Lles i Ôl-raddedigion

Gall Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn y Brifysgol eich cynorthwyo ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ôl-raddedig yma yn Aberystwyth. Ar gyfer myfyrwyr ymchwil, mae hyn hefyd yn cynnwys y cyfnod ar ôl eich viva pan fyddwch, o bosibl, yn gwneud cywiriadau i'ch traethawd ymchwil. Peidiwch ag oedi os oes angen ichi gysylltu â hwy.

Rydyn ni yma i helpu unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater lles, boed yn fater sy'n ymwneud â chyfeillgarwch, profedigaeth, gorbryder neu faich gwaith, problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu rai difrifol a pharhaus. - Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Sesiynau galw-heibi
Mae'r Gwasanaeth Lles hefyd yn darparu sesiynau galw-heibio yn benodol i uwchraddedigion. Does dim angen archebu lle nac amser. Os oes gennych gwestiwn neu bryder am fater lles, dewch draw am sgwrs gyflym.

Cynhelir y sesiynau hyn yn y Ganolfan Uwchraddedig, ac mae'r dyddiadau nesaf fel a ganlyn:


Dydd Mercher 20 Mawrth 2024 3-4pm

Dydd Mercher 10 Ebrill 2024 2-4pm
Dydd Mercher 1 Mai 2024 2-4pm

Dyma rai dolenni pwysig: