Amdanom Ni

Rydym wedi ehangu tîm Ysgol y Graddedigion trwy benodi dau Ddirprwy Bennaeth ychwanegol: yr Athro Matt Jarvis (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) a Dr Mitch Rose (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), y naill a’r llall ar sail 0.2 CALl. Er y bydd y ddau’n cyfrannu at gyfeiriad cyffredinol Ysgol y Graddedigion, bydd Matt yn cymryd cyfrifoldeb penodol am les uwchraddeigion ymchwil a'r Concordat; a Mitch yn cymryd cyfrifoldeb penodol am y rhaglen datblygu arolygwyr uwchraddedigion ymchwil a'r Grŵp Ymgynghorol Myfyrwyr Ymchwil. Bydd Mitch yn parhau (ar sail 0.4 CALl yn ychwanegol) i ddarparu ein hyfforddiant cynllunio ymchwil a'n hyfforddiant ansoddol ac yn cyfrannu at y rhaglen AUMA.  

Rydym wedi ymestyn swydd Dr Sophie Bennett-Gillison, Dirprwy Bennaeth y Rhaglen DProf, i fod yn un 0.3 CALl. Bydd hi’n datblygu rhagor ar ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr DProf, ond bydd hefyd yn cyfrannu'n benodol at ein rhaglenni cynefino, AUMA a datblygu arolygwyr. 

Mae Dr Peter Wootton-Beard (IBERS) a Dr Sam Doyle (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) wedi dechrau ar swyddi yn Ysgol y Graddedigion yn ddiweddar hefyd (y naill yn Uwch Gymrawd Dysgu ar sail 0.1 CALl a’r llall yn Ddarlithydd 0.3 CALl) a bydd y naill yn darparu cefnogaeth o ran dysgu hybrid a’r llall o ran ein darpariaeth feintiol. Rydym hefyd wedi ffurfioli'r cymorth ysgrifennu, y gwaith cydlynu modiwlau a’r addysgu y mae Dr John Morgan yn ei ddarparu (ar sail 0.2 CALl) ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig. Bydd John hefyd yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol o fewn ein darpariaeth DProf a chynefino. 

Wrth ddatblygu'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr, rydym wedi penodi Dr Sarah Wydall yn Arweinydd Academaidd (ar sail 0.25 CALl) a Dr Otar Akanyeti yn Ddirprwy Arweinydd Academaidd (ar sail 0.15 CALl). Bydd y ddau yn arwain ymdrechion cynyddol y brifysgol i greu amgylchedd ymchwil iach, cynhwysol, a chefnogol lle caiff ymchwilwyr eu recriwtio, eu cyflogi, a'u rheoli o dan amodau sy'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau, a lle cânt amser a chyfle ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Bydd tîm y Concordat hefyd yn cyfrannu at gynllunio a darparu rhaglen Arwain Ymchwil Aberystwyth-Bangor. 

Gyda'i gilydd, mae'r penodiadau ffracsiynol hyn yn cryfhau'r gefnogaeth yn sylweddol er mwyn galluogi uwchraddedigion ymchwil ac ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa ledled y brifysgol i lwyddo yn y gyrfaoedd y maent wedi eu dewis, gan ddod ag ystod o arbenigedd a phrofiad yn ogystal â brwdfrydedd i'w swyddi. 

Cânt gefnogaeth arbenigol gan dîm ehangach Ysgol y Graddedigion, sy'n cynnwys Jan Davies (Cofrestrydd Cynorthwyol), Shân Jones (Swyddog Gweinyddol), Julie Hancox (Gweinyddwr DProf), a Claire Salter (Cynorthwyydd Gweinyddol y Gofrestrfa Academaidd), a gellir cysylltu â phob un ohonynt gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ysgol.graddedigion@aber.ac.uk. . Yn olaf, mae Dr Alan Macmillan (Cofrestrydd y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol), yn gyfrifol am Ysgol y Graddedigion yn y Gofrestrfa Academaidd ac yn goruchwylio polisïau, rheoliadau a sicrwydd ansawdd o safbwynt uwchraddedigion ymchwil.