (ECR) yw darparu cymorth a chyngor i bobl sydd â diddordeb mewn ymchwil ac sy'n ystyried eu hunain yn ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrifysgol Aberystwyth.